Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Beth Sy'n Digwydd?

Beth Sy'n Digwydd?

    Newyddion

    Iau 01, Ionawr 1970

    Gwasanaeth Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam-lleoliad newydd dros dro

    Bydd gwasanaeth Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam yn symud dros dro i Ganolfan Dreftadaeth y Bers. Bydd yr ystafell ymchwil yn ailagor i'r cyhoedd ar 25ain Ionawr 2010.

    Am fanylion cyswllt ewch i http://www.archiveswales.org.uk/cy/cynllunioch-ymweliad/archifau-ac-astudiaethau-lleol-wrecsam/

    Rhoi Sêl Bendith i Brosiect

    Ar ôl proses ymgeisio llwyddiannus mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ennill caniatâd Cam 2 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri am Gyfnod 1 Prosiect Treftadaeth Gymunedol Wrecsam.

    Bydd y grant am £950,000 yn ei gwneud hi’n bosibl dechrau gwaith ar y prosiect sy’n werth £2.1 miliwn a fydd yn y pen draw yn trawsnewid cyn orsaf yr heddlu yn Stryt yr Rhaglaw yn gyfleuster amgueddfa o’r radd flaenaf yng ngogledd ddwyrain Cymru.

     Bydd Cyfnod 1 yn cynnwys:

    • Estyniad gwydrog newydd ymlaen yr adeilad gan greu lle i dderbynfa well a siop amgueddfa, a siop goffi newydd.

    • Oriel ryngweithiol addas ar gyfer teuluoedd ar hanes cymunedau amrywiol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

    • Oriel newydd yn dangos casgliadau o Amgueddfa Cymru a Llyfrgell enedlaethol Cymru.

    • Rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynlluniwyd i hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r amgueddfa ac i annog mwy o bobl i ymddiddori yn eu treftadeth.

     Ar gyfer y cyfnodau dilynol caiff orielau arddangos eu creu ar y llawr cyntaf, yn ogystal ag estyniad i ganolfan A.N Palmer, storfa archifau newydd ac ystafell addysg newydd,

     Disgwylir i waith adeiladu ddechrau ar ddiwedd 2009 gyda ailagor tua 12 mis yn ddiweddarach 

    Am fwy o wybodaeth am y prosiect ewch i

    http://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/refurbishment_w/museum_refubishment.htmhttp://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/refurbishment_w/museum_refubishment.htm<//a>