Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Cynllunio'ch Ymweliad / Archifau Gwynedd - Archifdy Caernarfon

Archifau Gwynedd - Archifdy Caernarfon

Archifdy Caernarfon

Manylion Cyswllt

Archifau Gwynedd

Archifdy Caernarfon
Swyddfa'r Cyngor
Caernarfon
LL55 1SH
Ffôn: 01286 679095
Ffacs: 01286 679637
Ebost: archifau.caernarfon@gwynedd.gov.uk
Gwefan: http://www.gwynedd.gov.uk/archifau
 

Ble ydym ni?

Mae Archifdy Caernarfon wedi ei leoli yn Noc Fictoria, Caernarfon. Mae yna arwyddion tuag at yr Archifdy oddi ar yr A487.

Parcio
Nid oes llefydd parcio ar safle'r Archifdy ond mae digon o feysydd parcio talu ac arddangos gerllaw.

Ar y Bws/Trên
Mae'r orsaf fysus tua 10 munud o daith cerdded i ffwrdd. Mae'r orsaf drenau agosaf ym Mangor ac mae gwasanaeth fysus dda yn cysylltu'r orsaf â Chaernarfon.
 

Dod o hyd i ni ar fap Google
 

Cynnwys yr Archif

Mae gan Archifdy Caernarfon ddeunydd sy'n ymwneud â'r hen Sir Gaernarfon, gan gynnwys archifau'r llywodraeth leol; archifau cyhoeddus a swyddogol (y llysoedd, ysbytai, ayb); archifau preifat gan gynnwys archifau teuluoedd, archifau ystadau, ac archifau diwydiannol a masnachol; ac archifau plwyfi eglwysig esgobaeth Bangor.
 

Oriau Agor

Dydd Mawrth - Dydd Gwener 9.30am - 5pm                          
(Ar gau am ginio rhwng 12.30-1.30)
Oriau agor estynedig ar ddydd Mercher, tan 7 yr hwyr

Hygyrchedd

Mae'r adeilad yn hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn ac mae tŷ bach i bobl anabl ar gael.
 

Cyfleusterau

Bwyd: Nid oes cyfleusterau ar gyfer prynu bwyd neu ddiod ar safle'r Archifdy ond mae digon o gaffis yn y dref, daith cerdded fer i ffwrdd.
Tai Bach: Mae tai bach ar gael, gan gynnwys tŷ bach i bobl anabl.
Siop: Gellir prynu cyhoeddiadau a chardiau post o'r dderbynfa.
 

Apwyntiadau

Nid oes angen gwneud apwyntiad er mwyn ymweld â'r Archifdy.
 

Tocynnau Darllen

Rhaid cael Tocyn Darllen (CARN - County Archive Research Network) er mwyn cael mynediad at ddeunydd gwreiddiol. Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod, sy'n cynnwys eich cyfeiriad a'ch llofnod (e.e. trwydded yrru) gyda chi os nad oes gennych docyn.
 

Cypyrddau clo

Mae cypyrddau clo ar gael. Nid oes angen arian.
 

Defnyddio camerâu a chopïo

Ni chaniateir defnyddio sganwyr na chyfarpar tynnu lluniau. Gall yr Archifdy wneud llungopïau, copïau ffotograffig a recordiadau ar eich rhan am ffi.
 

Defnyddio gliniaduron

Caniateir defnyddio gliniaduron.
 

Gwasanaeth Ymchwil

Cynigir gwasanaeth ymchwil gan yr Archifdy am £12 am bob hanner awr.
 

Plant a phobl ifanc

Estynnwn groeso i blant a phobl ifanc. Mae ystafell addysg ar gael er mwyn i blant a phobl ifanc ei defnyddio. Darperir pecynnau adnoddau er mwyn i blant a phobl ifanc eu defnyddio yn yr Archifdy.