Hafan > Defnyddio Archifau > Archifau ar gyfer Hanes Teulu

Archifau ar gyfer Hanes Teulu

Llun o deulu - rhieni a chwech o blant
Teulu’r Daviesiaid, tua 1885. Tynnwyd y llun gan John Thomas (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Mae archifau'n darparu haneswyr teulu â ffynonellau gwybodaeth gwych - yn wir, fedrwch chi ddim gwneud gwaith ymchwil ar hanes teulu heb ddefnyddio archifau.

Cael y gorau allan o ddefnyddio archifau ar gyfer hanes teulu


Ydych chi ar fin dechrau olrhain eich coeden deuluol? Mannau cychwyn, tystysgrifau a chyfrifon

Y camau nesaf - cofrestri plwyf a chofrestri anghydffurfwyr

Symud ymlaen - defnyddio cyfoeth y ffynonellau sydd mewn archifau

Ydych chi'n hanesydd teulu profiadol, ond yn newydd i waith ymchwil yng Nghymru?

Llun o ddau o blant ifanc mewn stiwdio ffotograffwyr
Tynnwyd y llun hwn o ddau o blant mewn stiwdio yn Nhre-Biwt tua 19?? (Archifdy Morgannwg)

Ydych chi ar fin dechrau olrhain eich coeden deuluol?

Dechreuwch trwy ofyn i'ch perthnasau (yn enwedig y rhai hŷn) beth maen nhw'n ei wybod am y teulu. Yna chwiliwch am unrhyw ddogfennau teuluol, a ffotograffau ohonynt, sydd gan aelodau'r teulu. Gwnewch nodyn o'r holl wybodaeth gan dynnu'r pethau pwysicaf allan (enwau, dyddiadau a llefydd) a gwnewch fraslun o'ch coeden deuluol. Peidiwch â thaflu gweddill yr wybodaeth - efallai y byddwch yn gweld ei angen yn nes ymlaen.

Rydych nawr yn barod i ddechrau ar eich ymchwil! Dewch o hyd i'r man ar eich coeden deuluol lle mae gennych wybodaeth bendant a lle mae gennych ddogfennau i gefnogi'r wybodaeth. Efallai na fydd hyn yn bell iawn yn ôl, ond dyma'ch man cychwyn - gweithiwch yn ôl o'r fan hon, genhedlaeth wrth genhedlaeth, gan wneud yn siŵr bod gennych yr wybodaeth gywir ar hyd pob cam.

Mae yna ddwy ffynhonnell bwysig iawn ar gyfer y rheiny sy'n dechrau olrhain eu hanes teulu, sef cofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau, a chofnodion y cyfrifiad.

Llun o ddyn yn defnyddio darllenydd microfiche

Cofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau

Ychydig o gefndir

Roedd yn rhaid cofrestru pob genedigaeth, pob marwolaeth a phob priodas yng Nghymru a Lloegr gyda'r Cofrestrydd Arolygol lleol o fis Gorffennaf 1837 ymlaen. Y Cofrestryddion Arolygol lleol oedd yn cadw cofnodion holl gofrestriadau eu hardal hwy (maent yn parhau i wneud hyn heddiw), gan anfon copïau at y Cofrestrydd Cyffredinol yn Llundain hefyd. Crëwyd set anferth o gofnodion cofrestru cenedlaethol fel hyn, felly crynhowyd rhifynnau mynegeiol er mwyn medru dod o hyd i gofnodion unigol yn hawdd. Erbyn hyn, enw'r mynegeion, a drefnir mewn chwarteri ar gyfer bob blwyddyn, yw Mynegeion Genedigaethau,  Marwolaethau a Phriodasau’r Cofrestrydd Cyffredinol (neu, weithiau, Fynegeion y GRO).

Sut i gael tystysgrifau

Gall haneswyr teulu gael gafael ar gopïau o dystysgrifau mewn dwy ffordd: gallwch wneud cais uniongyrchol at Gofrestrydd Arolygol lleol yr ardal os ydych yn gwybod ble y ganwyd eich perthynas, ble y priododd neu ble y bu farw, ac os oes gennych syniad pryd y digwyddodd hyn. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gwybod 'ble a phryd' fel arfer. Bydd angen i chi ddechrau trwy chwilio trwy Fynegeion Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau’r Cofrestrydd Cyffredinol yn yr achoson hyn. Ar ôl i chi ddod o hyd i gofnod, gwnewch nodyn o'r wybodaeth (dyddiad, lle a chyfeirnod) ac anfonwch at y Cofrestrydd Cyffredinol er mwyn cael copi o'r dystysgrif. 

