Reference code(s): GB 0210 TOMAMS
Held at: National Library of Wales
Title: Papurau Tom Williams, Temple Bar
Short title: Williams, Tom, Temple Bar, papurau (papers)
Dates of creation: [c. 1919x1986]
Level of description: Fonds
Extent and medium: 1 bocs
Name of creator(s): Tom Williams (1899-1986)
Administrative and biographical history: Ganwyd Tom Williams (1899-1986) yn Temple Bar, sir Aberteifi. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1916 a graddiodd yn y Gymraeg. Ymunodd â staff Geiriadur Prifysgol Cymru, ac arhosodd yno hyd ei ymddeoliad yn 1965. Dychwelodd i Temple Bar i fyw yn 1978. Ysgrifennodd erthyglau, ar bynciau crefyddol a llenyddol yn bennaf, ar gyfer amrywiol gyfnodolion a phapurau newydd, gan gynnwys Y Tyst a Llais Aeron. Bu farw ar 21 Rhagfyr 1986.
Scope and content: Papurau Tom Williams, [c. 1919x1986], yn cynnwys nodiadau, copïau llawysgrif o erthyglau ac ysgrifau ar lenyddiaeth a chrefydd, a thorion o'r wasg o rai o'r erthyglau = Papers of Tom Williams, [c. 1919x1986], comprising notes, manuscript copies of articles and essays on literature and religion, and press cuttings of some of his articles.
Language/script: Cymraeg
System of arrangement: Trefn wreiddiol
Conditions governing access: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction: Amodau hawlfraint arferol
Finding aids: Ceir copi caled o'r crynodeb yn Mân Restri a Chrynodebau, 1987, t. 127, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r crynodeb ar gael ar lein.
Detailed catalogue
Appraisal, destruction and scheduling information: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals: Ni ddisgwylir ychwanegiadau
Immediate source of acquisition: Rhodd gan ei nith, Mrs Nancy Davies, Llanbedr Pont Steffan, 1987.
Related units of description: LlGC Misc Records 294 a 346
Note: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Archivist's note: Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1987; LlGC, Mynegai i Ysgrifau Coffa Cymreig, 1986.
Rules or conventions: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Date(s) of description: Mai 2003
Welsh literature | History and criticism
Williams, Tom, | 1899-1986 | Archives