Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Cynllunio'ch Ymweliad / Archifau Gwynedd - Archifdy Meirionnydd

Archifau Gwynedd - Archifdy Meirionnydd

Archifdy Meirionnydd

Manylion Cyswllt

Archifau Gwynedd

Archifdy Meirionnydd
Ffordd y Bala
Dolgellau
Gwynedd
LL40 2YF   
Ffôn: 01341 424682
Ffacs: 01341 424683
Ebost: archifau.dolgellau@gwynedd.gov.uk
Gwefan: http://www.gwynedd.gov.uk/archifau
 

Ble ydym ni?

Mae Archifdy Meirionnydd yn rhannu adeilad gyda Llyfrgell Dolgellau. Mae yna arwyddion tuag at y llyfrgell oddi ar yr A470 yn Nolgellau.

Parcio
Mae digon o lefydd parcio ar gael o flaen yr adeilad ac i'r ochr. Mae yna lefydd parcio dynodedig i bobl anabl ar gael.

Ar y Bws/Trên
Nid oes gwasanaeth drenau i Ddolgellau ar gael. Mae'r orsaf fysus tua 10 munud o daith cerdded i ffwrdd.

Dod o hyd i ni ar fap Google
 

Cynnwys yr Archif

Mae gan Archifdy Meirionydd gofnodion sy'n ymwneud â'r hen Sir Feirionydd, gan gynnwys gan gynnwys archifau'r llywodraeth leol; archifau cyhoeddus a swyddogol (y llysoedd, ysbytai, ayb); archifau preifat gan gynnwys archifau teuluoedd, archifau ystadau, ac archifau diwydiannol a masnachol; ac archifau plwyfi eglwysig esgobaethau Bangor a Llanelwy.
 

Oriau Agor

Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 9.30am - 5pm                          
(Ar gau am ginio rhwng 1pm - 2pm)
Dydd Mercher - ar gau
 

Hygyrchedd

Mae'r adeilad yn hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn. Mae yna lefydd parcio dynodedig ar gael ac mae yna dai bach i bobl anabl.
 

Cyfleusterau

Bwyd: Nid oes cyfleusterau ar gyfer prynu bwyd na diod yn y llyfrgell ond mae archfarchnad ar gael bellter byr i ffwrdd ac mae yna sawl caffi yn y dre, daith cerdded o 10 munud i ffwrdd.
Tai Bach: Mae tai bach ar gael, gan gynnwys tai bach i bobl anabl.
Siop: Gellir prynu cyhoeddiadau a chardiau post yn yr ystafell chwilio.
 

Apwyntiadau

Nid oes angen gwneud apwyntiad er mwyn ymweld â'r Archifdy.
 

Tocynnau Darllen

Rhaid cael Tocyn Darllen (CARN - County Archive Research Network) er mwyn cael mynediad at ddeunydd gwreiddiol. Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod, sy'n cynnwys eich cyfeiriad a'ch llofnod (e.e. trwydded yrru) gyda chi os nad oes gennych docyn.
 

Cypyrddau clo

Mae cypyrddau clo ar gael. Nid oes angen arian.
 

Defnyddio camerâu a chopïo

Ni chaniateir defnyddio sganwyr na chyfarpar tynnu lluniau. Gall yr Archifdy wneud llungopïau, copïau ffotograffig a recordiadau ar eich rhan am ffi. Gweler ein gwefan www.gwynedd.gov.uk/archifau am restr o'r costau.
 

Defnyddio gliniaduron

Caniateir defnyddio gliniaduron.
 

Gwasanaeth Ymchwil

Cynigir gwasanaeth ymchwil gan yr Archifdy am £12 am bob hanner awr.
 

Plant a phobl ifanc

Estynnwn groeso i blant a phobl ifanc. Mae ystafell addysg ar gael er mwyn i blant a phobl ifanc ei defnyddio. Darperir pecynnau adnoddau er mwyn i blant a phobl ifanc eu defnyddio yn yr Archifdy.