
Gall archifau ddatgelu pob math o wybodaeth ddiddorol i'r rheiny sy'n olrhain hanes tŷ.
Bydd yr hyn y dowch o hyd iddo yn dibynnu ar oedran y tŷ, ar ble mae'r tŷ ac ar ba fath o dŷ ydyw. Mae yna dipyn o lwc yn rhan o hyn hefyd - efallai y dowch o hyd i lawer o gofnodion sy'n eich cynorthwyo wrth olrhain hanes tŷ, efallai y dowch o hyd i sut oedd yn edrych pan gafodd ei adeiladu, ac efallai y byddwch yn medru darganfod pwy oedd yn byw yno. Ar y llaw arall, weithiau dim ond ychydig o wybodaeth fydd yn dal i fodooli am dŷ arbennig - er y gallwch gael hwyl yn darganfod mwy am hanes yr ardal.
Ydych chi am ddarganfod mwy am yr adeilad ei hun?
A oes gennych ddiddordeb yn y bobl oedd yn byw yno?
Mapiau
Mae mapiau'n lle da iawn i ddechrau. Gall mapiau graddfa fawr ddangos 'ôl troed' tŷ, a gallwch amcangyfrif dyddiad bras ar gyfer adeiladau trwy gymharu mapiau o ddyddiadau gwahanol. Dyma'r mapiau mwyaf defnyddiol:

Gellir dod o hyd i'r rhan fwyaf o'r mapiau hyn yn archifdai'r awdurdodau lleol (ar gyfer eu hardaloedd penodol hwy), ac yn y Llyfrgell Genedlaethol (ar gyfer Cymru gyfan).
Cynlluniau adeiladu
Os ydych yn ffodus, efallai y dowch o hyd i'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer eich tŷ, neu efallai y dowch o hyd i'r cynlluniau a luniwyd pan wnaed newidiadau mawr iddo.

Roedd yn rhaid cyflwyno cynlluniau i'r cyngor lleol o'r 1870au ymlaen, er mwyn dangos bod y tŷ yn mynd i gael ei adeiladu yn unol â'r 'rheoliadau adeiladu' a oedd yn pennu'r safonau gofynnol ar gyfer gwaith adeiladu. Roedd yn rhaid cyflwyno cynlluniau er mwyn cael 'caniatâd cynllunio' hefyd o 1947 ymlaen, wrth i leoliad ac arddull tai gael eu rheoli'n dynnach gan gynghorau. Roedd yn rhaid cyflwyno cynlluniau os bwriedid gwneud ychwanegiadau neu newidiadau mawr hefyd. Mae rhai o'r cynlluniau hyn wedi goroesi mewn rhai awdurdodau lleol, ac mae'r cynlluniau i gyd wedi goroesi mewn rhai enghreifftiau. Fe'u trosglwyddwyd i archifdy'r awdurdod lleol, gan ddarparu ffynhonell wych ar gyfer y rheiny sy'n ymchwilio i hanes tai.
Manylion Gwerthiannau
Fel arfer, llunir manylion gwerthu pan fydd tŷ yn cael ei werthu. Maent yn disgrifio'r tŷ, fel arfer yn eithaf cryno ond weithiau mewn cryn fanylder, ac efallai y byddant yn cynnwys lluniau neu gynlluniau. Weithiau, gellir dod o hyd i fanylion gwerthiannau ymysg cofnodion cyfreithwyr, cofnodion priswyr ac asiantaethau tai neu ymysg cofnodion ystadau â thai neu gofnodion cynghorau sir.


Ffotograffau
Efallai y byddwch yn llwyddo i ddod o hyd i ffotograffau o'r tŷ rydych yn ymchwilio iddo, sy'n dangos sut yr arferai edrych, ond mae'n debycach y dowch o hyd i luniau mwy cyffredinol o'r ardal. Mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru gasgliad mawr o ffotograffau o adeiladau, ac mae gan y rhan fwyaf o archifdai eraill rai ffotograffau o adeiladau neu strydoedd.

