Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Cynllunio'ch Ymweliad / Prifysgol Bangor, Archifau a Chasgliadau Arbennig

Prifysgol Bangor, Archifau a Chasgliadau Arbennig

Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor

Manylion Cyswllt

Archifau a'r Llyfrgell Gymraeg
Y Brif Lyfrgell, Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
Ffôn: 01248 382966 neu 01248 383276
Ffacs: 01248 382979
Ebost: e.w.thomas@bangor.ac.uk
Gwefan: http://www.bangor.ac.uk/archives/index.php.cy?
 

Ble ydym ni?

Mae Archifau Prifysgol Bangor wedi ei lleoli ym mhrif Adeilad y Celfyddydau'r Brifysgol, sydd ar Ffordd y Coleg, Bangor Uchaf. Mae'r fynedfa trwy'r drws cyntaf ar y dde o dan yr allanfa dân fetel.

Parcio
Mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio i'w gael ar y ffordd ym Mangor Uchaf, neu mae digon o lefydd parcio ym Mangor Isaf, sydd 10 munud o daith cerdded i ffwrdd.

Ar y Bws/Trên
Gellir cyrraedd yr Archif ar y bws, a gellir cerdded yno o'r orsaf drenau mewn 10 munud.

Dod o hyd i ni ar fap Google

Cynnwys yr Archif

Cofnodion y Brifysgol sy'n ffurfio cyfran helaeth o ddaliadau Adran yr Archifdy. Mae'r Archifau hefyd yn cynnwys casgliadau o bapurau ystadau a theuluoedd Siroedd Môn, Caernarfon, Fflint, Dinbych a Meirionnydd yn ogystal â chasgliad amrywiol o bapurau mewn gwahanol ffurfiau sy'n dyddio o ddiwedd y 12fed ganrif hyd heddiw.
 

Oriau Agor

Dydd Llun - Dydd Gwener 9am - 5pm
(ar gau am ginio rhwng 1pm - 2pm)
 

Hygyrchedd

Mae pob rhan o'r Llyfrgell a'r Archifau'n hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae yna dai bach i bobl anabl ym Mhrif Adeilad Celfyddydau'r llyfrgell.
 

Cyfleusterau

Bwyd: Mae yna gaffi yn y Brifysgol yn ogystal â sawl lle bwyta ym Mangor Uchaf.
Tai bach: Mae tai bach ar gael ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, gan gynnwys tai bach i bobl anabl.
Siop: Nid oes siop yn Archifau'r Brifysgol.
 

Apwyntiadau

Nid oes angen bwcio o flaen llaw cyn ymweld â'r Archifau.
 

Tocynnau Darllen

Nid oes angen tocyn darllen.
 

Cypyrddau Clo

Mae cypyrddau clo ar gael. Nid oes angen arian.
 

Defnyddio camerâu a chopïo

Gellir darparu llungopïau. Codir tâl.

Mae gwasanaeth sganio gyfyngedig ar gael. Codir tâl.Caniateir defnyddio camerâu.Darperir yr uchod i gyd fel y gwêl yr Archifydd orau.
 

Defnyddio gliniaduron

Caniateir defnyddio gliniaduron personol.
 

Gwasanaeth Ymchwil

Mae gwasanaeth ymchwil cyfyngedig ar gael.
 

Plant a phobl ifanc

Nid oes terfyn oedran isaf ar gyfer defnyddio'r cyfleusterau.