Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Cynllunio'ch Ymweliad / Casgliadau Arbennig ac Archifau, Prifysgol Caerdydd

Casgliadau Arbennig ac Archifau, Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

Manylion Cyswllt

Casgliadau Arbennig ac Archifau
Llyfrgell Prifysgol Caerdydd
Blwch Post 430
Caerdydd
CF24 0DE
Ffôn: 029 2087 9369
Ffacs:  029 2037 1921
Ebost: KeelanP@caerdydd.ac.uk
Gwefan: http://www.caerdydd.ac.uk/insrv/libraries/scolar/
 

Ble ydym ni?

Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau (SCOLAR) Prifysgol Caerdydd wedi ei leoli ar lawr isaf Llyfrgell y Dyniaethau ac Astudiaethau Cymdeithasol, ar gyffordd Plas-y-Parc, Heol Corbett a Ffordd Colum.

Parcio
Mae llefydd parcio ar gael i bobl anabl drwy apwyntiad ym maes parcio Aberconwy, yn agos at Lyfrgell y Dyniaethau ac Astudiaethau Cymdeithasol. Gellir cael mynediad ato o Rodfa Colum.

Ar y Bws/Trên
Mae'r Casgliadau Arbennig ac Archifau wedi ei leoli 5 munud o daith cerdded i ffwrdd o orsaf drênau Cathays, sy'n cysylltu â Gorsaf Ganolog Caerdydd. Mae'r orsaf fysus i'w chanfod wrth ochr yr Orsaf Ganolog, sydd tua 15-20 munud o daith cerdded i ffwrdd. Mae bws rhif 27 at Thornhill yn gadael o stondin D3 bob 10 munud ac yn mynd ar hyd Ffordd Colum.
 
Dod o hyd i ni ar fap Google

Cynnwys yr Archif

Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau (SCOLAR) Prifysgol Caerdydd yn dal llyfrau prin, llawysgrifau gwreiddiol a deunyddiau archifol. Mae'r casgliadau'n cynnwys:

  • Nifer o bapurau personol, gan gynnwys papurau Edward Thomas, Hugh Cudlipp ac Archie Cochrane, yn ogystal ag archifau sefydliadol, megis UCAC a Chyngor Undebau Llafur Caerdydd
  • Casgliad Salisbury: llyfrau Cymraeg sy'n dyddio o 1508-1899
  • Casgliad Reece: llyfrau ar bynciau'r dyniaethau o'r 16eg ganrif hyd at y 19eg ganrif
  • Casgliad llyfrau Hanes Meddygaeth: 16eg-20fed ganrif
  • Mapiau: dros 10,000 o fapiau
  • Casgliad ymchwil microffilm: dros 100,000 o eitemau


Oriau Agor

Dydd Llun - Dydd Gwener 9am-5pm
 

Hygyrchedd

Mae lifft ar gael sy'n mynd at bob llawr ac mae tŷ bach hygyrch ar y prif lawr. Mae pwyntiau catalog isel ar gael. Gall staff nôl llyfrau oddi ar y silffoedd, gofynnwch am gymorth, ac mae chwyddwydrau ar gael o'r swyddfa ymholiadau.
 

Cyfleusterau

Mae gan SCOLAR ystafell ymchwil sydd â digon o le i 40 o ddefnyddwyr, sganwyr microffilm digidol ac arddangosfeydd parhaus.

Bwyd: Mae gan y llyfrgell beiriannau diod oer a phoeth, ac mae sawl caffi gerllaw sy'n gwerthu ystod o fwydydd a diodydd oer a phoeth. Gofynnwch am fanylion.
Tai Bach: Mae tai bach ar gael yn y llyfrgell (gan gynnwys tai bach i bobl anabl).
Siop: Gellir prynu deunyddiau ysgrifennu yn y llyfrgell.
 

Apwyntiadau

Rhaid gwneud apwyntiad er mwyn gweld archifau SCOLAR. Mae'r casgliadau o lyfrau hanesyddol ar gael o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, rhwng 9 y bore a 5 y prynhawn.
 

Tocynnau Darllen

Gall aelodau o Brifysgol Caerdydd gael mynediad at SCOLAR trwy ddefnyddio'u cerdyn llyfrgell. Rhaid i aelodau o'r cyhoedd ddod â phrawf adnabod i'r llyfrgell gyda hwy; rhoddir tocyn diwrnod iddynt bryd hynny.
 

Cypyrddau Clo

Mae cypyrddau clo ar gael, nid oes angen arian.
 

Defnyddio camerâu a chopïo

Gall staff ddarparu llungopïau neu gopïau digidol o safon uchel o'r archifau, yn amodol ar hawlfraint ac ar yr amod na fydd hyn yn niweidio'r ddogfen. Codir tâl. Gellir defnyddio camerâu gyda chaniatâd, o fewn yr un canllawiau. Rhaid cael caniatâd gan Lyfrgell y Brifysgol er mwyn cyhoeddi atgynyrchiadau o'r adnoddau, a rhaid iddynt gynnwys cydnabyddiaeth gyhoeddedig briodol.
 

Defnyddio gliniaduron

Caniateir defnyddio gliniaduron, mae nifer o fyrddau ar gael gyda chyflenwad pŵer. Mae gan yr ystafell chwilio gysylltiad di-wifr.
 

Gwasanaeth Ymchwil

Gellir darparu cymorth ymchwilio proffesiynol am £50 yr awr.
 

Plant a phobl ifanc

Yng nghwmni oedolyn yn unig.