
Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 7ED
Ffôn: 01570 424716
Ebost: rodericbowenlibrary@lamp.ac.uk
Gwefan: www.lamp.ac.uk/library
Mae Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen gyferbyn â Phrif Lyfrgell Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ei champws yng nghanol Llambed. Gellir cael map o'r campws oddi ar wefan y brifysgol: http://www.lamp.ac.uk/uni/campus_map.html
Parcio
Mae llefydd parcio ar gael ar gampws y brifysgol. Gweler fap y campws am fwy o fanylion.
Ar y Bws/Trên
Gwasanaeth bws yr X40, sy'n gwasanaethu Aberystwyth, Aberaeron, Caerfyrddin a Chaerdydd yw'r ffordd fwyaf cyfleus o gyrraedd Llambed ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os hoffech gael mwy o wybodaeth, ewch at:
http://www.arrivabus.co.uk
Mae'r X40 yn stopio yn y Stryd Fawr, sydd 5 munud o daith cerdded i ffwrdd o Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. Mae'r gorsafoedd trenau agosaf yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth; gwasanaethir y ddau gan yr X40.
Mae Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn dal cofnodion sefydliadol Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, a sefydlwyd ym 1822 - dyma sefydliad addysg uwch hynaf Cymru. Mae'r cofnodion hyn yn cynnwys cofrestrau myfyrwyr a chasgliad helaeth o ffotograffau. Mae'r archif hefyd yn cynnwys papurau ysgolheigion unigol a oedd yn gysylltiedig â'r brifysgol. Mae yna gasgliad bychan o lawysgrifau canoloesol ac ôl-ganoloesol, o fath crefyddol yn bennaf, a gyflwynwyd gan gymwynaswyr megis Thomas Burgess (1756-1837), Esgob Tyddewi a sylfaenydd y brifysgol, a'r dyngarwr addysgol Thomas Phillips (1760-1851).
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hefyd yn dal archifau sy'n ymwneud â Chanolfan Ymchwil Profiadau Crefyddol Ymddiriedolaeth Alister Hardy, sydd ar gael trwy drefniant â Chymdeithas Alister Hardy (www.alisterhardyreligiousexperience.co.uk/).
Dydd Llun - Dydd Iau 9.30am - 4.45pm.
Dylid nodi y defnyddir yr archifau'n rheolaidd ar gyfer dysgu ac fe'ch cynghorir i ffonio cyn ymweld â'r Archifdy er mwyn sicrhau nad yw'r ystafell ddarllen yn cael ei defnyddio.
Mae un lle parcio dynodedig ar gael i bobl anabl y tu allan i'r Brif Lyfrgell. Mae'r holl ardaloedd cyhoeddus yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Gellir darparu chwyddwydrau a chwyddwydrau fideo. Mae tai bach i bobl anabl ar gael yn y Prif Lyfrgell.
Bwyd: Mae croeso i ymwelwyr ddefnyddio Ffreutur y Brifysgol, sydd ar ben arall y campws, tua thri munud o daith cerdded i ffwrdd o'r Llyfrgell, ac mae yna ddewis eang o gaffis a phoptai yn Llambed.
Tai bach: Ar gael yn y Brif Lyfrgell.
Siop: Gellir prynu cardiau post a chyhoeddiadau o'r Brif Lyfrgell.
Fe'ch cynghorir i wneud apwyntiad o flaen llaw er mwyn sicrhau y gallwn fynd i nôl y deunyddiau cyn i chi ymweld â'r Archifdy, ac er mwyn osgoi amserau pan fydd yr ystafell yn cael ei defnyddio ar gyfer dysgu.
Bydd angen i ddefnyddwyr nad sy'n aelodau o'r Brifysgol, ond sydd am gael mynediad at ddeunyddiau yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, ddod â phrawf adnabod sy'n cynnwys eu cyfeiriad a'u llofnod (e.e. trwydded yrru) gyda hwy.
Mae cypyrddau clo ar gael wrth fynedfa'r Brif Lyfrgell. Bydd angen darn punt er mwyn eu defnyddio (dychweladwy).
Ni chaniateir llungopïo deunyddiau o'r archifau. Gellir darparu delweddau digidol sydd o safon sy'n ddigonol ar gyfer astudio (nid ydynt ar gyfer eu hatgynhyrchu). Codir tâl.
Caniateir defnyddio gliniaduron, ac mae socedi pŵer ar gael.
Gellir ymgymryd â chwiliadau yng nghofnodion y brifysgol. Codir tâl.
Cyfyngir defnyddio'r archif i ddarllenwyr dros 18 mlwydd oed fel arfer. Gall pobl ifancach sydd ag anghenion ymchwil dilys wneud cais am ganiatâd i ddefnyddio'r archifau gan Lyfrgellydd y Brifysgol.