
Archifau Ynys Môn
Ystad Ddiwydiannol Bryncefni
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7JA
Ystafell Ymchwil: 01248 751930
Ebost: archifdy@ynysmon.gov.uk
Gwefan: http://www.ynysmon.gov.uk/archifau
Gadewch A55 Expressway ger Gyffordd 6, gan ddilyn arwyddion am Rostrehwfa (A5) a Llangefni (A5114). Dilynwch yr arwydd i Langefni (A5114). Cymerwch y troad cyntaf ar y dde, yna dilynwch arwyddion am yr Ystad Ddiwydiannol. Wrth gyrraedd y cylchdro cyntaf, cymerwch yr allanfa cyntaf. Ewch ar hyd y ffordd hon nes i chi weld arwydd am Archifau Ynys Môn. Lleolir yr Archifau tu ôl i ‘SOS Office Solutions’ ar y dde.
Parcio
Darperir maes parcio am ddim ar gyfer defnyddwyr yr Archifau.
Mae Archifau Môn yn dal cofnodion a chasgliadau ar gyfer Ynys Môn, gan gynnwys ffurflenni cyfrifiadau, cofrestri plwyf, cofrestri anghydffurfwyr, cofnodion trethi tir, mapiau, ffotograffau, cofnodion cynghorau, cofnodion addysg, rhestrau criwiau llongau a gofrestrwyd ym Miwmares, papurau newydd a chasgliadau cyhoeddus a phreifat eraill.
Llun: 9:15am - 4:45pm (ar gau am ginio 1pm - 2pm)
Mawrth: 2pm - 4:45pm (2pm – 7pm ar yr ail a'r pedwerydd Dydd Mawrth pob mis)
Mercher: 9:15am - 4:45pm (ar gau am ginio 1pm - 2pm)
Iau: 9:15am - 4:45pm (ar gau am ginio 1pm - 2pm)
Gwener: 9:15am - 4:45pm (ar gau am ginio 1pm - 2pm)
Mae mynediad llawn i bob ardal cyhoeddus yn Archifau Môn.
Tai Bach: Ceir tai bach gyda mynediad llawn.
Siop: Mae ystod o gyhoeddiadau ar werth, gan gynnwys llyfrau am hanes leol a hanes teulu.
Mae Archifau Môn yn gweithredu system archebu. Rhaid i ddefnyddwyr archebu lle yn yr ystafell chwilio cyn eu bod yn ymweld. Gallwch archebu lle trwy ddod i’r Archifdy, trwy e-bost, ffôn neu lythyr. Nodwch bod angen archebu lle ar gyfer pob person sy’n dymuno defnyddio’r gwasanaeth. Os bydd gennych unrhyw ofynion arbennig, gadewch i ni wybod amdanynt pan fyddwch yn archebu lle.
Rhaid cael Tocyn Darllen (CARN - County Archive Research Network) er mwyn cael mynediad at ddeunyddiau gwreiddiol. Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod sy'n cynnwys eich cyfeiriad a'ch llofnod (e.e. trwydded yrru) os nad oes gennych docyn. Gellir rhoi tocynnau diwrnod i'r rheiny nad sydd â thocyn darllenwyr, hefyd.
Mae cypyrddau clo ar gael ar gyfer bagiau ayb.
Gellir darparu ffotograffau, argraffiadau a llungopïau microfform yn unol â chyfyngiadau hawlfraint a chan ddibynnu ar gyflwr y dogfennau gwreiddiol. Gellir prynu trwyddedau ar gyfer defnyddio camerâu personol.
Caniateir defnyddio gliniaduron a darperir socedi at y pwrpas hwn.
Mae yna wasanaeth ymchwil post y gellir talu amdani, gyda ffi gychwynnol am yr awr gyntaf. Cysylltwch ag Archifau Môn er mwyn cael y ffi gyfredol.