Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Cynllunio'ch Ymweliad / Archifdy Sir Ddinbych

Archifdy Sir Ddinbych

Archifdy Sir Ddinbych

Manylion Cyswllt

Archifdy Sir Ddinbych

Carchar Rhuthun
46 Stryd Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1HP
Ffôn: 01824 708250
Ffacs: 01824 708258
Ebost: archifau@sirddinbych.gov.ukarchives@denbighshire.gov.uk
Gwefan: http://www.sirddinbych.gov.uk/cy-gb/DNAP-6ZQKTQ

Ble ydym ni?

Mae Archifdy Sir Ddinbych wedi ei leoli yn yr Hen Garchar, Stryd Clwyd, Rhuthun, sydd yng nghanol y dref, oddi ar yr A494. Mae digon o arwyddion post i'ch cyfeirio yno.

O'r A525 a'r A494: wrth ddod o'r dwyrain, dilynwch yr A525 neu'r A494 i mewn i Ruthun. Cymerwch yr ail droad oddi ar y gylchfan, ar yr A494, Ffordd y Parc. Dilynwch hwn at faes parcio Ffordd y Parc ar y chwith, cyn garej Texaco. Wrth ddod o'r gorllewin, dilynwch yr A525 neu'r A494 i mewn i Ruthun. Os ydych ar yr A525, trowch i'r chwith ar yr A494 pan gyrhaeddwch y gyffordd, fel eich bod ar Ffordd y Parc. Bydd maes parcio Ffordd y Parc ar y dde ychydig ar ôl garej Texaco. Os ydych ar yr A494, trowch i'r dde wrth y gyffordd, fel eich bod yn dal i fod ar yr A494, yna trowch i'r dde dros y bont cyn garej Texaco. Bydd maes parcio Cae Ddol ar yr ochr dde yn union. Archifdy Sir Ddinbych yw'r adeilad bric llwyd mawr ger yr afon. Mae'r fynedfa trwy fwa oddi ar Stryd Clwyd.
 
Parcio
Dim ond llefydd parcio i bobl anabl sydd ar gael ar y safle. Mae llefydd parcio talu ac arddangos ar gael ychydig funudau o daith cerdded i ffwrdd ym Meysydd Parcio Cae Ddol neu Ffordd y Parc.

Ar y Bws/Trên
Nid oes gorsaf drenau yn Rhuthun. Mae'r orsaf agosaf yn y Rhyl. Mae'r orsaf fysus y tu allan i Neuadd y Sir, sydd 5 munud o daith cerdded i ffwrdd o Archifdy Sir Ddinbych.
 
Dod o hyd i ni ar fap Google
 

Cynnwys yr Archif

Mae Archifdy Sir Ddinbych yn dal cofnodion sy'n ymwneud ag ardal ddaearyddol yr hen sir hanesyddol yn ogystal â sir newydd Sir Ddinbych, gan gynnwys cofnodion awdurdodau lleol, cofnodion plwyfi, cofnodion capeli, cofnodion teuluoedd, cofnodion unigolion, cofnodion busnesau a chofnodion sefydliadau o bob math.

Oriau Agor

Dydd Llun - AR GAU
Dydd Mawrth- Dydd Gwener- 9.30-4.30

Archebion olaf am ddogfennau yw 11.45yb a 4.00yp
Ni chaiff ubrhyw ddogfennau eu cynhyrchu rhwyng 12.00yp a 2.00yp oni bai eu bod wedi eu harchebu cyn 11.45yb

Hygyrchedd

Mae holl ardaloedd cyhoeddus Archifdy Sir Ddinbych yn hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn ac mae tai bach i bobl anabl ar gael.

Cyfleusterau

Bwyd: Nid oes cyfleusterau ar gyfer prynu bwyd ar y safle, ond mae digon o lefydd bwyta yn y dref, gyda'r agosaf ond ychydig funudau o daith cerdded i ffwrdd.
Tai Bach: Mae tai bach cyhoeddus ar gael ar y safle.
Siop: Nid oes siop yn Archifdy Sir Ddinbych ond gellir prynu cyhoeddiadau yn y swyddfa.

Apwyntiadau

Nid oes rhaid gwneud apwyntiad cyn dod bob tro ond fe'ch cynghorir i gysylltu  â'r Archifdy o flaen llaw os ydych yn dod o bell neu os hoffech gadw darllenydd microffilm neu gyfrifiadur.

Tocynnau Darllen

Rhaid cael Tocyn Darllen (CARN - County Archive Research Network) er mwyn cael mynediad at ddeunydd gwreiddiol. Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod sy'n cynnwys eich cyfeiriad a'ch llofnod (e.e. trwydded yrru) os nad oes gennych docyn.

Cypyrddau clo

Mae cypyrddau clo ar gael y tu allan i'r ystafell chwilio. Nid chodir tâl.

Defnyddio camerâu a chopïo

Mae Archifdy Sir Ddinbych yn cynnig gwasanaeth llungopïo, yn amodol ar gyflwr y dogfennau ac ar reoliadau sy'n ymwneud â hawlfraint. Mae yna gost o 35c am bob copi A4, 60c am bob copi A3 a £2.50 am sgan. Gellir darparu printiau o ficroffilm/fiche am £1.00 y copi.
Caniateir defnyddio camerâu; codir tâl o 50c y llun a chaniateir uchafswm o 10 llun y dydd.

Defnyddio gliniaduron

Caniateir defnyddio gliniaduron a darperir nifer cyfyngedig o socedi pŵer i'w defnyddio gyda nhw.

Gwasanaeth Ymchwil

Mae gwasanaeth ymchwil ar gael i'r rheiny nad sy'n medru ymweld â'r swyddfa. Codir tâl o £21 yr awr (lleiafswm) a £9 am bob hanner awr ychwanegol. Dylid gwneud ceisiadau'n swyddogol ar y ffurflen archebu, gyda siec neu archeb bost yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych. Gall aelodau o Gyfeillion Archifau Clwyd gael yr hanner awr gyntaf o waith ymchwil am ddim.

Plant a phobl ifanc

Nid oes cyfyngiadau oedran, ond dylai plant ddod gydag oedolyn cyfrifol, a dylai ymwelwyr â phlant ifanc iawn sicrhau na therfir ar ddefnyddwyr eraill yr Archifdy.