Cyfeirgôd(au): GB 0210 YSBYTY
Lleoliad:
Teitl: CMA: Cofysgrifau Capel Seion, Ysbyty Ifan, Tir Ifan
Teitl byr: Capel Seion, Ysbyty Ifan, Tir Ifan, cofysgrifau (records)
Dyddiad(au) creu: 1933-1963
Lefel disgrifio: Fonds
Maint a chyfrwng: 1 gyfrol
Enw'r crewr/crewyr: Capel Seion, Ysbyty Ifan, Tir Ifan
Hanes bywgraffyddol/gweinyddol: Adeiladwyd Capel Seion, Ysbyty Ifan, Tir Ifan, yn 1803, ac fe ailadeiladwyd y capel yn 1855. Mae Capel Seion, a elwir hefyd yn Capel Mawr, yn perthyn i Ddosbarth Machno, Henaduriaeth Dyffryn Conwy.
Natur a chynnwys: Cyfrol o gofnodion ariannol, 1933-1963, ar gyfer Capel Seion, Ysbyty Ifan, Tir Ifan.
A volume of financial records, 1933-1963, for Seion Chapel, Ysbyty Ifan, Tir Ifan.
Iaith/llawysgrifen: Cymraeg a Saesneg
Trefniant: Trefnwyd yn un ffeil.
Amodau gweld: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau copïo: Amodau hawlfraint arferol
Rhestri cymorth: Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.
Catalog manwl
Ychwanegiadau: Mae ychwanegiadau yn bosibl
Ffynhonnell: Adneuwyd ar ran y Capel gan Mrs Eirian Roberts, Betws y Coed, Rhagfyr 2002.
Deunydd perthynol: Ceir adroddiadau blynyddol, 1910-1944 gyda bylchau, yn LLGC; tystysgrif cofrestri'r Capel yn 1853 (LLGC, CMA, CZ2/5/183), a llythyr yn ymwneud â phrynu tŷ capel Ysbyty Ifan oddi ar yr Arglwydd Penrhyn yn 1892 (Acrefair 4272). Mae cofrestri'r capel, 1812-1837, yn yr Archifdy Gwladol, copi microffilm ohono yn LLGC (NPR Rîl 16/3871 (ii) [D/98]), a chofnodion ar gyfer 1920-1944 yn LLGC (CMA 16644). Mae gweithredoedd y capel, 1803-1853, yn LLGC a gweithredoedd, 1881-1909, yn Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau.
Nodiadau: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Nodiadau yr archifydd: Lluniwyd gan Nia Mai Wiliams.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog hwn: Cronfa ddata Capeli Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Williams, W., Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd , Bala, 1902; Blwyddiadur a Dyddiadur Eglw ys y Methodistiaid Calfinaidd , 2001; Roberts, William, Canrif a hanner o Hanes Methodistiaid Ysbytty Ifan , 1900.
Rheolau catalogio: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Dyddiad(au )cwblhau'r catalog: Gorffennaf 2003
Calvinistic Methodists | Wales | Ysbyty Ifan
Capel Seion (Ysbyty Ifan, Wales) | Archives
Religious institutions | Wales | Ysbyty Ifan
Capel Seion (Ysbyty Ifan, Wales)