Bydd arddangosfa yn cael ei chynnal i ddathlu hanner can mlwyddiant darlith radio gan Saunders Lewis “Tynged yr Iaith” a ddarlledwyd ar 13eg o Chwefror 1962.
Yn y ddarlith tynnodd sylw ar y ffaith fod yr iaith Gymraeg yn marw a bod angen dulliau chwyldroadol i adfer yr iaith yng Nghymru. Arweiniodd hyn at sefydlu Cymdeithas yr Iaith a’r frwydr i sicrhau statws swyddogol i’r iaith Gymraeg.