Mae adeilad newydd ARCHIFDY MORGANNWG wedi’i gwblhau 8 wythnos yn gynnar. Mae’r gwaith o symud y casgliad wedi dechrau a disgwylir i hyn gymryd o leiaf 3 mis.
Bydd yr ystafelloedd chwilio yn Adeilad Morgannwg, Parc Cathays, cartref Archifdy Morgannwg ers 70 mlynedd yn cau ar Noswyl Nadolig, 24 Rhagfyr 2009. Bydd ARCHIFDY MORGANNWG yn agor i’r cyhoedd ar ei safle newydd yn gynnar yn 2010; bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi a’u gosod ar y wefan hon maes o law.
Os ydych chi am ddefnyddio’r swyddfa cyn y Nadolig, mae’n hanfodol eich bod yn archebu ymlaen llaw, ac yn nodi’r cofnodion rydych chi am eu gweld er mwyn i ni allu sicrhau y byddant ar gael.
Yn ystod y cyfnod pan fydd yr Archifdy ar gau, byddwn yn parhau i ateb ymholiadau ysgrifenedig a chyflawni ein hymrwymiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwynodaeth a’r Rheoliadau Effeithiau Amgylcheddol.