Arolygon y Comisiwn Brenhinol
Os yw'ch tŷ'n arbennig o arwyddocaol, efallai y bydd wedi cael ei arolygu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Nid oes rhaid iddo fod yn dŷ crand - mae hyd yn oed tai bychain wedi cael eu harolygu os ydynt yn nodweddiadol o fath arbennig o adeilad neu os oes ganddynt rai nodweddion anarferol. Mae cofnod o'r holl arolygon ar gadw yn y Comisiwn Brenhinol, ac mae'n bosibl y byddant yn cynnwys ffotograffau, darluniau ac adroddiadau ysgrifenedig.
Gweithredoedd Teitl
Mae casgliadau asiantaethau tai a chyfreithwyr sydd ar gadw mewn archifdai yn aml yn cynnwys nifer fawr o weithredoedd teitl. Weithiau bydd gwetihredoedd teitl cynnar yn anodd i'w defnyddio am nad ydynt yn disgrifio'r tŷ maent yn delio ag ef yn glir - neu, o leiaf, nid yw'n glir i ni yn awr. Ond efallai y byddwch yn ffodus ac yn dod o hyd i weithredoedd teitl eich tŷ chi, neu weithredoed y tir yr adeiladwyd y tŷ arno, ac yn medru gweld pwy oedd biau'r tŷ neu bwy oedd yn ei rentu. Byddwch yn gwybod eich bod wedi mynd â'ch ymchwil mor bell yn ôl ag y gall fynd os dowch o hyd i brydles neu werthiant gwreiddiol y tir i'r adeiladwr!
Cyfeirlyfrau Strydoedd
Mae cyfeirlyfrau strydoedd a chyfeirlyfrau siroedd ar gael ar gyfer y cyfnod rhwng canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chanol yr ugeinfed ganrif yn bennaf, ac maent yn rhestru prif drigolion trefi a phentrefi, er na fyddant yn rhoi cyfeiriadau penodol ar gyfer y pentrefi bob tro. Bydd y cyfeirlyfrau'n rhestru'r rhan fwyaf o bennau-teuluoedd y trefi mawr, gyda'r rhestri wedi eu trefnu yn ôl enwau stryddoedd fel y bydd yn hawdd dod o hyd i bwy oedd yn byw mewn tŷ arbennig. Mae gan bron bob archifdy (a nifer o lyfrgelloedd) gopïau o gyfeirlyfrau.
Cofrestri Etholwyr
Mae Cofrestri Etholwyr yn rhestru pawb a oedd yn gymwys i bleidleisio. Mae'r rhan fwyaf o'r cyfresi'n dechrau ym 1832 ac yn parhau hyd heddiw. Ni chafodd pob dyn yr hawl i bleidleisio tan 1918, ac ni chafodd merched yr hawl i bleidleisio tan 1928. Fel arfer, cedwir cofrestri etholwyr yn archifdai'r llywodraethau lleol, a gallant fod yn ffordd ddefnyddiol o ddarganfod pwy oedd yn byw mewn tŷ. Gall y dyddiad cyntaf i gyfeiriad ymddangos mewn cofrestr yn yr ugeinfed ganrif ddangos pryd yr adeiladwyd y tŷ (efallai nad oedd tŷ'n ymddangos ar y gofrestr cyn 1918 am nad oedd unrhyw un a oedd yn byw yno'n gymwys i bleidleisio).
Llyfrau Trethi
Mae yna nifer o wahanol fathau o lyfrau trethi, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o drethi a gasglwyd, yn enwedig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Maent fel arfer yn rhestru'r holl dai lle codwyd trethi, yn ogystal ag enw'r trethdalwr - weithiau maent yn cofnodi enw perchennog y tŷ ac enw'r tenant. Maent hefyd yn cynnwys y gwerth ardrethol, neu faint o dreth a oedd yn ddyledus, gan ddangos beth oedd gwerth y tŷ. Mae llyfrau trethi mewn rhai ardaloedd yn dyddio mor bell yn ôl â'r ddeunawfed ganrif, ond mae goroesiad y rhain yn fylchog iawn. Mae rhai cyfresi o lyfrau trethi o'r ugenfed ganrif yn fawr iawn, a dim ond llyfrau ar gyfer rhai blynyddoedd arbennig sydd wedi cael eu cadw. Gellir dod o hyd i lyfrau trethi yn archifdai'r llywodraethau lleol fel arfer.
Cofnodion Cyfrifiadau
Dim ond enwau'r pennau-teuluoedd, neu efallai enwau'r oedolion a oedd yn byw yn y tŷ, fydd yn y rhan fwyaf o ffynonellau. Ond, os chwiliwch am gofnod ar gyfer y tŷ yng nghofnodion y cyfrifiad, byddwch yn darganfod enwau pawb a oedd yn byw yno pan gymerwyd y cyfrifiad - yn ogystal â gweld faint oed oeddynt, ble y'u ganwyd, a beth oedd eu swyddi. Mae cyfrifiadau sy'n cofnodi enwau wedi cael eu cymryd bob deng mlynedd ers 1841; mae'r holl gofnodion ar gyfer 1841-1901 ar gael yn awr, ac mae rhai o gofnodion cyfrifiadau 1911 ar gael hefyd.
Gallwch weld cofnodion cyfrifiadau Cymru gyfan ar gyfer 1841-1091 ar ficrofiche yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac mae gan y rhan fwyaf o archifdai'r llywodraethau lleol y cofnodion ar gyfer eu hardaloedd hwy.
