Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Chwilio'r Catalog

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Papurau David Bowen a Ben Bowen

Cyfeirgôd(au): GB 0210 DABEBO

Lleoliad:

Teitl: Papurau David Bowen a Ben Bowen

Teitl byr: Bowen, David, a Ben Bowen, papurau (papers)

Dyddiad(au) creu: 1790-[1955]

Lefel disgrifio: Fonds

Maint a chyfrwng: 0.22 metrau ciwbig (19 bocs)

Enw'r crewr/crewyr: David Bowen, Ben Bowen

CYD-DESTUN

Hanes bywgraffyddol/gweinyddol: Ceir hanesion bywgraffyddol y ddau ar y lefelau perthnasol.

CYNNWYS

Natur a chynnwys: Mae'r fonds yn cynnwys papurau personol, crefyddol a llenyddol a grewyd ac a gasglwyd gan David Bowen, a phapurau llenyddol, crefyddol a phersonol ei frawd Ben, a olygwyd gan David Bowen wedi ei farwolaeth, 1897-1903.
The fonds include personal, religious and literary papers created and acquired by David Bowen, and the literary, religious and personal papers of his brother Ben, edited by David Bowen following his death, 1897-1903.

MYNEDIAD A DEFNYDD

Iaith/llawysgrifen: Cymraeg , Saesneg

Trefniant: Trefnwyd yn LLGC yn ôl profiant yn ddau grŵp: papurau David Bowen [1890]-[1955] a phapurau Ben Bowen, 1897-1903. Ceir rhai papurau yn ymwneud â Ben Bowen ymhlith papurau David Bowen.

Amodau gweld: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau copïo: Amodau hawlfraint arferol.

Rhestri cymorth: Ceir copi caled o'r rhestr yn LlGC.

Catalog manwl

GWYBODAETH ARCHIFOL

Ychwanegiadau: Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Hanes archifol: Cadwyd papurau Ben Bowen gan ei frawd, David Bowen, ar ôl ei farwolaeth ym 1903. Wedi marwolaeth David Bowen ym 1955, daeth ei bapurau ef a'i frawd Ben i feddiant ei ferched.

Ffynhonnell: Rhodd gan ferched David Bowen, Miss Myfanwy Bowen, Llanelli, Mrs Rhiannon Hughes, Pwll, a Mrs Enid Harries, Rhyl, Hydref 1960.

DEFNYDDIAU PERTHNASOL

Deunydd perthynol: Ceir ffotograffau yn yr Adran Darluniau a Mapiau o Ben Bowen, David Bowen, Tom Lloyd a R. Parri Roberts, Mynachlog-ddu, a grwpiau yn cynnwys Evan Roberts y diwygiwr, Tom Richards, Pontycymmer, J. W. Jones, Tanygrisiau a W. Nantlais Williams.

NODIADAU DISGRIFIO

Nodiadau: David Bowen ('Myfyr Hefin')

Nodiadau yr archifydd: Lluniwyd gan Manon Foster Evans, Mair James a Nia Mai Williams.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol i lunio'r rhestr: The Biographical Index of W. W. Price, Aberdâr (LLGC); Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Caerdydd, 1953); Papurau David Bowen a Ben Bowen; Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997); Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen, gol. gan David Bowen (Myfyr Hefin) (Treorci: 1904).

Rheolau catalogio: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Dyddiad(au )cwblhau'r catalog: Chwefror 2001


TERMAU MYNEGEIO

Pynciau

Bowen, Ben, | 1878-1903 | Archives

Bowen, David, | 1874-1955 | Archives

Enwau personol

Bowen, Ben, 1878-1903

Bowen, David, 1874-1955

Enwau corfforaethol

Lleoedd