Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Cynllunio'ch Ymweliad / Archifdy Ceredigion

Archifdy Ceredigion

Archifdy Ceredigion

Manylion Cyswllt

Archifdy Ceredigion
Swyddfa'r Sir
Rhodfa'r Môr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2DE.
Ffôn: 01970 633697 neu 633698
Ebost: archifau@ceredigion.gov.uk
Gwefan: http://www.archifdy-ceredigion.org.uk
 

Ble ydym ni?

Mae'r Archifdy wedi ei leoli yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion (hen Westy'r Frenhines), tua phen gogleddol y prom yn Aberystwyth, a rhyw bum munud o daith gerdded i ffwrdd o'r pier.
Yn y car, o'r gogledd ac o'r de: ewch ar yr A487 i mewn i Aberystwyth a dilynwch yr arwyddion tuag at lan y môr.
O'r dwyrain: ewch ar yr A44 i mewn i Aberystwyth a dilynwch yr arwyddion tuag at lan y môr.
Dylai cerddwyr gerdded tuag at y prom, a throi i'r dde tua phen gogleddol glan y môr.

Parcio
Nid oes llefydd parcio ar y safle. Mae yna lefydd lle gellir parcio am ddim ar y ffordd yn y dre ac ar lan y môr, ond cofiwch y gall Aberystwyth fod yn brysur iawn yn ystod tymor y gwyliau. Mae yna sawl maes parcio talu ac arddangos yn y dref hefyd.

Ar y Bws/Trên
Mae'r archifau rhyw ddeng munud o daith cerdded i ffwrdd o'r orsaf drenau a'r orsaf fysus.

Dod o hyd i ni ar fap Google

Cynnwys yr Archif

Archifdy Ceredigion yw'r archifdy ar gyfer yr hen Sir Aberteifi.
 

Oriau Agor

Dydd Llun                                     10am - 7pm                    
Dydd Mawrth a Dydd Mercher       10am - 4.30pm
Dydd Iau a Dydd Gwener              10am- 4pm  
 

Hygyrchedd

Mae'r Archifdy'n hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn. Mae yna dai bach i bobl anabl ar yr un llawr ac mae yna lifft i mewn i'r adeilad (yng nghefn yr adeilad) ar gyfer y rheiny sy'n cael anawsterau wrth symud.
 

Cyfleusterau

Bwyd: Nid oes caffi ar y safle ond nid yw Rhodfa'r Môr, lle mae dewis o lefydd bwyta ar gael, yn bell i ffwrdd.
Tai bach: Mae tai bach (Dynion, Merched a phobl anabl) rhyw 16 medr i ffwrdd o'r ystafell chwilio. Nid oes grisiau.
Siop: Nid oes siop, ond gellir benthyg pensiliau ac mae papur ar gyfer ysgrifennu nodiadau ar gael o hyd. 
 

Apwyntiadau

Nid oes angen bwcio apwyntiad, ond byddwn yn eich cynghori i ffonio o flaen llaw os ydych yn dod o bell er mwyn gwneud yn siŵr bod yr archif ar agor.
 

Tocynnau Darllen

Rhan o gynllun CARN, ond nid oes rhaid bod yn aelod.
 

Cypyrddau clo

Dim.
 

Defnyddio camerâu a chopïo

Gellir tynnu lluniau a gwneud llungopïau fel y gwêl yr Archifydd orau. Caniateir defnyddio camerâu digidol yn yr ystafell chwilio. Gall staff wneud copïau digidol gan ddefnyddio camerâu a thechnegau sganio. Bydd disgwyl i ymchwiliwyr lenwi datganiad hawlfraint.
 

Defnyddio gliniaduron

Caniateir defnyddio gliniaduron; gellir eu plygio i mewn pryd bynnag y bo'n bosibl.
 

Gwasanaeth Ymchwil

Mae gwasanaeth ymchwil ar gael am gost o £15 yr awr. Cynigir cyngor a chymorth am ddim yn yr ystafell chwilio.
 

Plant a phobl ifanc

Lle tawel a myfyrgar yw'r ystafell chwilio, ond estynnir croeso i blant a phobl ifanc.