Ble fedra' i ddod o hyd i'r Mynegeion ar gyfer Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau?

Mae'r mynegeion ar gael ar-lein, ar sawl gwefan wahanol.  Gellir defnyddio rhai o'r gwefannau am ddim, ond rhaid talu tanysgrifiad er mwyn defnyddio rhai eraill, neu dalu am bob defnydd. Un o'r gwefannau hyn y gallwch danysgrifio iddi yw Ancestry ond, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gallwch gael mynediad ati am ddim ym mron pob un o archifau a llyfrgelloedd Cymru.

Fel arall, os nad ydych am eu defnyddio ar-lein, gallwch edrych trwy gopïau microfiche o rifynnau gwreiddiol y mynegeion. Mae'r rhain ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn rhai o archifdai'r awdurdodau lleol. 

Cofiwch - nid oes gan yr ystorfeydd y tystysgrifau gwreiddiol. Bydd rhaid i chi wneud cais at y Cofrestrydd Cyffredinol unwaith y byddwch wedi dod o hyd i gofnod yn y Mynegeion, er mwyn cael copi o'r dystysgrif. Gallwch wneud cais ar-lein, trwy'r post neu trwy ffonio, a chodir ffi fechan am y dystysgrif. Gallwch weld mwy o wybodaeth ar wefan y Cofrestrydd.

Cofnodion y Cyfrifiad

Cefndir

Mae cyfrifiadau wedi cael eu cymryd bob deng mlynedd ers 1801, ac eithrio 1941. Ni chofnodwyd unrhyw enwau cyn 1841 - cyfri niferoedd pobl yn unig oedd bwriad y cyfrifiadau. Cofnodwyd enwau o 1841 ymlaen, ac mae cofnodion y cyfrifiadau'n rhestru pawb a oedd yn byw ym mhob tŷ ar noson y cyfrifiadau, gan roi eu hoedran, eu galwedigaeth a mwy o wybodaeth - ffynhonnell wych ar gyfer haneswyr teulu. Cyfrifiad 1901 yw'r cyfrifiad diweddaraf sydd ar gael yn llwyr; bydd mynediad at gyfrifiad 1911 yn cael ei roi bob yn gam yn ystod 2009. 

Ble fedra i edrych ar gofnodion y cyfrifiadau?

Mae yna ddwy ffordd o weld cofnodion y cyfrifiadau: ar-lein neu ar gopïau microffiche o'r cofnodion gwreiddiol.

Defnyddio'r cyfrifiad ar-lein sydd hawsaf, oherwydd gallwch chwilio'n uniongyrchol am unigolyn penodol, a dylech fedru dod o hyd iddynt ble bynnag yr oeddynt ar noson y cyfrifiad. Mae yna nifer o wahanol wefannau sy'n darparu mynediad at gofnodion y cyfrifiadau. Rhaid tanysgrifio i bob un er mwyn eu defnyddio, neu dalu am bob defnydd. Mae un o'r gwefannau, Ancestry, ar gael am ddim yn holl lyfrgelloedd ac amgueddfeydd yr awdurdodau lleol, bron, ac yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae'n darparu mynediad at gyfrifiadau 1841-1901 ond nid at gyfrifiad 1911.

Os ydych am ddechrau trwy ddefnyddio copïau microffiche o'r cofnodion gwreiddiol, bydd angen i chi ddechrau gyda syniad go dda o ble roedd y person rydych yn chwilio amdano yn byw. Mae'r cofnodion wedi eu trefnu yn ôl pob ardal (fel arfer yn ôl plwyfi, yna yn ôl strydoedd), nid yn ôl enwau, ac efallai y bydd angen i chi chwilio trwy nifer o dudalennau er mwyn dod o hyd i'r cofnod cywir. 

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gopïau microfiche o holl gofnodion cyfrifiadau Cymru o 1841-1901. Mae gan nifer o archifdai'r llywodraethau lleol gofnodion y cyfrifiadau o 1841-1901, ar gyfer eu hardal hwy, ar ficrofiche.

Nid yw cofnodion cyfrifiadau 1911 ar gael ar ficrofiche eto - dim ond ar-lein y gellir eu defnyddio ar hyn o bryd.

