Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Cynllunio'ch Ymweliad / Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg - Abertawe

Manylion Cyswllt

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg,
Canolfan Ddinesig,
Heol Ystumllwynarth,
Abertawe,
SA1 3SN.  
Ffôn: 01792 636589.  
Ebost: westglam.archives@swansea.gov.uk
Gwefan: www.swansea.gov.uk/westglamorganarchives/

Ble ydym ni?

Mae Gwasanaeth Archifau Morgannwg wedi ei lleoli ar lan y môr yn y Ganolfan Ddinesig yn Abertawe, sydd â sawl arwyddbost i'ch cyfeirio yno.

Parcio: Mae yna lefydd parcio i ymwelwyr ar ochr ddwyreiniol yr adeilad (h.y. y marina). Mae yna ardal barcio i bobl anabl ar wahân yma hefyd, sef y llefydd parcio ar y lefel uchaf, gan ddarparu mynediad gwastad o amgylch yr adeilad at y brif fynedfa.

Ar y Bws/Trên: Mae'r orsaf drenau tua 15-20 munud o daith cerdded i ffwrdd. Mae'r orsaf bysus tua 5-10 munud o daith cerdded i ffwrdd. Mae yna safleoedd tacsis ger y ddau os nad ydych am gerdded i'r Neuadd Ddinesig, ac mae yna fysus yn mynd o'r orsaf drenau at ganol y ddinas. Mae gwasanaeth fysus y Metro yn mynd at y Ganolfan Ddinesig bob 15 munud o'r orsaf drenau a'r orsaf fysus. 

Dod o hyd i ni ar fap Google

 

Cynnwys yr Archif

Mae gan Archifau Gorllewin Morgannwg ddogfennau, mapiau, ffotograffau, a recordiadau sain a ffilm sy'n ymwneud â phob agwedd o hanes ardal Gorllewin Morgannwg. Mae'n dal, ymysg pethau eraill, cofnodion awdurdodau lleol, cofnodion ystadau â thir, cofnodion eglwysi, capeli ac ysgolion, a chofnodion busnesau a sefydliadau.
 

Oriau Agor

Dydd Mawrth 9am - 7pm                
Dydd Mercher - Dydd Gwener 9am - 5pm                                 
 

Hygyrchedd

Mae yna fannau parcio dynodedig yn y Ganolfan Ddinesig i ddeiliaid bathodynnau glas. Mae pob ardal gyhoeddus yn y Ganolfan Ddinesig yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn. Gellir benthyg chwyddwydrau a chwyddwydrau fideo o'r ddesg ymholiadau. Mae tai bach i bobl anabl ar gael yn y Ganolfan Ddinesig. Darperir taflenni gwybodaeth mewn print arferol a phrint bras. Mae gan bob desg ymholiadau a phob cownter adrannau is ac mae system dolenni sain ar gael.
 

Cyfleusterau

Bwyd: Mae yna gaffi yng nghyntedd y Ganolfan Ddinesig sy'n gwerthu amrywiaeth o ddiodydd cynnes a diodydd oer a lluniaeth ysgafn.
Tai bach: Mae yna dai bach yn y Ganolfan (gan gynnwys lle i newid babannod a thai bach i bobl anabl).
Siop: Mae yna siop yn y ganolfan sy'n gwerthu ystod o nwyddau gan gynnwys llyfrau ar hanes teulu a hanes lleol, cardiau cyfarch a chardiau Nadolig, mapiau ac engrafiadau.
 

Apwyntiadau

Nid oes angen gwneud apwyntiad er mwyn ymweld â'r Archifdy. Gellir bwcio cyfrifiadur neu ddarllenydd microfform o flaen llaw.
 

Tocynnau Darllen

Rhaid cael tocyn darllen er mwyn cael mynediad at ddeunydd gwreiddiol. Bydd rhaid i chi ddod â phrawf adnabod gyda chi, sy'n cynnwys eich cyfeiriad a'ch llofnod (e.e. trwydded yrru) os nad oes gennych docyn. Rhaid i ddarllenwyr lofnodi cofrestr yr ystafell chwilio, gan roi eu henw, eu cyfeiriad a phwnc eu hymchwil. Mae llofnodi'r gofrestr gyfwerth â chytuno i ddilyn Rheolau Archifdy Gorllewin Morgannwg.
 

Cypyrddau clo

Mae cypyrddau clo ar gael. Nid oes angen arian arnynt.
 

Defnyddio camerâu a chopïo

Gall staff ddarparu llungopïau, yn unol â chanllawiau hawlfraint ac ar yr amod na fydd hyn yn achosi difrod i'r ddogfen. Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg hefyd yn cynnig gwasanaeth sganio a digido o safon uchel. Codir tâl.
Caniateir defnyddio camerâu i dynnu lluniau o'r dogfennau yn unol â'r un canllawiau.
 

Defnyddio gliniaduron

Caniateir defnyddio gliniaduron, mae yna nifer o fyrddau gyda socedi pŵer. Mae gan yr ystafell chwilio gysylltiad di-wifr.
 

Gwasanaeth Ymchwil

Mae gwasanaeth ymchwili ar gael i'r rheiny nad sy'n medru ymweld â'r Archifdy. Codir tâl o £25 yr awr (£12.50 am chwiliadau byr o hanner awr). Dylid cyflwyno ceisiadau am ymchwil ar y ffurflen archeb swyddogol gyda siec neu archeb post yn daladwy i Gyngor Dinas Abertawe.
 

Plant a phobl ifanc

Nid oes terfyn oedran isaf ar ddefnyddwyr y cyfleusterau hyn.