Reference code(s): GB 0210 BERWEN
Held at: National Library of Wales
Title: Papurau W. Berllanydd Owen
Short title: Owen, W. Berllanydd, papurau (papers)
Dates of creation: 1929-1984
Level of description: Fonds
Extent and medium: 0.144 metrau ciwbig (8 bocs)
Name of creator(s): Y Parch. William Berllanydd Owen (1899-1984)
Administrative and biographical history: Yr oedd William Berllanydd Owen ('Berllanydd', 1899-1984) yn weinidog gyda'r Annibynwyr a bardd. Fe'i ganed yn Y Berllan, Darowen, sir Drefaldwyn, a chafodd ei addysg yn Narowen, yn Ysgol Ramadeg Cei Newydd, sir Aberteifi, a'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin. Bu'n weinidog ym Mhen-bre, sir Gaerfyrddin, ac yn ddiweddarach yn Hen Golwyn, sir Ddinbych. Yn fardd, enillodd wobrau am ei englynion a'i sonedau. Cyhoeddwyd ei waith mewn amrywiol gyfnodolion Cymraeg ac yn y gyfrol Awen Sir Ddinbych (Llandybïe,1964).
Scope and content: Papurau Berllanydd, [1929]-1984, yn cynnwys dyddiaduron, 1929-1933,1935-1970, 1982-1984, papurau personol yn cynnwys copïau o'i ewyllys,1981,nodiadau ar gyfer pregethau, anerchiadau crefyddol a gwaith bugeiliol, barddoniaeth a deunydd eisteddfodol, torion papur newydd a deunydd printiedig = Papers of Berllanydd, [1929]-1984, comprising diaries, 1929-1933, 1935-1970, 1982-1984, personal papers including copies of his will, 1981, notes for sermons, religious addresses and pastoral work, poetry and eisteddfod material, newspaper cuttings and printed material.
Language/script: Cymraeg
System of arrangement: Trefnwyd yn ddyddiaduron; papurau personol; barddoniaeth a deunydd eisteddfodol.
Conditions governing access: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction: Amodau hawlfraint arferol
Finding aids: Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau, 1984, t. 44, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.
Detailed catalogue
Appraisal, destruction and scheduling information: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd yn gymynrodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals: Ni ddisgwylir ychwanegiadau
Immediate source of acquisition: Cyflwynwyd yn gymynrodd gan W. Berllanydd Owen, Hen Golwyn,1984.
Note: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Archivist's note: Lluniwyd gan Rhys Joes i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1984; Stephens, Meic (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997).
Rules or conventions: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Date(s) of description: Mai 2003
Owen, W. Berllanydd | (William Berllanydd), | 1899-1984 | Archives
Owen, W. Berllanydd (William Berllanydd), 1899-1984