Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Cynllunio'ch Ymweliad / Archifau Gwent

Archifau Gwent

Adeilad Archifdy Gwent

Manylion Cyswllt

Archifau Gwent
Steelworks Road
Ebbw Vale
Blaenau Gwent
NP23 6DN  
Ffôn: 01495 353363
Ebost: enquiries@gwentarchives.gov.uk
Gwefan: www.gwentarchives.gov.uk 

Ble ydym ni?

Mae Archifau Gwent wedi ei leoli yn Steelworks Road (B4486), Waunlwyd, Glynebwy.

O Ffordd Blaenau'r Cymoedd (A472) dilynwch yr arwyddion i'r Gweithfeydd (The Works), A4046 a B4486. 

Parcio
Mae llefydd parcio ar gael am ddim ar y safle.

 
Ar y Bws/Trên
Mae gwasanaeth trên rheolaidd o Gaerdydd i Barcffordd Glynebwy. Am fanylion gweler www.arrivatrainwales.co.uk a www.nationalrail.co.uk/stations/ebv/localarea.html. Mae pellter o tua 1 1/2 milltir o orsaf Parcffordd Glynebwy i Archifau Gwent.

Mae safle bws gwasaneth rhif 22 Stagecoach De Cymru o Gwmbrân i Lynebwy yn agos iawn i adeilad Archifau Gwent - gweler www.stagecoachbus.com.


Dod o hyd i ni ar fap Google

Cynnwys yr Archif

Mae Archifau Gwent yn dal cofnodion sy'n ymwneud ag ardal ddaearyddol yr hen Sir Fynwy hanesyddol a hen sir Gwent, gan gynnwys archifau'r llywodraeth leol; archifau cyhoeddus a swyddogol (llysoedd, ysbytai ayb); archifau preifat gan gynnwys archifau teuluoedd, archifau ystadau, ac archifau diwydiannol a masnachol; ac archifau plwyfi eglwysig esgobaeth Mynwy.
 

Oriau Agor

Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.30am - 5pm

                    
Bydd y swyddfa hefyd ar agor ar un Sadwrn y mis am gyfnod arbrofol. Byddwn ar agor ar y Sadyrnau a ganlyn o 10:00 tan 4:00:

11 Chwefror 2012, 10 Mawrth 2012, 14 Ebrill 2012.

Hygyrchedd

Mae holl ardaloedd cyhoeddus Archifau Gwent yn hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn ac mae tai bach i bobl anabl ar gael.
 

Cyfleusterau

Bwyd: Mae ystafel ar wahân ar gael i ymwelwyr sydd am fwyta'u bwyd a'u diod eu hunain.

Tai Bach: Mae tai bach cyhoeddus ar gael ar y safle.
Siop: Nid oes siop yn Archifau Gwent ond gellir prynu cyhoeddiadau o'r swyddfa.
 

Apwyntiadau

Nid oes angen gwneud apwyntiad bob tro ond fe'ch cynghorir i ffonio i gadw sedd, yn enwedig ar gyfer defnyddio darllenwyr microffilm/fiche.
 

Tocynnau Darllen

Rhaid i ymwelwyr gwblhau Ffurflen Gofrestru a Datganiad ar eu hymweliad cyntaf â'r Archifau yn ogystal â darparu prawf adnabod (sy'n cynnwys cyfeiriad a llofnod). Derbynnir Tocyn Darllen CARN (County Archive Research Network) dilys fel prawf adnabod.
 

Cypyrddau clo

Mae cypyrddau clo ar gael y tu allan i'r ystafell chwilio. Ni chodir tâl.
 

Defnyddio camerâu a chopïo

Mae Archifau Gwent yn cynnig gwasanaeth llungopïo, yn amodol ar gyflwr y dogfennau ac ar reoliadau sy'n ymwneud â hawlfraint. Gellir darparu llungopïau ac argraffiadau o ficroffilm/fiche.
Caniateir defnyddio camerâu; codir tâl o £2.00 am drwydded diwrnod a £20.00 am drwydded flynyddol.
Mae gwasanaeth ffotograffig ar gael hefyd.
 

Defnyddio gliniaduron

Caniateir defnyddio gliniaduron, ac mae mynediad wi-fi ar gael.
 

Gwasanaeth Ymchwil

Mae Archifau Gwent yn cynnig gwasanaeth ymchwil am gost o £25 yr awr i'r rheiny sy'n medru ymweld â'r Archifu. Cysylltwch â ni o flaen llaw gyda manylion eich cais er mwyn cael amcangyfrif o'r gost a ffurflen archeb swyddogol. Mae rhestr o asiantau cofnodion ac achyddion sy'n medru ymgymryd â gwaith ymchwil ar gael hefyd.
 

Plant a phobl ifanc

Nid oes cyfyngiadau ar oedran, ond dylai plant ddod gydag oedolyn cyfrifol, a dylai ymwelwyr sydd â phlant ifanc iawn sicrhau nad ydynt yn tarfu ar ddefnyddwyr eraill yn yr Archifau.