
Gwasanaeth Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam
Canolfan Dreftadaeth Y Bers
Y Bers
Wrecsam LL14 4HT
Ffôn: 01978 317978
Ebost: archifau@wrecsam.gov.uk
Gwefan: http://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/archives/
Am fwy o wybodaeth ewch i
http://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/archives/index.htm
Dilynwch yr arwyddion brown ar gyfer y Bers a Chlywedog o un ai'r A525 i'r B5098 neu'r A483 ar B5605 a B5098 ac mae'r Ganolfan Treftadaeth ar y B5099 i'r gorllewin o Wrecsam.
Parcio
Mae parcio ar y safle<//span><//span>
Ar y Bws/Trên
6 Nifer y bws o'r orsaf bws yn Stryd y Brenin yng nghanol Wrecsam. Yr orsaf drenau Cyffredinol ar yr A541 ac yr orsaf drenau Ganolog yn Ynys Werdd yn cerdded 5 munud i ffwrdd o'r orsaf bws yn Stryd y Brenin<//span><//span>
Mae Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam yn dal cofnodion sy'n ymwneud â hanes y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys dogfennau, mapiau a ffotograffau gan gynghorau lleol, gan sefydliadau, a chan gymdeithasau a phobl leol; copïau o gofrestrau bedydd, cofrestrau priodas a chofrestrau claddu eglwysi; cofnodion mynwentydd sifil; ffurflenni cyfrifiadau lleol; papurau newydd lleol; llyfrgell gyfeiriol sy'n cynnwys llyfrau, erthyglau a chylchgronau.
Dydd Llun - Dydd Gwener 10am - 5pm
Dydd Sadwrn 10.30-3pm
Ceisiadau olaf am ddogfennau Llun-Gwe 4.30pm
Rhaid gwneud ceisiadau am ddogfennau o flaen llaw ar gyfer Dyddiau Sadwrn
Mae'r archifau ar y llawr gwaelod ac yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae toiled haddasu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ger y fynedfa i'r adeilad. Gwydrau chwyddwydr ar gael ar y ddesg ymholiadau.<//span><//span>
Bwyd: Does dim lluniaeth ar y safle ac eithrio ar gyfer byrbrydau ysgafn a werthir yn y siopTai bach: Mae tai bach ar gael ar y safle, gan gynnwys tŷ bach a addaswyd ar gyfer defnyddwyr anabl.
Siop: Mae siop sy'n gwerthu amrywiaeth o nwyddau, gan gynnwys llyfrau ar hanes lleol a theulu, cardiau cyfarch, anrhegion a mapiau.<//span><//span>
Nid oes angen gwneud apwyntiad er mwyn ymweld â'r Ganolfan, ond fe'ch cynghorir i archebu darllenydd microffilm o flaen llaw er mwyn sicrhau bod un ar gael pan ddowch. Gellir gwneud hyn trwy ffonio neu trwy anfon ffacs neu e-bost.
Rhaid cael Tocyn Darllen (CARN - County Archive Research Network) er mwyn cael mynediad at ddeunydd gwreiddiol. Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod sy'n cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a'ch llofnod (e.e. trwydded yrru) os nad oes gennych docyn.
Nid oes cypyrddau clo ar gael.
Gall staff ddarparu copïau o ddeunydd yr archif ar yr amod na fydd hyn yn niweidio'r deunydd. Mae yna lungopïwr hunanwasanaeth ar gyfer deunydd y llyfrgell. Darperir copïau ar gyfer ymchwil personol a phreifat, yn unol â chanllawiau hawlfraint, a chodir tâl amdanynt. Rhaid gwneud ceisiadau i gyhoeddi deunydd yn ysgrifenedig.
Caniateir defnyddio camerâu i dynnu lluniau o ddogfennau o dan yr un amodau.
Rhoddir caniatâd i ymwelwyr ddefnyddio gliniaduron.
Darperir cymorth am ddim pan fydd hyn yn bosibl. Mae gwasanaeth ymchwil ar gael am £15 yr awr (lleiafswm o awr, uchafswm o ddwy awr) er mwyn gwneud ymchwil mwy maith.
Nid oes terfyn oedran isaf ar ddefnyddwyr y gwasanaeth ond dylai plant iau ddod yng nghwmni oedolyn.