Er mwyn symud i’n cartref newydd yng Nglyn Ebwy, bydd yr Archifdy yn cau dros dro i’r cyhoedd.
Bydd y swyddfa yn cau am 4 p.m. ddydd Gwener 29ain o Orffennaf.
Caiff y gwasanaeth newydd ei lansio fel Archifau Gwent ym mis Hydref 2011.
Ymddiheurwn os yw hyn yn achosi unrhyw anghyfleustra, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i’n swyddfeydd newydd.
Am ragor o wybodaeth ynghylch prosiectau Archifau Gwent, gweler ein gwefan:
http://www.archifaugwent.gov.uk