
Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin
Parc Myrddin
Richmond Terrace
Caerfyrddin
SA31 1DS
Ffôn: 01267 228232
Ffacs: 01267 228237
Ebost: archives@carmarthenshire.gov.uk
Gwefan: www.carmarthenshire.gov.uk/english/education/archives
Mae'r gwasanaeth archifau wedi ei lleoli tua chefn y dref, ar safle a oedd yn ysgol ar un adeg. Nid oes arwyddion sy'n cyfeirio ymwelwyr tuag at yr Archifdy o amgylch Caerfyrddin ar hyn o bryd, ond gallwch ddilyn arwyddion ar gyfer y Gofrestrfa, sydd ar yr un safle. Fel arall, gofynnwch am gyfarwyddiadau i fynd at yr hen ysgol Ramadegol. Mae'r gwasanaeth i'w weld ar y chwith o dan y bwâu wrth i chi agosáu at y safle.
Parcio
Mae llefydd parcio ar gael am ddim ar y safle. Bydd angen i chi gael tocyn am ddim o'r gwasanaeth archifau er mwyn gadael y maes parcio.
Ar y Bws/Trên
Mae'r orsaf drenau tua 15 munud o daith cerdded i ffwrdd. Mae yna safle tacsis y tu allan i'r orsaf os nad ydych am gerdded. Fel arall, bydd y bont droed o'r orsaf drenau yn eich arwain at yr orsaf fysus. Bydd bysus yn eich gollwng ger Eglwys San Pedr, sydd rhyw bum munud o daith gerdded o'r Archifdy, trwy faes parcio'r dref.
Dod o hyd i ni ar fap Google
Mae gan Archifdy Caerfyrddin ddogfennau, mapiau a ffotograffau sy'n ymwneud â hanes Caerfyrddin. Mae ei brif ddaliadau'n cynnwys cofnodion y Sesiynau Chwarter, cofnodion awdurdodau lleol, cofnodion plwyfi, cofnodion ystadau â thir, cofnodion addysg a chofnodion busnesau.
Dydd Mawrth - Dydd Gwener 9.30am - 5pm
(Nid oes dim dogfennau gwreiddiol yn cael eu cynhyrchu o 12.00 - 2.00pm.)
Mae’r archif ar gael o 5.00 - 7.00pm ar ddydd Mawrth drwy apwyntiad sydd wedi’i drefnu erbyn y dydd Gwener blaenorol.
Mae yna lefydd parcio i bobl anabl yn y maes parcio ac mae mynediad at yr archifdy'n hollol hygyrch. Mae chwyddwydrau ar gael i'w defnyddio ac mae gan y cyfrifiaduron cyhoeddus sgriniau mawr. Mae system cylchwifren ar gael.
Bwyd: Nid oes cyfleusterau ar gyfer bwyta yn yr archifdy. Mae diodydd oer a phoeth ar gael.
Tai bach: Mae tai bach ar gael yn yr archifdy, gan gynnwys tai bach i bobl anabl.
Siop: Nid oes siop yn yr archifdy.
Byddai'n well gennym petaech yn ein ffonio neu'n anfon ebost atom cyn ymweld â'r archifdy gan mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd yma. Bydd angen i chi wneud apwyntiad o flaen llaw os ydych angen defnyddio peiriannau microfform neu gyfrifiaduron, er mwyn i ni gadw lle ar eich cyfer.
Nid oes angen tocynnau darllen ar hyn o bryd.
Mae cypyrddau clo ar gael am ddim er mwyn cadw eiddo personol.
Ni chaniateir mynd â chamerâu i mewn i'r ystafelloedd chwilio. Staff sy'n gwneud yr holl waith ffotograffig a'r holl waith copïo neu lungopïo. Codir tâl am y gwasanaeth hwn.
Caniateir defnyddio gliniaduron, ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Wifi a'r gael.
Mae Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin yn cynnig gwasanaeth ymchwil am gost o £25 yr awr. Cynghorir unrhyw un sydd am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i gysylltu â'r Archifdy o flaen llaw gyda manylion eu cais er mwyn cael amcangyfrif o'r gost.
Nid oes terfyn oedran isaf ar gyfer defnyddio'r archifau, ond dylai plant o dan 12 mlwydd oed ddod gydag oedolyn.