Reference code(s): GB 0210 SILRHY
Held at:
Title: CMA: Cofysgrifau Eglwys Siloh, Rhydymain
Short title: Eglwys Siloh, Rhydymain, cofysgrifau (records)
Dates of creation: 1972-2004
Level of description: Fonds
Extent and medium: 1 bocs (0.009 metrau ciwbig)
Name of creator(s): Eglwys Siloh, Rhydymain
Administrative and biographical history: Cyn adeiladu capel yn Rhydymain, roedd Methodistiaid yr ardal yn teithio i Gapel Carmel, [Bont Newydd], i addoli. Oherwydd i Gapel Carmel fynd yn rhy llawn penderfynwyd sefydlu eglwys yn Rhydymain. I ddechrau cafodd ei gynnal mewn ffermdy o'r enw Dirlwyn, yna symudodd i ffermdy o'r enw Carleg. Ymhen ychydig flynyddoedd penderfynwyd adeiladu capel iawn ac agorwyd Capel Pantypanel yn 1841, ar dir tyddyn o'r enw Pantypanel. Yn 1868 prynwyd darn ychwanegol o dir er mwyn ychwanegu at y capel a chael mynwent. Codwyd capel arall a agorodd yn 1874, a rhoddwyd yr enw Siloh arno.
Scope and content: Cofysgrifau yn perthyn i Eglwys Siloh, Bryncoedifor, Rhydymain, Meirionnydd, gan gynnwys llyfr cyfrifon, 1972-1984; a llyfr cofnodion cyfarfodydd, 1972-2004, sydd hefyd yn cynnwys manylion am fedyddiadau a llyfryn hanes yr achos, 1874-1974.
Language/script: Cymraeg.
System of arrangement: Trefnwyd yr archif yn LlGC yn ddwy ffeil: llyfr cyfrifon a llyfr cofnodion.
Conditions governing access: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction: Amodau hawlfraint arferol.
Finding aids: Ceir mynediad i'r catalog ar lein.
Detailed catalogue
Appraisal, destruction and scheduling information: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell
Accruals: Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Immediate source of acquisition: Adneuwyd gan y Parch. J. E. Wynne Davies, Aberystwyth, Medi 2005.
Note: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Archivist's note: Lluniwyd gan Nia Wyn Dafydd. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Eglwys Bresbyteraidd Cymru Siloh, Rhydymain: Hanes yr Achos ar Ddathlu Canmlwyddiant 1874-1974.
Rules or conventions: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G)Ail Argraffiad ; rheolau AACR2; ac LCSH.
Date(s) of description: Hydref 2011.
Calvinistic Methodists | Wales | Rhydymain
Eglwys Siloh | Wales | Rhydymain | Archives
Religious institutions | Wales | Rhydymain
Eglwys Siloh (Rhydymain, Wales)