
Archifdy Sir Penfro
Y Castell
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2EF
Ffôn: 01437 763707
Ebost: record.office@pembrokeshire.gov.uk
Gwefan: http://www.pembrokeshire.gov.uk/content.asp?nav=646&parent_ directory_id=646&language=CYM&pagetype=&keyword=
(chwiliwch am Archifdy Sir Penfro)
Mae Archifdy Sir Penfro wedi ei leoli yn yr hen garchar Tref a Sir, ar dir y Castell, yn edrych dros dref Hwlffordd.
Mae yna sawl ffordd o gyrraedd yr Archifdy. Dyma'r prif rai:
Tua'r de ar yr A40 o Abergwaun: dilynwch yr A40 tuag at ganol y dref. Cymerwch y drydedd ffordd oddi ar y gylchfan ger archfarchnad Morrison. Cymerwch y trydydd troad oddi ar y gylchfan nesaf (ger y garej Skoda). Cymerwch y ffordd gyntaf oddi ar y gylchfan (fach) nesaf yna trowch i'r chwith ar eich union i mewn i Stryd yr Eglwys. Bydd Eglwys San Martin ar y chwith. Parhewch ar eich ffordd i fyny Stryd yr Eglwys, sy'n arwain at Sgwâr y Frenhines (sgwâr bychan gyda cheir wedi parcio yn y canol). Ewch i mewn i Stryd y Castell ar ben uchaf y sgwâr (rhwng dwy res o dai). Mae'r gatiau i mewn i dir y Castell o'ch blaen. Gellir parcio ar y safle.
Edrychwch am arwyddion post brown ar gyfer y Castell, yr Archifdy a'r Amgueddfa ar hyd y ffordd. Mae'r tri ar yr un safle.
Tua'r gorllewin ar yr A40 o San Clêr a'r M4: cymerwch y troad cyntaf oddi ar y gylchfan gyntaf ar eich ffordd i mewn i Hwlffordd, ac ewch i'r lôn ar y dde pan fydd y ffordd yn rhannu. Cymerwch y pedwerydd troad oddi ar y gylchfan nesaf (bydd y County Hotel ar y chwith) ac ewch i'r lôn ar y chwith. Cymerwch y troad cyntaf oddi ar y gylchfan nesaf ger archfarchnad Morrison. Dilynwch y cyfarwyddiadau i'r de, o gylchfan y garej Skoda, o hynny ymlaen.
Parcio
Mae llefydd parcio i ymwelwyr ar gael ar dir y Castell. Mae system drwyddedau'n weithredol yno. Gellir cael y trwyddedau hyn gan unrhyw aelod o staff wrth gyrraedd yr Archifdy ac arwyddo. Ni chodir tâl am barcio.
Ar y Bws/Trên
Mae'r orsaf drenau tua 15 munud o daith cerdded i ffwrdd, gan gynnwys cerdded i fyny bryn serth. Mae'r orsaf fysus tua 10 munud o daith cerdded i ffwrdd, ac mae hefyd yn cynnwys cerdded i fyny bryn serth. Mae yna safleoedd tacsis ger y ddwy orsaf.
Mae gan Archifdy Sir Penfro amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol, gan gynnwys dogfennau, mapiau, cynlluniau, ffotograffau, gweithredoedd, papurau newydd a recordiadau ffilm a sain sy'n ymwneud â sawl agwedd o hanes Sir Benfro. Mae'n dal cofnodion ei rhiant-awdurdod a'r awdurdodau a oedd yn ei rhagflaenu, cofnodion busnesau lleol a theuluol, cofnodion cymdeithasau lleol, cofnodion eglwysi a chapeli, cofnodion ystadau â thir a chofnodion ysgolion.
Dydd Llun - Dydd Iau 9am - 4.45pm (10am - 4.45pm ar ddydd Llun cyntaf y mis)
Dydd Gwener 9am - 4.15pm
Dydd Sadwrn cyntaf y mis (heblaw am benwythnosau Gŵyl y Banc) 9.30am - 12.30pm
Dosberthir y dogfennau olaf 15 munud cyn cau.
Mae yna lefydd parcio dynodedig ar gyfer ymwelwyr anabl â'r Archifdy ac mae'r brif ystafell chwilio'n hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae dolen sain gludadwy ar gael. Gellir benthyg chwyddwydrau o'r ddesg ymholiadau ac mae tŷ bach i bobl anabl wedi ei leoli oddi ar gyntedd y brif fynedfa i'r ystafell chwilio. Mae taflenni gwybodaeth ar gael mewn print arferol ac mewn print bras.
Bwyd: Gwasanaethir Hwlffordd gan nifer o gaffis a thai bwyta lleol, a gellir cerdded yn rhwydd at lawer ohonynt.
Tai Bach: Mae tai bach cyhoeddus ar gael, gan gynnwys tŷ bach i bobl anabl.
Siop: Mae'r Archifdy'n gwerthu nifer cyfyngedig o lyfrau ar hanes teulu a hanes lleol gan awduron lleol, yn ogystal â chyhoeddiadau mewnol ar hanes lleol a sut i olrhain eich hanes teulu.
Nid oes rhaid gwneud apwyntiad cyn ymweld â'r Archifdy, ond mae'r ystafell chwilio'n mynd yn brysur iawn ar adegau. Gallwch neilltuo darllenydd microffilm/fiche o flaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.
Nid oes rhaid cael tocyn darllen ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae disgwyl i chi lofnodi'r llyfr cofrestru ar bob ymweliad a chytuno i ddilyn rheolau'r ystafell chwilio.
Mae cypyrddau clo ar gael o fewn golwg y brif ystafell chwilio. Nid oes angen arian arnynt.
Mae'r Archifdy'n gweithredu polisi copïo ond gall staff ddarparu llungopïau yn unol â chanllawiau hawlfraint ac ar yr amod na fydd hyn yn niweidio'r ddogfen. Gellir defnyddio camerâu er mwyn tynnu lluniau o ddogfennau, hefyd, gan ddilyn yr un canllawiau. Codir tâl am rai o'r gwasanaethau hyn.
Caniateir defnyddio gliniaduron personol yn yr ystafell chwilio. Byddai'n well gennym petaech yn defnyddio batri ar gyfer y rhain gan mai nifer cyfyngedig o socedi pŵer sydd ar gael.
Mae yna wasanaeth ymchwil ar gael ar gyfer y rheiny nad sy'n medru ymweld â'r Archifdy. Codir tâl o £15 yr awr (£7.50 am chwiliadau byr o hanner awr). Dylid gwneud ceisiadau am ymchwil yn ysgrifenedig (naill ai mewn llythyr neu trwy e-bost), gan gynnwys tâl am awr gychwynnol o waith ymchwilio. Dylid gwneud sieciau'n daladwy i "Gyngor Sir Benfro".
Nid oes terfyn oedran isaf ar gyfer defnyddio'r cyfleuserau hyn.