Y camau nesaf - cofrestri plwyf a chofrestri anghydffurfwyr

Llun o dudalen o gofrestr plwyf yn cael ei ddarllen â chwyddwydr
Cofrestr blwyf cynnar yn cael ei ddefnyddio yn Archifdy Ynys Môn

 

Cofrestri Plwyf


Mae'r rhain yn cadw cofnod o'r bedyddiadau, y priodasau a'r claddedigaethau a gynhaliwyd yn eglwys y plwyf.

Gorchmynnwyd bod cofrestri plwyf yn cael eu cadw am y tro cyntaf ym 1538, ond dim ond un gofrestr sydd wedi para o'r dyddiad hwn yng Nghymru. Daw nifer ohonynt o'r ddeunawfed ganrif, neu hyd yn oed yn hwyrach.

Llyfrau memrwn gwag yn unig oedd y cofrestri plwyf cyntaf, a byddai'r ficer neu'r rheithor yn ysgrifennu enwau'r bobl y byddai'n eu bedyddio, yn gweinyddu eu priodasau neu'n eu claddu ynddynt. Cyflwynwyd cofrestri priodas wedi eu printio o flaen llaw ym 1754, a dilynodd cofrestri bedydd wedi eu printio o flaen llaw, a chofrestri claddu wedi eu printio o flaen llaw, ym 1813. Mae'r cofrestri hyn fel arfer yn cynnwys mwy o wybodaeth ac maent yn llawer haws i'w defnyddio na'r llyfrau memrwn cynnar.

Llun o dudalen flaen cofrestr plwyf yn cael ei ddefnyddio ar ficroffilm
Cofrestr plwyf yn cael ei ddefnyddio ar ficroffilm yn Archifdy Ynys Môn

Ble fedra' i ddod o hyd i gofrestri plwyf?

Mae cofrestri plwyf fel arfer ar gadw yn archifdai’r awdurdodau lleol. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dal y cofrestri ar gyfer yr ardal maent yn ei gweinyddu, ond, am resymau hanesyddol, mae rhai cofrestri - yn enwedig cofrestri ardaloedd 'ffiniol' - ar gadw mewn archifdai cyfagos.

Defnyddir cofrestri plwyfi yn helaeth, felly mae nifer o'r archifdai wedi gwneud copïau microffilm neu ficrofiche ohonynt er mwyn diogelu'r cyfrolau gwreiddiol - felly, wrth gynllunio ymweliadau er mwyn defnyddio cofrestri plwyfi, gofynnwch a fydd angen archebu darllenydd microfiche neu ficroffilm arnoch.

Mae cymdeithasau hanes teulu lleol wedi creu mynegeion i gofrestri plwyfi mewn sawl ardal. Mae'r mynegeion hyn yn ddefnyddiol iawn, ac maent ar gael yn archifdai'r awdurdodau lleol yn aml.

Cofrestri anghydffurfwyr

Digwyddiadau a gynhaliwyd yn eglwys y plwyf yn unig - hynny yw, yr eglwysi a oedd yn perthyn i Eglwys Lloegr (yr Eglwys yng Nghymru o 1927) - sydd wedi eu cofnodi yn y cofrestri plwyf. Ond dewisodd llawer o Gymry beidio â mynychu eglwys y plwyf, gan ymuno ag enwadau Anghydffurfiol megis y Methodistiaid, y Bedyddwyr neu'r Annibynwyr. Câi bedyddiadau a chladdedigaethau a gynhaliwyd mewn capeli Anghydffurfiol eu cofnodi yng nghofrestri'r capel (roedd y Bedyddwyr, nad oedd yn bedyddio babanod, yn aml yn cadw cofrestri genedigaethau). Roedd priodasau, fodd bynnag, yn wahanol: roedd yn rhaid cynnal pob priodas (oni bai am briodasau Iddewon a Chrynwyr) yn eglwys y plwyf rhwng 1754 a 1837, felly gallwch ddod o hyd i briodasau Anghydffurfwyr a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwn yn y cofrestri plwyf.

Ble fedra' i ddod o hyd i gofrestri anghydffurfwyr?

