Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Beth Sy'n Digwydd?

Beth Sy'n Digwydd?

    Newyddion

    Iau 10, Rhagfyr 2009

    Cymru’n Rhoi Pŵer i’r Byd

    Yn 2008, enillodd Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru arian gan Ymddiriedolaeth Pilgrim o dan y Rhaglen Grantiau Catalogio Genedlaethol ar gyfer prosiect i amlygu hanes diwydiannol balch Cymru drwy gatalogio rhai o'i gasgliadau busnes gwerthfawr nad ydynt wedi'u catalogio.

    Mae'r prosiect wedi cychwyn, gyda dau archifwr y prosiect wrth eu gwaith ar y catalogau. Mae Stacy Capner wedi bod yn gweithio yn Archifau Prifysgol Abertawe ers dwy flynedd, ac mae'n catalogio casgliadau De Cymru. Mae Robert Evans yn gweithio yn Archifau Gwynedd, ac mae'n catalogio casgliadau gogledd Cymru.

    Dyma'r casgliadau sydd ar fin cael eu catalogio:

    De Cymru:
    Vivian and Sons Limited, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
    Emlyn Colliery and Brickworks, Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin
    South Wales Transport Collection, Archifau Prifysgol Abertawe
    Cardiff Incorporated Chamber of Commerce, Archifdy Morgannwg
    Powell Duffryn Limited, Archifdy Morgannwg
    Waddle Engineering and Fan Company, Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin

    Gogledd Cymru:
    Inigo Jones Ltd., Slate Merchants of Nantlle, Archifau Gwynedd
    Davies Bros., Slate Merchants, Porthmadog, Archifau Gwynedd
    Coppack Bros. & Co., Connah’s Quay, Archifdy Sir y Fflint:
    Wrexham Lager Company Papers, Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam

    Am fwy o wybodaeth, ac i ddilyn datblygiad archifwyr y prosiect, ewch i ddarllen eu blogiau yn walespoweringtheworld.blogspot.com