
Gwasanaeth Archifau Conwy
Yr Hen Ysgol Fwrdd
Stryd Lloyd
Llandudno
Conwy
LL30 2YG
Ffôn: 01492 577550
Ffacs: 01492 577550
Ebost: archifau.archives@conwy.gov.uk
Gwefan: www.conwy.gov.uk/archifau
Rydym wedi ein lleoli tua 3 milltir i ffwrdd o'r A55 (dilynwch yr arwyddion ar gyfer Llandudno neu Ddeganwy), a 1/2 milltir i ffwrdd o Landudno ar ddiwedd yr A470. Mae yna fynegbyst at yr Archifdy yng nghanol y dref ac ar ddiwedd Stryd Lloyd.
Parcio: Mae yna lefydd parcio wedi eu cadw i ymwelwyr ac i deithwyr anabl yn y maes parcio yn syth o flaen yr adeilad.
Ar y Bws/Trên: Mae'r orsaf drenau 10 munud o daith cerdded i ffwrdd. Gall bysus eich gollwng yn Stryd Mostyn, 5 munud o daith cerdded i ffwrdd o'r Archifdy (dilynwch y mynegbyst).
Dod o hyd i ni ar fap Google
Sefydlwyd Gwasanaeth Archifau Conwy ym 1996 pan ffurfiwyd Bwrdeistref Sirol Conwy wrth gyfuno hen siroedd Caerfyrddin a Dinbych a oedd yn bodoli cyn 1974. Mae'n dal casgliadau o ddogfennau, mapiau a chynlluniau, papurau newydd a chylchgronau, ffotograffau a phrintiau, lluniau pensaernïol a chofnodion microfform sydd â pherthnasedd lleol. Mae'r cofnodion sydd ar gadw'n cynnwys cofnodion plwyfi eglwysi a chapeli, cofnodion y llywodraeth leol, cofnodion ysgolion, cofnodion busnesau a diwydiannau lleol, cofnodion cyrff a sefydliadau a chofnodion unigolion. Mae yna gyfres ddefnyddiol o lyfrau cyfeiriol yn yr ystafell ficroffilm hefyd.
Dydd Llun - Dydd Iau 10am - 4.30pm
(ar gau am ginio rhwng 12.30pm a 1.30pm)
Mae yna lefydd parcio ar gadw o flaen yr adeilad i bobl sy'n cael anawsterau wrth symud. Mae'r Archifdy'n hollol hygyrch drwyddo i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn ac mae yna dai bach i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn. Gellir benthyg chwyddwydrau, blychau golau a lampau UV am ddim.
Bwyd: Mae digonedd o lefydd bwyta yn Llandudno, gyda'r agosaf ohonynt lai na 5 munud o daith cerdded i ffwrdd, yn Stryd Lloyd ei hun.
Tai bach: Mae tai bach cyhoeddus ym mynedfa'r Archifdy.
Siop: Nid oes siop yno.
Nid oes angen gwneud apwyntiad.
Mae'r Archifdy'n gweithredu system docynnau CARN ar gyfer cael mynediad at ddogfennau gwreiddiol. Dewch â phrawf adnabod sy'n dangos eich enw, eich cyfeiriad a'ch llofnod gyda chi os nad oes gennych docyn, a gellir rhoi tocyn i chi yma.
Mae cypyrddau clo ar gael i'w defnyddio am ddim yn y brif ystafell chwilio.
Gall yr Archifdy ddarparu copïau o ystod eang o ddogfennau, yn amodol ar eu cyflwr ac ar hawlfraint. Hysbysebir y costau yn y brif ystafell chwilio. Ni roddir caniatâd i ymchwilwyr ddefnyddio'u camerâu eu hunain yn yr Archifdy fel arfer. (Siaradwch â'r Uwch Archifydd am eithriadau i'r rheol hon).
Mae croeso i ymchwilwyr ddefnyddio'u gliniaduron eu hunain yn yr Archifdy.
Gallwn chwilio am bethau'n gyflym am ddim. Mae gennym ffi o £20 ar ei isaf am awr o waith ar gyfer ceisiadau ymchwil mwy sylweddol. Cysylltwch â ni am ffurflen i anfon cais ymchwilio atom; dylid anfon sieciau o flaen llaw, yn daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae croeso i bobl o bob oedran ymweld â'r Archifdy.