Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Cynllunio'ch Ymweliad / Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Manylion Cyswllt

Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Plas Crug
Aberystwyth
SY23 1NJ  
Ffôn: 01970 621200
Ffacs: 01970 627701
Ebost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefannau: www.cbhc.gov.uk (cyffredinol); www.coflein.gov.uk (catalog ar-lein am ddim a mynegai'r safle)
 

Ble ydym ni?

Mae Llyfrgell ac Ystafell Chwilio Cofnodion Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) wedi ei lleoli yn swyddfeydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn Aberystwyth. Mae ar waelod Ffordd Stanley, ger Coedlan Plascrug, yn agos at yr orsaf drenau ac o fewn pellter cerdded i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

Parcio
Mae yna faes parcio gyferbyn â'r adeilad. Nid oes angen talu.

Ar y Bws/Trên
Mae'r orsaf bysus a'r orsaf drenau rhyw 5-10 munud o daith cerdded i ffwrdd ac mae yna safle tacsis gyferbyn â'r orsaf drenau.

Dod o hyd i ni ar fap Google
 

Cynnwys yr Archif

Mae gan CHCC ffotograffau (gan gynnwys awyrluniau arosgo ac awyrluniau fertigol), arolygon, mapiau, adroddiadau, lluniadau a chronfeydd data sy'n ymwneud â phob agwedd o hanes, archaeoleg a phensaernïaeth Cymru. Mae nifer gynyddol o'r rhain yn ffotograffau a chofnodion digidol, y gellir cael mynediad atynt am ddim trwy www.coflein.gov.uk - cronfa ddata ar-lein CHCC. Mae'r casgliadau mawr yn cynnwys cofnodion a ffotograffau gan gyrff cyhoeddus eraill megis Cadw a'r Arolwg Ordnans, deunyddiau gan sefydliadau preifat a deunyddiau gan unigolion, yn ogystal â'r rheiny a grëwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn ystod eu gwaith arolygu.
 

Oriau Agor

Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener 9.30 - 4pm

Dydd Mercher 10.30 - 4.30pm
 

Hygyrchedd

Mae yna lefydd parcio dynodedig ar gyfer ymwelwyr anabl. Mae'r Ystafell Chwilio a'r Llyfrgell ar lawr gwaelod uchaf yr adeilad a gall pobl mewn cadeiriau olwyn gael mynediad at yr adeilad trwy lifft o'r maes parcio. Mae yna dai bach i'r anabl ar gael. Gellir benthyg chwyddwydrau a chwyddwydrau tudalennau llawn o'r ddesg ymholiadau. Mae meddalwedd cyfrifiadurol ar gael ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.
 

Cyfleusterau

Bwyd: Nid oes cyfleusterau arlwyo yn yr adeilad. Mae sawl caffi yn y dref, 10 munud o daith cerdded i ffwrdd.
Tai Bach: Mae tai bach ar gael.
Siop: Gellir prynu cyhoeddiadau'r Comisiwn Brenhinol o'r Llyfrgell.
 

Apwyntiadau

Fe'ch cynghorir i wneud apwyntiad cyn ymweld â ni (er nad yw'n orfodol) er mwyn sicrhau bod cymorth llawn ar gael ac er mwyn gwneud y gorau o'r gwasanaeth.
 

Tocynnau Darllen

Nid oes cynllun tocynnau darllen yno. Rhaid i ymchwilwyr gwblhau ffurflen datganiad ymwelwyr a rhaid dod â phrawf adnabod sy'n cynnwys eich cyfeiriad.
 

Cypyrddau clo

Mae cypyrddau clo ar gael ar gyfer bagiau a chotiau (ni chaniateir mynd â bagiau i mewn i'r ystafell chwilio). Nid oes angen arian arnynt.
 

Defnyddio camerâu a chopïo

Gall staff ddarparu llungopïau, yn unol â chanllawiau hawlfraint ac ar yr amod na fydd hyn yn achosi difrod i'r ddogfen. Gall gwasanaeth sganio CHCC ddarparu delweddau digidol o safon uchel ar ddisg. Codir tâl. Ni chaniateir mynd â chamerâu i dynnu lluniau o ddogfennau i mewn i'r Ystafell Chwilio.
 

Defnyddio gliniaduron

Caniateir defnyddio gliniaduron, mae yna nifer o fyrddau sydd â socedi pŵer.
 

Gwasanaeth Ymchwil

Darperir gwasanaeth ymchwil am ddim i'r rheiny nad sy'n medru ymweld â'r swyddfa. Gellir ei ddefnyddio trwy'r post, trwy ffonio neu drwy e-bostio (gweler www.cbhc.gov.uk am fwy o fanylion).
 

Plant a phobl ifanc

Nid oes terfyn oedran isaf ar ddefnyddwyr CHCC. Fodd bynnag, dylai plant ifanc ddod yng nghwmni oedolyn.