Cyfeirgôd(au): GB 0210 BETDYS
Lleoliad:
Teitl: CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Dyserth
Teitl byr: Eglwys Bethel, Dyserth, cofysgrifau (records)
Dyddiad(au) creu: 1854-1974
Lefel disgrifio: Fonds
Maint a chyfrwng: 0.036 metrau ciwbig (13 cyfrol, 1 ffolder)
Enw'r crewr/crewyr: Eglwys Bethel, Dyserth
Hanes bywgraffyddol/gweinyddol: Credir fod seiliau'r Eglwys fel cynulleidfa yn hytrach nag adeilad yn mynd yn ôl i 1808. Adeiladwyd Bethel neu Capel Ucha, Dyserth, yn 1822, ar ddarn o dir oedd yn perthyn i'r Parch. Thomas Jones. Rhaid oedd ehangu'r addoldy yn 1849 gan fod y gynulleidfa wedi cynyddu i'r fath raddau. Roedd angen mwy o dir a chyflwynwyd cais i William Shipley Conwy, Neuadd Bodrhyddan, a rhoddodd y tir am ddim. Yn 1869 cafodd y capel ei ailadeiladu i gynllun Richard Owen, Lerpwl, gyda lle i 380 eistedd. Yn 1890 dathlwyd talu'r taliad olaf.
Natur a chynnwys: Cofysgrifau gweinyddol ac ariannol Eglwys Bethel, Dyserth. Ceir yn eu plith llyfrau cyfrifon, 1854-1951, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1915-1967, cofrestri eglwysig, 1900-1974, llyfrau cofnodion, 1916-1966, a thaflenni ystadegol, 1952-1962.
Administrative and financial records of Bethel Church, Dyserth. Amongst them are account books, 1854-1951, ministry collection books, 1915-1967, church registers, 1900-1974, minute books, 1916-1966, and statistical sheets, 1952-1962.
Iaith/llawysgrifen: Cymraeg, Saesneg
Cyflwr ac anghenion technegol: Mae rhannau o'r fonds yn cynnwys cyfrolau gyda chloriau sy'n rhydd. Gweler disgrifiadau lefel ffeil.
Trefniant: Trefnwyd yr archif yn LlGC yn ddwy gyfres: cofnodion ariannol a chofnodion gweinyddol.
Amodau gweld: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau copïo: Amodau hawlfraint arferol.
Rhestri cymorth: Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.
Catalog manwl
Cloriannu, dinistrio, awdurdod i ddinistrio: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell.
Ychwanegiadau: Mae ychwanegiadau yn bosib.
Ffynhonnell: Adneuwyd gan Mr W. Tecwyn Thomas, Rhyl, Tachwedd 2002.
Deunydd perthynol: Ceir cofrestr bedyddiadau'r capel, 1823-1837, yn yr Archifdy Gwladol, PRO: RG4/3872 (copi microffilm yn LlGC); adroddiadau blynyddol y capel, 1919-1958 (gyda bylchau) yn LlGC, a 1959-1975 yn LlGC, CMA 128/1; ystadegau am yr Ysgol Sul, 1818-1821, yn CMA 27639; copi o Y Llusern , Rhagfyr 1988, cylchgrawn ar gyfer Bethel ac eglwysi eraill Henaduriaeth Dyffryn Clwyd, yn CMA EZ4/16; cofnodion Henaduriaeth Dyffryn Clwyd, 1822 (CMA 13187) a 1853 (CMA 13188) a gynhaliwyd yn Eglwys Bethel; hanes yr achos a lluniau yn Archifdy Sir Ddinbych yn Rhuthun ac yn Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor; a gweithredoedd yn Archifdy Sir Fflint ym Mhenarlâg.
Nodiadau yr archifydd: Lluniwyd y disgrifiad gan Ann Francis Evans.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (http://www.rcahmw.org.uk), 4 Gorffennaf 2003, ac A. R and L. M. Davies, Dyserth. An historic village (1999).
Rheolau catalogio: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Dyddiad(au )cwblhau'r catalog: Gorffennaf 2003.
Calvinistic Methodists | Wales | Dyserth
Eglwys Bethel (Dyserth, Wales) | Archives
Religious institutions | Wales | Dyserth
Eglwys Bethel (Dyserth, Wales)