Mae goroesiad cofrestri anghydffurfwyr yn anghyson iawn. Cadwodd rhai capeli gofnodion gofalus iawn, gan sicrhau y cymerwyd gofal da ohonynt; ond ni welodd eraill bod angen cadw cofnodion, neu cadwyd cofrestri ond fe'u collwyd yn hwyrach. Mae rhai cofrestri anghydffurfwyr ar gadw yn archifdai'r awdurdodau lleol neu yn archifau'r prifysgolion, ac mae eraill ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae gan y capeli rai ohonynt o hyd, neu maent gydag unigolion yn breifat. Fodd bynnag, mae yna ffynhonnell ddefnyddiol arall ar gyfer cofrestri a gasglwyd cyn 1837. Gofynnodd y Cofrestrydd Cyffredinol i'r holl gapeli Anghydffurfiol anfon eu cofrestri ato ef ym 1837. Ni ddychwelwyd y cofrestri hyn at y capeli erioed, ac maent ar gadw yn yr Archifau Gwladol yn awr. Maent wedi cael eu gosod ar ficroffilm ac mae nifer o archifdai'r awdurdodau lleol wedi prynu copïau o'r microffilmiau sy'n cynnwys cofrestri eu hardaloedd nhw. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gopïau ar gyfer Cymru gyfan. Gellir cael mynediad at y cofrestri hyn ar-lein hefyd yn awr.

Symud ymlaen - defnyddio cyfoeth y ffynonellau sydd mewn archifau


Symudwch y tu hwnt i adnoddau cyfarwydd cofnodion cyfrifiadau, tystysgrifau a chofrestri plwyfi, a defnyddiwch y cyfoeth o ddeunydd sydd ar gadw mewn archifdai. Efallai y bydd hyn o gymorth i chi wrth ddatrys problemau, wrth fynd â'ch ymchwil ymhellach yn ôl, neu wrth eich galluogi i gael mwy o fanylion am fywydau eich cyndadau. Dyma rai o'r ffynonellau y medrwch eu defnyddio:

