
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru
SY23 3BU
Ffôn: 01970 632800
Ffacs: 01970 615 709
Ymholiadau: http://www.llgc.org.uk/holi
Gwefan: http://www.llgc.org.uk
Teithio o'r Gogledd
O'r A487 o Fachynlleth: dewch i lawr Fryn Penglais, heibio i Ganolfan y Celfyddydau a champws newydd y Brifysgol ar y chwith. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol ar y chwith yn union heibio i Neuadd Breswyl Pantycelyn, ar ddiwedd dreif 400 medr, yn edrych dros Aberystwyth.
Teithio o'r Canolbarth
Ar hyd yr A44 o Langurig: byddwch yn dod at ddwy gylchfan fechan nesaf at ei gilydd. Ewch i'r chwith wrth y gylchfan gyntaf ac i'r dde ar yr ail tuag at Aberystwyth, ar hyd Ffordd Llanbadarn a heibio i Ganolfan Hamdden Plascrug ar y chwith. Trowch i'r dde i fyny Bryn Penglais wrth gyrraedd y gyffordd ar ddiwedd Ffordd Llanbadarn, gyda Thafarn y Cwps ar y gornel. Trowch i'r dde ger y blwch postio ar ôl mynd heibio i fynedfa Ysbyty Bronglais. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol ar y chwith yn union heibio i Neuadd Breswyl Pantycelyn, ar ddiwedd dreif 400 medr, yn edrych dros Aberystwyth.
Teithio o'r De
Ar hyd yr A487 o Aberaeron: byddwch yn dod at gylchfan ym Mhenparcau. Trowch i'r dde er mwyn dod i lawr Bryn Pen y Bont. Byddwch yn dod at gylchfan arall ar waelod y bryn, nesaf at ddatblygiadau manwerthu Parc y Llyn. Cymerwch y pedwerydd troad oddi ar y gylchfan, tuag at Lanbadarn Fawr. Trowch i'r chwith wrth y gylchfan fechan gyntaf yn Llanbadarn Fawr, cyn mynd i mewn i'r pentref, gan fynd heibio i Ganolfan Hamdden Plascrug ar y chwith. Trowch i'r dde i fyny Bryn Penglais wrth gyrraedd y gyffordd ar ddiwedd Ffordd Llanbadarn gyda Thafarn y Cwps ar y gornel. Trowch i'r dde ger y blwch postio ar ôl mynd heibio i fynedfa Ysbyty Bronglais. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol ar y chwith yn union heibio i Neuadd Breswyl Pantycelyn, ar ddiwedd dreif 400 medr, yn edrych dros Aberystwyth.
Parcio
Gofynnir i ymwelwyr barcio yn y maes parcio wrth ymyl ochr y Llyfrgell. Dylai partïon ar fysus gysylltu â'r Llyfrgell o flaen llaw.
Ar y Bws/Trên
Mae gorsaf drenau Aberystwyth wedi ei lleoli yng nghanol y dref, 15 munud o daith cerdded i ffwrdd o'r Llyfrgell, neu daith fer mewn tacsi (y tu allan i'r orsaf). Mae trenau o'r Amwythig yn cyrraedd Aberystwyth bob dwy awr.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn dal archifau ystadau â thir, archifau capeli ac archifau'r Eglwys yng Nghymru, archifau sefydliadau cenedlaethol, archifau gwleidyddion, archifau pleidiau a charfannau pwys, archifau awduron, archifau Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru, archifau Prifysgol Cymru, cofnodion canolog Eglwys Bresbyteraidd Cymru, llawysgrifau hanesyddol a llenyddol, mapiau print a mapiau ar ffurf llawysgrifau, y Casgliad Ffotograffig Cenedlaethol ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Ystafelloedd Darllen ac ardal arddangosfeydd Neuadd y Fynedfa:
9:30 - 6:00 Dydd Llun - Dydd Gwener
9:30 - 5:00 Dydd Sadwrn, tan fis Mawrth 2009
Ystafell Wylio Casgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru:
Dydd Llun-Dydd Gwener 10.00am-5.00pm, ar gau ar ddydd Sadwrn
Gall ymwelwyr sydd â phroblemau symud ddod i mewn i'r Llyfrgell trwy'r fynedfa ar y llawr gwaelod, ym mlaen yr adeilad. Mae yna ramp a drysau awtomatig er mwyn sicrhau mynediad rhwydd i'r adeilad. Mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd cyhoeddus yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Bwyd: Mae Pen Dinas, bwyty'r Llyfrgell, wedi ei leoli ar lawr gwaelod y Llyfrgell. Mae ar agor rhwng 9:30 - 4:45 o ddydd Llun i Ddydd Sadwrn tan ddiwedd mis Mawrth 2009. Bydd ar gau ar ddyddiau Sadwrn o hynny ymlaen.
