Reference code(s): GB 0210 GERFOD
Held at: National Library of Wales
Title: Papurau'r Gymdeithas Gerdd Dafod
Short title: Cymdeithas Gerdd Dafod, papurau (papers)
Dates of creation: 1976-1987
Level of description: Fonds
Extent and medium: 0.063 metrau ciwbig (7 bocs)
Name of creator(s): Y Gymdeithas Gerdd Dafod
Administrative and biographical history: Ffurfiwyd Y Gymdeithas Gerdd Dafod yn 1976 gan feirdd â diddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg yn y mesurau caeth a chynghanedd yn bennaf. Mae'n noddi ymrysonau ac yn cyhoeddi cyfrolau o farddoniaeth, blodeugerddi a llyfrau perthynol, yn ogystal â'r cylchgrawn Barddas (yn fisol,1976-1997, bob yn ddeufis ar ôl hynny).
Scope and content: Rhestri, gohebiaeth etc.; yn ymwneud ag aelodaeth, 1976-1979,1983-1987; gohebiaeth yn ymwneud â Barddas a chyhoeddiadau Barddas,1976-1986; gohebiaeth gyffredinol,1976-1978; a chylchlythyrau, adroddiadau a ffurflenni glân 1976-1978 = Lists, correspondence, etc., relating to membership, 1976-1979, 1983-1987; correspondence relating to Barddas and Barddas publications, 1976-1986; general correspondence, 1976-1978; and circulars, reports and unused forms, 1976-1978.
Language/script: Cymraeg
System of arrangement: Trefnwyd yn fras fel a ganlyn: aelodaeth; Barddas; gohebiaeth; ac amrywiol.
Conditions governing access: Disgwylir i darllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction: Amodau hawlfraint arferol
Finding aids: Ceir copi caled o'r rhestr yn Mân Restri a Chrynodebau, 1987, t. 45, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.
Detailed catalogue
Appraisal, destruction and scheduling information: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals: Mae ychwanegiadau yn debygol
Immediate source of acquisition: Adneuwyd gan y Gymdeithas trwy law Alan Llwyd, Swyddog Gweinyddol, Abertawe, a Dr Roy Stephens, Llanilar, Dyfed, ym Mehefin 1987.
Related units of description: Ceir papurau pellach,1977-1984,yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Cyngor Celfyddydau Cymru, L1990/242, 342, 372,450; L1996/8, 55.
Note: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Archivist's note: Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW, Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1987; gwefan Rhydychen.org.uk (http://users.comlab.ox.ac.uk/geraint.jones/), edrychwyd 6 Mai 2003.
Rules or conventions: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Date(s) of description: Mai 2003
Cymdeithas Gerdd Dafod | Archives