Delwedd o dudalen log ysgol yn nodi digwyddiadau ar 23 Rhagfyr 1891, gyda llun o uchelwydd
  • Mae Cyfeirlyfrau Masnach, Cyfeirlyfrau Strydoedd a Chyfeirlyfrau Siroedd yn rhestru masnachwyr a phrif drigolion amryw drefi a phentrefi. Maent yn dyddio'n bennaf o ganol y bedwaredd ganrif at bymtheg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Mae'n bosibl y bydd y cyfeirlyfrau'n rhestru rhan fwyaf o bennau-teuluoedd y trefi mawr. Mae gan bron bob archifdy (a sawl llyfrgell) gopïau o gyfeirlyfrau.
  • Mae cofrestri etholwyr yn rhestru pawb a oedd yn gymwys i bleidleisio. Mae'r rhan fwyaf o'r cyfresi o gofrestri'n dechrau ym 1832 ac yn parhau hyd heddiw. Dynion a oedd yn berchen ar dir, neu a oedd yn rhentu tir o werth arbennig yn unig (nid merched) oedd â'r hawl i bleidleisio tan yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Ym 1918, cafodd pob dyn dros 21 mlwydd oed a phob merch dros 28 mlwydd oed yr hawl i bleidleisio - estynnwyd hyn i ferched dros 21 mlwydd oed ym 1928. Mae  cofrestri etholwyr fel arfer ar gadw yn archifdai'r awdurdodau lleol.
  • Gall cofnodion ysgolion gynnwys gwybodaeth sy'n ddefnyddiol i haneswyr teulu. Bydd cofrestri'n rhestru holl ddisgyblion yr ysgol, gan roi eu hoedrannau, eu cyfeiriadau ac enwau eu rhieni fel arfer. Fodd bynnag, nid oes llawer o gofrestri yn dal i fodoli. Mae mwy o lyfrau log ysgolion wedi goroesi - dim ond disgyblion da iawn neu ddrwg iawn sydd wedi eu henwi yn y rhain, ond gallwch gael cipolwg diddorol iawn ar beth ddigwyddodd yn yr ysgolion o ddydd i ddydd yn y rhain. Mae cofnodion ysgolion fel arfer ar gadw yn archifdai'r awdurdodau lleol.
  • Os gadawodd eich perthynas ewyllys, efallai y bydd hwn yn eich darparu â gwybodaeth ddefnyddiol am berthnasau neu ddisgynyddion, yn ogystal â rhoi syniad i chi o'r eiddo roedd yn berchen arnynt. Profwyd ewyllysiau mewn llysoedd eglwysig cyn 1858; mae'r holl ewyllysion a brofwyd yn llysoedd eglwysig Cymru ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol erbyn hyn. Ar ôl 1858, profwyd ewyllysiau mewn llysoedd profiant sifil, system a wasanaethodd Cymru a Lloegr gyfan. Gellir gweld mynegeion ewyllysiau o 1858 ymlaen, sy'n cynnwys manylion bras yr ewyllys, yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn rhai o archifdai'r llywodraethau lleol; mae'r ewyllysiau eu hunain ar gadw'n ganolog - ewch i weld sut i gael copïau.
Rhan o ewyllys John Latimer, yn dangos ei lofnod a'r flwyddyn, 1858
Rhan o ewyllys John Latimer, digrifwr a deithiodd trwy Gymru gyda’i theatr (Archifau Prifysgol Abertawe)
  • Gall papurau newydd lleol fod yn ddefnyddiol iawn wrth ymchwilio i'ch hanes teulu weithiau. Efallai y byddant yn cynnwys adroddiadau am ddamweiniau a chwestau, gwybodaeth am briodasau a marwolaethau, ysgrifau coffa ac adroddiadau manwl am angladdau. Maent hefyd yn cynnig cipolwg hynod o ddiddorol ar fywyd yn y gorffennol. Mae papurau newydd ar gyfer Cymru gyfan ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac mae rhai archifau lleol yn cadw papurau newydd lleol.
Llun o ddarllenydd yn edrych ar hen bapur newydd
Defnyddio papur newydd yn Archifdy Ynys Môn
  • Efallai y bydd cofnodion tlotai a gwallgofdai'n cynnwys gwybodaeth am berthnasau a oedd yn ddigon anffodus i gael eu hanfon i un o'r sefydliadau hyn. Nid yw'r holl gofnodion wedi para, ond byddant yn aml ar gael yn archifdai'r awdurdodau lleol, os ydynt yn dal i fodoli.
Rhan o dudalen o gofrestr tloty, yn dangos enwau'r rheiny a anfonwyd yno
Rhan o dudalen o gofrestr mynediad tloty yng Nghastell Nedd, 1868 (Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg)
  • Os oedd eich perthynas mewn trafferth gyda'r gyfraith, efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i wybodaeth am eu trosedd yng nghofnodion y Sesiynau Chwarter (a oedd yn barnu troseddau llai) neu'r Sesiynau Mawr (a oedd yn barnu troseddau mwy difrifol). Mae cofnodion y Sesiynau Chwarter ar gadw yn archifdai'r llywodraethau lleol, tra bod y Llyfrgell Genedlaethol yn dal cofnodion y Sesiynau Mawr. Weithiau gellir dod o hyd i gofnodion yr heddlu yn archifdai'r llywodraethau lleol hefyd, felly efallai y byddwch yn medru dod o hyd i lun o'r troseddwr, neu ei olion bysedd, mewn cofrestr o droseddwyr.
Cofnod o un o Gofrestri Ffeloniaid Sir Gaerfyrddin, yn rhoi manylion am y rheiny a  anfonwyd i garchar Caerfyrddin am ffeloniaeth. (Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin)
Cofnod yng Nghofrestr Ffeloniaid Sir Gaerfyrddin, sy’n rhoi manylion y rheiny a anfonwyd i garchar Caerfyrddin am ffeloniaeth. (Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin)
  • Mae rhai cofnodion cyflogaeth yn dal i fodoli. Efallai y bydd archifdai'n dal cofnodion personél yr heddlu, rhestri o staff cynghorau, neu gytundebau criwiau llongau, er enghraifft. Weithiau, bydd casgliad o gofnodion busnes neu ystâd yn cynnwys gwybodaeth am eu staff. Fodd bynnag, ychydig iawn o wybodaeth sydd wedi goroesi ar gyfer nifer o alwedigaethau, os oes unrhyw beth ar gael o gwbl - er enghraifft, nid oes braidd dim o gofnodion cyflogaeth y diwydiant glo, sef un o brif gyflogwyr de Cymru, wedi para.
  • Rhowch gynnig ar edrych ar asesiadau trethi tir (y 1780au hyd at y 1830au cynnar) os oedd eich perthnasau'n denantiaid a oedd yn ffermio. Mae'r rhain yn rhestru enwau tirfeddianwyr a thenantiaid. Mae cofnodion ystadau hefyd yn ffynonellau defnyddiol iawn - efallai y byddant yn cynnwys prydlesi, llyfrau rhent neu fapiau ystadau sy'n rhestru tenantiaid a'r tir roeddent yn ei ffermio. Gellir dod o hyd i asesiadau trethi tir yn archifdai'r awdurdodau lleol fel arfer, tra bod nifer o archifdai'n dal cofnodion ystadau.
Asesiad trethi tir yn dangos enwau perchnogion tai a'r bobl oedd yn byw ynddynt
Asesiad trethi tir 1795 ar gyfer rhan o blwyf Ystradyfodwg ym Morgannwg – yr ardal a elwir yn Gwm Rhondda yn awr. (Archifdy Morgannwg)
  • Os oedd eich perthynas yn dlawd iawn, efallai iddo ef neu iddi hi gael 'Cymorth y Tlodion' gan y plwyf. Byddai hyn wedi cael ei gofnodi yn llyfr cyfrifon goruchwyliwr y plwyf neu yn llyfr cofnodion y festri. Efallai y byddant hyd yn oed wedi gorfod profi eu 'setliad' yn y plwyf, gan adrodd hanes eu bywyd i swyddogion y plwyf. Yn anffodus, nid oes llawer o'r cofnodion hyn wedi goroesi, ond efallai y gallwch ddod o hyd i rai ohonynt yn archifdai'r llywodraethau lleol ac yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Rhan o dudalen yn dangos enwau'r rheiny a gafodd gymorth y tlodion gan oruchwylwyr y plwyf
Rhan o dudalen o lyfr cyfrifon arolygwr plwyf Llantrisant, 1815 (Archifdy Morgannwg)

