Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Beth Sy'n Digwydd?

Beth Sy'n Digwydd?

    Newyddion

    Gwener 25, Mawrth 2011

    Gwasanaeth Archifau Ynys Môn yn cau am gyfnod dros dro

    Mae gwaith wedi cychwyn yn Llangefni ar brosiect cyffrous i ddarparu cyfleuster newydd ar gyfer archifau a chofnodiadau modern yn Ynys Môn.

    Bydd yr adeilad newydd ar agor i’r cyhoedd ar ddydd Llun 03 Hydref 2011.  

    Er mwyn paratoi ar gyfer symud, bydd Gwasanaeth Archifau Ynys Môn yn cau am gyfnod dros dro i’r cyhoedd o ddydd Llun 30 Mai 2011.  Ni fydd modd cael mynediad i’n casgliadau felly rhwng Mehefin a Medi 2011.

    Mae’r dyddiadau allweddol fel a ganlyn:

     27 Mai 2011 – Diwrnod diwethaf y gwasanaeth arferol yn Ffordd Glanhwfa

    ·        30 Mai 2011 – 29 Medi 2011. Ar gau i’r cyhoedd

    ·        30 Medi 2011 – Digwyddiad lansio

    ·        03 Hydref 2011 – Ailagor i’r cyhoedd yn yr adeilad newydd.

    Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hayden Burns:  01248 751289