
Roedd Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, John Griffiths yn Archifau Morgannwg heddiw i longyfarch enillwyr y gystadleuaeth ‘Adroddwch Eich Stori’.
Gofynnwyd i ddefnyddwyr archifau Cymru gyflwyno stori am eu profiadau a phethau roedden nhw wedi’u darganfod wrth ddefnyddio’r gwasanaeth. Daeth cyfanswm o 76 o geisiadau i law o bob rhan o Gymru. Dewiswyd 21 o enillwyr a phob un yn ennill £100.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r straeon buddugol -Straeon Buddugol
Cliciwch yma i fynd atSianel You Tube Archifau Cymru.
Profwyd ewyllys Thomas Jones o Dregaron yn Llys Esgobol Tyddewi (fe'i cysylltir gyda'r cymeriad chwedlonol Twm Sion Cati, y Robin Hood Cymreig)
Croeso i Archifau Cymru. Bydd ein catalog ar-lein yn eich galluogi i gael gwybodaeth am dros 7,000 casgliad o gofnodion hanesyddol yn naliadau 21 o archifdai ar draws Cymru, a hynny mewn un chwiliad. Mae'r archifau hyn ar agor i'r cyhoedd a gallwch ddefnyddio'r safle hwn i gynllunio'ch ymweliad a chael mwy o wybodaeth. Mae Archifau Cymru'n ffurfio rhan o Rwydwaith Archifau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
Mwy am y wefan ›