Cyfeirgôd(au): GB 0210 GWILBOW
Lleoliad:
Teitl: Papurau Gwilym Bowyer
Teitl byr: Papurau Gwilym Bowyer
Dyddiad(au) creu: 1901-1967
Lefel disgrifio: Fonds
Maint a chyfrwng: 0.14 metrau ciwbig (14 bocs)
Enw'r crewr/crewyr: Y Parchedig Brifathro Gwilym Bowyer (1906-1965)
Hanes bywgraffyddol/gweinyddol: Yr oedd Gwilym Bowyer (1906-1965)yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn brifathro coleg. Yr oedd yn frodor o Bonciau. Rhosllannerchrugog a chafodd ei addysg gynnar yn Ysgol y Cyngor, Ponciau. Gweithiodd yn gyntaf mewn siop groser lleol cyn mynd i Goleg Bala-Bangor yn 1928 lle graddiodd mewn athroniaeth yn 1932 a derbyn gradd BD yn 1938. Cafodd ei ordeinio yn 1935 a bu'n weinidog yn Llundain a Bangor cyn cymryd swydd Prifathro Coleg Bala-Bangor yn 1946. Bu yma tan ei farwolaeth annhymig yn 1965. Cyhoeddodd dau bamffled a thua phump ar hugain o erthyglau, pregethau ac adolygiadau. Yr oedd yn bregethwr a darlledwr nodedig, yn heddychwr ac yn ddadleuwr cryf dros addysg Gymraeg.
Natur a chynnwys: Mae'r archif yn cynnwys papurau, 1924-1966, yn deillio o waith Gwilym Bowyer fel gweinidog, yn eu plith papurau'n ymwneud ag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 1924-1963, gohebiaeth a phapurau,1937-1966, ynghylch Coleg Bala-Bangor; papurau c. 1938-1965, yn ymwneud â darlledu ac ysgrifau gan Gwilym Bowyer; papurau personol c. 1921-1966 yn cynnwys dyddiaduron yn cofnodi apwyntiadau,1928-1966, a gohebiaeth, c. 1932-1965; deunydd printiedig,1901-1965; a phapurau amrywiol, c. 1940-1967 = The archive includes papers, 1924-1966, deriving from Gwilym Bowyer's work as a minister, among them papers relating to the Union of Welsh Independents, 1924-1963; correspondence and papers, 1937-1966, concerning Bala-Bangor College; papers, c. 1938-1965, relating to broadcasts and writings by Gwilym Bowyer; personal papers, c. 1921-1966, including appointment diaries, 1928-1966, and correspondence, c. 1932-1965; printed materials, 1901-1965; and miscellaneous papers, c. 1940-1967.
Iaith/llawysgrifen: Cymraeg, Saesneg
Trefniant: Trefnwyd fel a ganlyn: papurau'n ymwneud â gwaith Gwilym Bowyer fel gweinidog; papurau'n ymwneud â Choleg Bala Bangor; papurau'n deillio o'i waith fel darlledwr ac awdur; papurau personol; deunydd printiedig; a phapurau amrywiol.
Amodau gweld: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau copïo: Amodau hawlfraint arferol
Rhestri cymorth: Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 2000, tt. 2-3, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.
Catalog manwl
Cloriannu, dinistrio, awdurdod i ddinistrio: Cadwyd yr holl bapurau a gyflwynwyd i LlGC.
Ychwanegiadau: Mae'n anhebyg y bydd papurau ychwanegol.
Ffynhonnell: Cyflwynwyd y papurau yn rhodd i'r Llyfrgell gan fab Gwilym Bowyer, Mr Gwynn Bowyer, 98 Heol y Prior, Caerfyrddin, a'i ddwy ferch Mrs Ann Owen a Mrs Mair Gibbard yn Ionawr a Mai 2000.
Nodiadau: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Nodiadau yr archifydd: Lluniwyd gan J. Graham Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 2000; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001), t. 16 .
Rheolau catalogio: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Agraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Dyddiad(au )cwblhau'r catalog: Mai 2006
Theology | Study and teaching | Wales
Congregational Church in England and Wales
Congregational Union of England and Wales