Reference code(s): GB 0210 MORELE
Held at:
Title: CMA: Cofnodion Capel y Morfa, Abergele
Short title: Capel y Morfa, Abergele, cofnodion (records)
Dates of creation: 1930-2003
Level of description: Fonds
Extent and medium: 0.009 metrau ciwbig (1 bocs bach)
Name of creator(s): Capel y Morfa, Abergele
Administrative and biographical history: Adeiladwyd ac agorwyd Capel y Morfa yn 1866, ond roedd cynulleidfa o Fethodistiaid Calfinaidd wedi bodoli yn y cylch ers troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Buont yng Nghapel Penbrynllwyni o 1826 hyd 1864, pryd y tynnwyd y capel i lawr. Bu'r gynulleidfa'n cwrdd yn nhŷ 'Y Sun' am ddwy flynedd cyn i Gapel y Morfa gael ei adeiladu. Unwyd gofalaeth Capel y Morfa â Rhuddlan rhwng 1924 ac 1933, ac eto rhwng 1952 ac 1961. Bu o dan yr un ofalaeth ag Eglwys Warren Road, Y Rhyl, 1947-1950. Mae'r capel yn Nosbarth Rhuddlan, Henaduriaeth Dyffryn Clwyd.
Scope and content: Cofysgrifau Capel y Morfa, Abergele, gan gynnwys dau lyfr cofnodion, 1930-1996, dau lyfr cyfrifon, 1967-2002, pamffledi yn ymwneud â hanes y capel a'r henaduriaeth, 1966-2003, a phapurau perthnasol eraill, 1966-2003.
Records Capel y Morfa, Abergele, including two minute books, 1930-1996, two account books, 1967-2002, pamphlets relating to the history of the chapel and the presbytery, 1966-2003, and other associated papers, 1966-2003.
Language/script: Cymraeg oni nodir yn wahanol.
System of arrangement: Trefnwyd yn LLGC yn ddwy gyfres: cofnodion a chyfrifon; ac yn dair ffeil: llyfrau nodiadau, pamffledi a rhaglenni cyfarfodydd.
Conditions governing access: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction: Amodau hawlfraint arferol.
Finding aids: Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.
Detailed catalogue
Accruals: Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Immediate source of acquisition: Adneuwyd gan y Parch. J. E. Wynne Davies, Aberystwyth, Gorffennaf 2003.
Related units of description: Mae cofrestr bedyddiadau Capel Penbrynllwyni, 1831-1837, ar gadw yn yr Archifdy Gwladol (PRO: RG4/3872) a cheir copi microffilm yn LlGC; ceir adroddiadau blynyddol, 1986-1995, yn LlGC, ystadegau'r Ysgol Sul, 1818-1821, yn CMA 27639 ac atgofion am y capel, 1935, yn CMA 17842.
Note: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Archivist's note: Lluniwyd gan Hywel Gwynn Williams.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Cronfa ddata CAPELI yn LLGC; Y Parch. F. Jones, gol., Dechreuad a Chynnydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn, Bettws, Llysfaen, Llanddules, Pen Bryn Llwyni, Morfa, a Thywyn (Dolgellau, 1908).
Rules or conventions: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Date(s) of description: Tachwedd 2003
Calvinistic Methodists | Wales | Abergele | Archives
Capel y Morfa (Abergele, Wales) | Archives
Religious institutions | Wales | Abergele
Capel Penybrynllwyni (Abergele, Wales)
Capel y Morfa (Abergele, Wales)