Tai Bach: Mae yna 3 thŷ bach hygyrch yn y Llyfrgell:
Ar y llawr gwaelod, yn syth ymlaen o'r siop ac i'r dde ar ddiwedd y coridor
Ar y llawr gwaelod, y tu ôl i'r grisiau sy'n arwain i fyny o Arddangosfa Peniarth
Llawr 0 (y prif lawr, uwchben mynedfa'r llawr gwaelod), ar ben y grisiau sy'n arwain i fyny o Arddangosfa Peniarth
Siop: Mae siop y Llyfrgell yn cynnig ystod eang o anrhegion, cardiau a llyfrau, gyda'r ysbrydoliaeth y tu ôl i lawer ohonynt yn dod o gasgliadau'r Llyfrgell. Gellir prynu eitemau ar-lein hefyd.
Nid oes angen gwneud apwyntiad, ond anogir darllenwyr i archebu eitemau ar-lein cyn cyrraedd.
Rhaid cael tocyn darllen dilys os ydych am gael mynediad at yr Ystafelloedd Darllen er mwyn gweld casgliadau'r Llyfrgell. Dosberthir pob tocyn yn amodol ar y rheoliadau cyfredol ac mae'n ddilys ar gyfer holl Ystafelloedd Darllen y Llyfrgell. Rhaid i chi ddod â 2 brawf adnabod, gydag un yn cynnwys eich cyfeiriad cyfredol, er mwyn cael tocyn darllen. Gallwch gofrestru er mwyn cael tocyn darllen ar-lein hefyd. Bydd cofrestru ar-lein hefyd yn eich galluogi i gofrestru er mwyn cael mynediad at yr adnoddau electronig sydd ar gael trwy Athens.
Gellir gadael bagiau a chotiau yn y cypyrddau clo ar y llawr gwaelod neu'r llawr cyntaf. Mae angen darn £1 arnynt fel blaendal.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnig ystod eang o wasanaethau copïo ac maent yn hapus i ddarparu copïau o ddeunyddiau o'i chasgliadau a deunyddiau personol sy'n perthyn i ddefnyddwyr y Llyfrgell. Ni ellir gwneud copïau o rai deunyddiau sydd yng Nghasgliadau'r Llyfrgell oherwydd cyfyngiadau hawlfraint neu gyfyngiadau amodol.
Ni ddylid ail-greu copïau a ddarperir gan y Llyfrgell heb gael y caniatâd priodol, yn ysgrifenedig, gan y Llyfrgell.
Gall darllenwyr cofrestredig wneud cais i gael defnyddio camera personol yn yr Ystafelloedd Darllen. Caniateir gwneud un copi o unrhyw un eitem ar gyfer ymchwil breifat yn unig. Ni ddylid defnyddio lluniau a dynnir mewn unrhyw gyhoeddiad neu ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol heb wneud cais i'r Llyfrgell am ganiatâd pellach.
Gellir defnyddio gliniaduron yn holl ardaloedd cyhoeddus y Llyfrgell, gan gynnwys yr Ystafelloedd Darllen. Mae prosiect beilot ar gyfer darparu mynediad diwifr yn gweithredu yn yr ardaloedd darllen ar gyfer llyfrau printiedig ar hyn o bryd, a disgwylir y bydd y gwasanaeth ar gael yn yr holl ystafelloedd darllen erbyn gwanwyn 2009.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnig gwasanaeth ateb ymholiadau am ddim, ac mae croeso i ddefnyddwyr gysylltu â ni gyda'u cwestiynau. Mae'r Llyfrgell yn anelu at ateb 90% o'r holl ymholiadau o fewn 10 niwrnod gwaith, ond mae'n bosibl y bydd rhai ymholiadau cymhleth, neu'r rheiny sy'n dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn cymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i'w hateb.
Ni all y tîm Ymholiadau ymgymryd ag ymchwil achyddol fanwl; awgrymir bod defnyddwyr yn cysylltu â rhywun ar y rhestr o ymchwilwyr annibynnol a ddarperir ar wefan y Llyfrgell yn yr achosion hyn.
Gall ymwelwyr sydd o dan 16 mlwydd oed wneud cais i ymweld â'r Ystafelloedd Darllen o dan rhai cyfyngiadau, gan gynnwys yr amod eu bod yn dod gydag oedolyn sydd â thocyn darllen dilys.