Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Cynllunio'ch Ymweliad / Archifdy Sir y Fflint

Archifdy Sir y Fflint

Manylion Cyswllt

Archifdy Sir y Fflint
Yr Hen Reithordy
Penarlâg
Sir y Fflint
CH5 3NR
Ffôn: 01244 532364 (ymholiadau ac archebu) 01244 532414 (gweinyddol)
Ffacs: 01244 538344
Ebost: archives@flintshire.gov.uk
Gwefan: www.flintshire.gov.uk/archives

 

Ble ydym ni?

O'r A55: Dewch oddi ar yr A55 gan ddilyn yr arwydd am Gorwen. Cymerwch y ffordd tuag at Benarlâg oddi ar y gylchfan a gyrrwch trwy goedwig Tinkersdale. Gyrrwch yn syth ar draws y groesffordd gyda'r ffynnon goffa, rhwng y Swyddfa Bost a banc HSBC, i mewn i Ffordd y Rheithordy a thrwy'r gatiau ar y diwedd. Mae llefydd parcio ar gael i lawr y bryn i'r dde wrth i chi ddod i mewn trwy'r gatiau.

O'r A494: Dewch oddi ar yr A494 ger Y Fferi Isaf a chymerwch y ffordd tuag at Benarlâg oddi ar y gylchfan. Gyrrwch i fyny'r bryn hir nes y cyrhaeddwch groesffordd Y. Trowch i'r chwith yna i'r chwith eto i mewn i Rectory Lane rhwng y Swyddfa Bost a banc HSBC (gweler uchod).

Parcio
Darparwyd maes parcio am ddim i ddefnyddwyr yr Archifdy. Trowch yn syth i'r dde ar ôl dod i mewn trwy'r gatiau dwbl. Mae llefydd parcio ar gael i bobl anabl gyferbyn â mynedfa'r Archifdy, i lawr ochr chwith yr adeilad o dan y bŵa.

Ar y Bws/Trên
Mae Penarlâg ar lwybrau bws 4 ac X44 rhwng Caer a'r Wyddgrug, ac ar lwybr 11 rhwng Caer a'r Rhyl. Dewch oddi ar y bws ger y Glynne Arms yng nghanol y pentref, trowch i lawr Rectory Lane (rwng y Swyddfa Bost a banc HSBC) ac ewch trwy'r gatiau ar y gwaelod. Mae'r Hen Reithordy o'ch blaen, ac mae'r Archifdy i lawr yr ochr chwith ar ben pellaf yr adeilad.

Mae gorsaf Penarlâg ar linell Bidston-Wrecsam. Dewch allan o'r orsaf, i'r chwith i fyny'r bryn tuag at y brif ffordd a throwch i'r dde. Trowch i lawr Ffordd y Rheithordy yng nghanol y pentref.

Dod o hyd i ni ar Google Maps
 

Cynnwys yr Archif

Mae gan Archifdy Sir y Fflint ddogfennau, mapiau, ffotograffau, llyfrau a phapurau newydd, ffilmiau a recordiadau sain, ayb, sy'n ymwneud â hanes Sir y Fflint, gan gynnwys cofnodion o'r canlynol: cynghorau'r sir a'r ardal a chynghorau plwyf/cymunedol; sesiynau chwarter; llysoedd yr ynadon; yr Eglwys yng Nghymru ac eglwysi'r anghydffurfwyr; ysgolion; undebau deddf y tlodion; ysbytai; yr heddlu; teuluoedd ac ystadau; busnesau; clybiau a chymdeithasau; undebau llafur a llawer mwy.
 

Oriau Agor

Dydd Llun - Dydd Mawrth: 10am - 4.30pm                             
Dydd Iau - Gwener: 10am - 4.30pm

Dydd Mercher - AR GAU

Hygyrchedd

Mae'r ystafell chwilio gyhoeddus a'r cyntedd yn hygyrch i bobl anabl.
 

Cyfleusterau

Bwyd: Darparwyd ardal arbennig yng nghyntedd yr Hen Reithordy gyda pheiriant diodydd poeth hunan-wasanaeth. Mae yna sawl tafarn a chaffi yn y pentref.
Tai bach: Gellir cael mynediad at dŷ bach cyhoeddus o'r cyntedd.
Siop: Mae cardiau post, llyfrau, mapiau a phrintiau a gyhoeddir gan yr Archifdy ar werth yn yr ystafell chwilio.
 

Apwyntiadau

Mae'r galw am lefydd yn uchel ac fe'ch cynghorir i archebu lle cyn ymweld â'r archifdy. Ffoniwch y rhif ffôn "ymholiadau ac archebu" uchod.
 

Tocynnau Darllen

Rhaid cael tocyn darllen CARN (County Archive Research Network) er mwyn cael mynediad at ddeunydd gwreiddiol. Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod sy'n cynnwys eich cyfeiriad a'ch llofnod (e.e. trwydded yrru) os nad oes gennych docyn.
 

Cypyrddau clo

Mae cypyrddau clo ar gael yn y cyntedd. Nid oes angen arian.
 

Defnyddio camerâu a chopïo

Gellir darparu llungopïau fel y gwêl staff yr ystafell chwilio orau, gan ystyried canllawiau hawlfraint a chyflwr y ddogfen wreiddiol. Gellir sganio a thynnu lluniau digidol ar yr un amodau. Dylai ymwelwyr sydd am ddefnyddio'u camerâu digidol eu hunain wneud cais am drwydded ffotograffiaeth. Codir tâl am yr holl gyfleusterau hyn.
Dylid nodi na fydd yn bosibl cwblhau eich archeb am gopïau yn ystod eich ymweliad, o reidrwydd.
 

Defnyddio gliniaduron

Caniateir defnyddio gliniaduron ac mae gan rai byrddau socedi pŵer gyferbyn â hwy. Dylai ymwelwyr sydd am ddefnyddio gliniadur ddweud hyn yn glir wrth archebu lle, er mwyn sicrhau bod bwrdd priodol ar gadw ar eu cyfer.
 

Gwasanaeth Ymchwil

Mae Gwasanaeth Ymchwil Archifdy Sir y Fflint yn gallu chwilio am wybodaeth

drwy’r holl ffynonellau sydd ar gael yn yr Archifdy, ond mae’n codi tâl am

wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys ffynonellau printiedig a microform, fel

cyfeirlyfrau, ffurflenni cyfrifiad, papurau newydd ynghyd â’r casgliadau

archifol.

Y tâl, sy’n cynnwys TAW a chostau postio, yw £25 yr awr.

 

Plant a phobl ifanc

Nid oes terfyn oedran isaf ar gyfer defnyddio'r cyfleusterau hyn. Dylai'r rheiny nad sydd â phrawf adnabod priodol er mwyn cael tocyn CARN (gweler Tocynnau Darllen uchod) ffonio o flaen llaw er mwyn trafod prawf priodol arall.