Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Beth Sy'n Digwydd?

Beth Sy'n Digwydd?

    Newyddion

    Mawrth 19, Ionawr 2010

    Lansiwyd tocyn darllen Archifau Cymru

    O Ionawr 2010, mae tocyn darllen newydd Archifau Cymru yn ddilys i'w defnyddio mewn wyth archif ledled Gorllewin a Chanolbarth Cymru.  Mae'r tocyn hwn yn rhoi mynediad i'r ystod eang o ddeunydd archifol a gedwir yn Archifau Prifysgol Abertawe, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd, Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin, Archifdy Sir Benfro ac Archifau Powys, ac mae ar gael yn y swyddfeydd yma.  Yn ogystal fe'i cydnabyddir ar gyfer mynediad i Archifdy Ceredigion a Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.  I gofrestru am docyn, dewch â dwy ddogfen gyda chi pan fyddwch yn ymweld sy'n dangos eich llofnod ac yn cadarnhau'ch cyfeiriad. Ceir rhagor o fanylion am ba ddogfennau sydd eu hangen gan y gwasanaethau sy'n cyfranogi.  Mae'ch tocyn yn rhad ac am ddim a bydd yn ddilys am bum mlynedd o'r dydd y byddwch yn cofrestru.