
Gwasanaethau Llyfrgell, Archifau a Gwybodaeth
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Ffôn: +44 (0) 1792 295021
Ffacs: +44 (0)1792 295851
Ebost: archifau@abertawe.ac.uk
Gwefan: http://www.swan.ac.uk/lis/historicalcollections/Archives/
Mae'r Archifdy wedi ei lleoli yn Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Prifysgol Abertawe. Mae'r Brifysgol ar lan y môr, gyda digon o arwyddbyst i'ch cyfeirio yno. Mae'r llyfrgell yn adeilad rhif 7 ar y campws, mae map ar gael ar www.swan.ac.uk/alumniandvisitors/MapsLocation/Campus/
Parcio
Mae yna faes parcio talu ac arddangos i ymwelwyr yn syth i'r dde o'r brif fynedfa wrth i chi ddod i mewn i gampws y Brifysgol. Os bydd hwn yn llawn, cyfeirir ymwelwyr oddi ar y campws at faes parcio'r Maes Hamdden, daith cerdded fer i ffwrdd o'r Brifysgol.
Ar y Bws/Trên
Bydd trenau'n mynd â chi at Orsaf Stryd Fawr Abertawe lle gallwch ddal bws at Orsaf Fysus Cwadrant y ddinas. Mae yna safle tacsis y tu allan i'r orsaf a bydd taith at y brifysgol yn cymryd tua 15 i 20 munud. Daw teithiau bws Inter-city i ben yng Ngorsaf Fysus y Cwadrant. Gellir dal bysus at y campws o'r orsaf fysus, ac mae yna safle tacsis y tu allan i'r orsaf fysus hefyd.
Mae'r Archifdy'n dal y cofnodion canlynol:
Mae'r rhain yn cynnwys: cofnodion diwydiannau metelegol a pheirianneg; cofnodion Rheilffordd y Mwmbwls; cofnodion teuluoedd ac ystadau; cofnodion y Methodistiaid ar gyfer cylch Abertawe a'r Gŵyr (ac eithrio cofrestrau, sydd ar gadw yn Archifdy Gorllewin Morgannwg); cofnodion Eglwys Gatholig St David's Priory, Abertawe.
Mae'r rhan fwyaf o'r casgliad hwn yn cynnwys cofnodion Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru) a'i rhagflaenydd, Ffederasiwn Glowyr De Cymru (SWMF) a'i ganghennau neu gyfrinfeydd. Mae hefyd yn cynnwys: cofnodion Sefydliadau Glowyr a chymdeithasau cydweithredol; papurau personol gan unigolion a chasgliad mawr o ffotograffau. Yn ogystal â'r deunydd sydd ar gadw yn yr Archifdy, mae deunydd print, baneri a chasgliad eang o hanes llafar ar gadw yn Llyfrgell Glowyr De Cymru (01792 518603).
Cofnodion Prifysgol Abertawe ers ei sefydlu ym 1920.
Gan gynnwys: Raymond Williams, Ron Berry ac Alun Richards
Gan gynnwys: dyddiaduron, papurau, posteri a ffotograffau
Dydd Llun - Dydd Gwener 9.15am - 5pm
(Ar gau am ginio rhwng 1-2pm)
Nos Fawrth (yn ystod y tymor yn unig) 6pm - 9.30pm
Rhaid gwneud apwyntiad, a rhaid gwneud apwyntiadau ar gyfer nosweithiau Mawrth erbyn canol dydd y dydd Gwener blaenorol. Rhaid archebu dogfennau o flaen llaw ar gyfer nosweithiau Mawrth.
Mae llefydd parcio i bobl anabl ar gael. Cysylltwch â'r Archifdy am fwy o wybodaeth (01792 295021). Mae prif fynedfa'r Llyfrgell a'r Ganolfan Wybodaeth yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Gellir cael mynediad at lawr Ystafell Ddarllen yr Archifdy trwy lifft.
Bwyd: Ni chaniateir mynd â bwyd na diod i mewn i Ystafell Ddarllen yr Archifdy. Fodd bynnag, mae yna gyfleuster 'Costa @ The Library' sy'n gweini byrbrydau a diodydd oer a phoeth yn neuadd astudio'r llyfrgell. Mae yna nifer o fannau eraill i brynu bwyd ar hyd y campws hefyd.
Tai Bach: Mae tai bach i ymwelwyr wedi eu lleoli ar waelod y grisiau ar yr ail lefel, gyferbyn â'r Ddesg Wybodaeth. Mae yna dŷ bach i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn trwy'r fynedfa i'r dde o'r Ddesg Fenthyca.
Siop: Nid oes siop yn yr Archifdy.
Rhaid gwneud apwyntiad er mwyn gweld dogfennau yn yr Archifdy, ond fe wnawn ein gorau i roi lle i bobl ar fyr rybudd pryd bynnag y bo'n bosibl. Gellir gwneud apwyntiadau trwy ffonio (01792 295021) neu ddanfon ebost (archifau@abertawe.ac.uk).
Nid oes angen tocyn darllen ar hyn o bryd, ond mae bwriad gweithredu un, felly cysylltwch â'r Archifdy am fwy o wybodaeth.
Nid oes cypyrddau clo ar gael.
Gall staff ddarparu llungopïau, o fewn canllawiau ar hawlfraint ac ar yr amod na fydd hyn yn achosi difrod i'r ddogfen. Gofynnwch am fanylion am ffioedd. Ni chaniateir defnyddio camerâu na chamerâu ar ffonau symudol.
Caniateir defnyddio gliniaduron ac mae socedi pŵer ar gael.
Medrwn ymateb i ymholiadau am y casgliadau sydd gennym ar gadw yma ond nid ydym yn medru darparu gwasanaeth ymchwil llawn.
Nid oes terfyn oedran isaf ar ddefnyddwyr y cyfleusterau. Fodd bynnag, ardal astudio dawel yw'r ystafell ddarllen a rhaid dilyn y rheolau ar gyfer defnyddio'r Archifdy.