Archives Wales Your gateway to history



You are here: Search the Catalogue

National Library of Wales

Papurau Idwal Jones

Reference code(s): GB 0210 IDWNES

Held at: National Library of Wales

Title: Papurau Idwal Jones

Short title: Jones, Idwal, papurau (papers)

Dates of creation: 1915-1957

Level of description: Fonds

Extent and medium: 0.045 metrau ciwbig (5 bocs)

Name of creator(s): Idwal Jones; Gwenallt

CONTEXT

Administrative and biographical history: Yr oedd Idwal Jones (1895-1937) yn athro ysgol, digrifwr, bardd a dramodydd. Fe'i ganwyd ac addysgwyd yn Llanbedr Pont Steffan, yn yr ysgol elfennol, 1900-1908, a Choleg Dewi Sant, 1909-1911. Ar ôl gwasanaethu yn Affrica yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Saesneg yn 1922. Wedi hynny bu'n athro ym Mhont ar fynach, Ceredigion, ac yn yr Adran Efrydiau Allanol yn Aberystwyth, 1928-1932. Ysgrifennodd ddramâu a sioeau cerdd gan gynnwys Gwrid y Wawr(1921), P'un (1927), Tibit y Popty (1927) and Yr Anfarwol Ifan Harris (1928), a sgriptiau radio i'r BBC. Cyfrannodd at amrywiol gylchgronau a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi a pharodïau: Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill (Llandysul, 1934) a Cerddi Digri Newydd a Phethau o'r Fath (Llandysul, 1937). Bu farw 18 Mai 1937. Cyhoeddodd D. Gwenallt Jones cofiant iddo, Cofiant Idwal Jones (Aberystwyth).

CONTENT

Scope and content: Llythyrau, 1915-1936, yn bennaf at ei deulu tra bu'n gwasanaethu yn y fyddin, 1915-1919; teipysgrifau a llawysgrifau o'i ddramâu a sgriptiau radio, 1920-1936, a thorion papur newydd o adolygiadau,1926-1940; barddoniaeth, caneuon, parodïau, rhyddiaith a deunydd arall,1924-1932; copi teipysgrif o 'Ann y Wernolau',drama gan ei fam, Mrs Teifi Jones,1921; a deunydd amrywiol a ychwanegwyd gan D. Gwenallt Jones tra bu'n ymchwilio ar gyfer Cofiant Idwal Jones,1934-1957 = Letters, 1915-1936, mainly to his family whilst serving in the army, 1915-1919; typescripts and manuscripts of plays and radio scripts, 1920-1936, and newspaper cuttings of reviews, 1926-1940; poetry, songs, parodies, prose and other material, 1924-1932; a typescript copy of 'Ann y Wernolau', a play by his mother, Mrs Teifi Jones, 1921; and miscellaneous material added by D. Gwenallt Jones while researching Cofiant Idwal Jones, 1934-1957.

ACCESS AND USE

Language/script: Cymraeg, Saesneg

System of arrangement: Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth; sgriptiau ac adolygiadau; barddoniaeth a rhyddiaith; amrywiol; ac ychwanegiadau diweddar.

Conditions governing access: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction: Amodau hawlfraint arferol

Finding aids: Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.
Detailed catalogue

ARCHIVAL INFORMATION

Appraisal, destruction and scheduling information: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals: Ni ddisgwylir ychwanegiadau

Archival history: Cadwyd llawer o'r llythyrau gan ei chwaer, Miss Olwen Jones, a etifeddodd y papurau hefyd, yn ôl pob tebyg, ar ei farwolaeth.

Immediate source of acquisition: Rhodd gan ei chwaer Miss Olwen Jones, Llanbedr Pont Steffan, trwy law Miss Eirwen Jones, Llanbedr Pont Steffan, Mrs Mary Lewis, Llandysul, a Mr D. Gwenallt Jones, Aberystwyth, 1959.

ALLIED MATERIALS

Related units of description: Ceir papurau pellach yn ymwneud ag Idwal Jones ym Mhapurau Gwenallt a Phapurau Dai Williams (Tregaron), yn ddau gasgliad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

DESCRIPTION NOTES

Publication note: Gwnaeth Gwenallt ddefnydd helaeth o��TMr archif wrth ymchwilio ei gofiant, Cofiant Idwal Jones.

Note: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae ychydig o ddeunydd a ychwanegwyd gan Gwenallt yn ôlddyddio marwolaeth Idwal Jones.

Archivist's note: Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Idwal Jones; Dictionary of Welsh Biography down to 1940(Llundain, 1959).

Rules or conventions: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Date(s) of description: Mawrth 2003


INDEX ENTRIES

Subjects

Authors, Welsh | 20th century

Dramatists, Welsh language | 20th century

Jones, Idwal, | 1895-1937 | Archives

Poets, Welsh language | 20th century

Soldiers | Correspondence

Welsh drama | 20th century

Welsh poetry | 20th century

World War, 1914-1918 | Personal narratives, Welsh

Personal names

Gwenallt, 1899-1968

Jones, Idwal, 1895-1937

Jones, Teifi, 1857-1927, Mrs

Corporate names

Places