Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Defnyddio Archifau / Archifau ar gyfer Athrawon

Archifau ar gyfer Athrawon

Beth gall archifau eu gwneud dros athrawon?

Mae archifau'n ffynhonnell wych ar gyfer athrawon. Dogfennau gwreiddiol yw 'deunyddiau craidd' hanes. Maent yn cysylltu disgyblion ar bob lefel â'r gorffennol yn uniongyrchol, gan roi bywyd i hanes.

Handwritten letter

Gall disgyblion fod yn haneswyr 'go-iawn' trwy ddefnyddio archifau i wneud eu gwaith hymchwil eu hunain.

Gallant ddadansoddi a gwerthuso ffynonellau, gallant dynnu gwybodaeth allan ohonynt, a gallant lunio casgliadau.

Gall archifau ddarparu gwahanol safbwyntiau:

  • safbwyntiau pobl o'r un cyfnod sydd â barn wahanol
  • disgrifiadau unigolion sy'n ychwanegu at esboniadau cyffredinol o ddigwyddiadau, neu sy'n cyferbynnu â nhw.

Gall astudio hanes lleol ar draws pob cyfnod allweddol ddefnyddio ystod o wahanol ffynonellau sydd ar gael mewn archifdai. Mapiau, cyfeirlyfrau masnach a chofnodion cyfrifiadau yw rhai o'r ffynonellau mwyaf defnyddiol - dewch o hyd i fwy o fanylion am ddefnyddio archifai ar gyfer ymchwilio i hanes lleol.

Ond gall archifau fod yn ddefnyddiol ar gyfer mwy na hanes lleol yn unig - gellir rhoi bywyd i ddigwyddiadau hanesyddol pwysig trwy ddefnyddio archifau sy'n dangos sut yr effeithiwyd cymunedau lleol. Mae'r llun hwn o Abertawe yn ystod y Blits yn un o gyfres sydd ar gadw yn Archifdy Gorllewin Morgannwg (cyfeirnod P/PR/95/4/35a).

Photograph of Swansea in the Blitz showing empty roofless buildings and piles of rubble.
Ffotograff o Abertawe yn ystod y Blits, yn dangos adeiladau gwag heb do a phentyrrau o rwbel.

Sut y gellir defnyddio archifau?

Yn y dosbarth

defnyddiwch archifau fel hyn:

  • 'copïau caled' - llungopïau o ddogfennau
  • delweddau digidol o ddogfennau fel rhan o gyflwyniad ar y bwrdd gwyn

defnyddiwch archifau ar gyfer hyn:

  • deunydd ar gyfer hwb cychwynnol
  • cynnwys y wers
  • astudiaeth fanwl
  • deunydd ar gyfer taflenni gwaith


Ymweld ag archifdai

Mae rhai archifdai ar agor i ymweliadau gan grwpiau o ddisgyblion ysgol - gall disgyblion gael profiad o ddefnyddio archifau drostynt eu hunain, gan weld dogfennau gwreiddiol, a'u trin a'u trafod. Gall yr ymweliad roi cyflwyniad cyffredinol i'r deunydd sydd ar gadw yn yr archifdy, neu gall ganolbwyntio ar faes ymchwil penodol, gyda'r disgyblion yn astudio dogfennau arbennig sy'n berthnasol i'w cyrsiau.

School pupils using archives
Grŵp ysgol yn Archifdy Morgannwg

Nid yw pob archifdy'n medru cynnig y gwasanaeth hwn. Bydd diffyg lle ac amser y staff yn cyfyngu ar y gwasanaethau addysgiadol y gall archifdai llai o faint eu darparu.

Sut gall athrawon gael mynediad at archifau?

Y cam cyntaf yw cysylltu â'r archifdy perthnasol - gallwch weld rhestr o'r holl archifdai yma, a gweld a yw'r un sydd o ddiddordeb i chi yn medru cynnig gwasanaeth i ysgolion.

Ni fydd disgyblion yn medru ymweld â phob archifdy, ond efallai y bydd yr archif yn medru cynnig diwrnodau HMS i athrawon. Os nad oes gwasanaeth penodol ar gael ar eu cyfer, mae croeso i athrawon ymweld â'r archifdai er mwyn edrych ar ddeunyddiau perthnasol. Bydd y rhan fwyaf o archifdai'n medru gwneud llungopïau er mwyn i athrawon eu defnyddio yn y dosbarth.