Mae prosiect Cymru’n Nerthu’r Byd: Edrych ar Ddiwydiant Cymru drwy Archifau wedi'i gwblhau'n llwyddiannus. Mae 10 casgliad yn cynrychioli cloddio am lo, chwareli llechi, mwyndoddi copr, peirianneg, llongau a bragu, wedi cael eu catalogio ac yn awr ar gael i'r cyhoedd. Cafodd y prosiect ei gynnwys yn ddiweddar yn y Cynllun Grantiau Catalogio Cenedlaethol: Adolygiad pum mlynedd (tud 7)
http://www.nationalarchives.gov.uk/documents/information-management/pilgrim-trust-review.pdf
Y casgliadau:
De Cymru:
Vivian and Sons Limited, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Glofa a Gwaith Briciau Emlyn, Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin
Casgliad Trafnidiaeth De Cymru, Archifau Prifysgol Abertawe
Siambr Fasnach Corfforedig Caerdydd, Archifau Morgannwg
Powell Duffryn Limited, Archifau Morgannwg
Waddle Engineering and Fan Company , Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin
Gogledd Cymru:
Inigo Jones Cyf., Masnachwyr Llechi Nantlle, Archifau Gwynedd
Davies Bros, Masnachwyr Llechi, Porthmadog, Archifau Gwynedd
Coppack Bros & Co, Cei Connah, Archifdy Sir y Fflint
Papurau Cwmni Wrexham Lager, Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam
Mae Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CACC) wedi derbyn arian gan CyMAL ar gyfer prosecit dilynol ar 'Elwa o Cymru’n Nerthu’r Byd'. Bydd y prosiect newydd yn hyrwyddo casgliadau sydd wedi cael eu catalogio, tynnu sylw at bwysigrwydd archifau busnes ac annog eu defnyddio ar gyfer ymchwil. Mae’r gweithgareddau a gynlluniwyd yn cynnwys arddangosfa deithiol, taflen, tudalennau gwe, a gweithdy undydd. Bydd uchafbwyntiau o'r casgliadau sydd wedi cael eu catalogio yn cael eu digido ac yn cael eu hychwanegu at Casgliad y Werin Cymru. Bydd y cofnodion o gasgliad Amgueddfa Glowyr De Cymru yn cael eu catalogio mewn bid cysylltiedig gan Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Am ragor o wybodaeth gweler blog y prosiect ar http://walespoweringtheworld.blogspot.com/