Ydych chi'n hanesydd teulu profiadol, ond yn newydd i waith ymchwil yng Nghymru?

Os ydych wedi arfer ag olrhain eich hanes teulu yn Lloegr, byddwch yn gweld nad yw ymchwilio i'ch hanes teulu yng Nghymru yn wahanol iawn. Unwyd Cymru â Lloegr yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg ac mae'r gyfraith, a'r rhan fwyaf o'r systemau gweinyddol, wedi bod yr un peth ar gyfer y ddwy wlad ers hynny. Ysgrifennwyd cofnodion swyddogol trwy gyfrwng y Saesneg yn unig tan ganol yr ugeinfed ganrif, gydag ychydig iawn o eithriadau.

Mae'r rhan fwyaf o gofnodion yr un peth yng Nghymru ac yn Lloegr. Er enghraifft:

  • Mae'r cofnodion ar gyfer genedigaethau, marwolaethau a phriodasau yn union yr un peth yng Nghymru ac y Lloegr, ac mae mynegai'r Cofrestrydd Cyffredinol yn cwmpasu'r ddwy wlad.
  • Mae cofnodion y cyfrifiadau yr un peth ar gyfer Cymru a Lloegr, oni bai am gwestiwn ychwanegol a ofynnwyd o 1891 ymlaen: gofynnwyd i bawb a oedd yn 3 mlwydd oed ac yn hŷn a oeddent yn siarad Saesneg yn unig, yn siarad Cymraeg yn unig neu'n siarad y ddwy iaith.
  • Mae'r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Lloegr wedi bod ar wahân ers 1927, ond mae'r cofnodion plwyf yr un peth â rhai Lloegr, ac ar gadw yn archifdai'r awdurdodau lleol yn yr un modd.

Fodd bynnag, mae yna rai gwahaniaethau:

  • Archifdai esgobaethol yw'r rhan fwyaf o archifdai awdurdodau lleol Lloegr. O ganlyniad, maent yn dal holl gofnodion yr esgobaeth, megis ewyllysiau, trawsgrifiadau’r esgobion a bondiau a thrwyddedau priodasau, yn ogystal â chofnodion plwyf. Y Llyfrgell Genedlaethol yw archifdy esgobaethol Cymru, ar gyfer y wlad gyfan, felly hi sy'n dal holl drawsysgrifiadau'r esgobion, yr holl fondiau a thrwyddedau priodasau a'r holl ewyllysiau a brofwyd yn llysoedd eglwysi Cymru.
  • Roedd Anghydffurfiaeth yn bwysicach yng Nghymru na mewn rhai rhannau o Loegr, felly efallai y byddwch yn gweld nad oedd eich perthnasau'n mynychu eglwys y plwyf. Cymraeg oedd iaith llawer o'r capeli, ac efallai y bydd rhai o'r cofnodion wedi eu cadw yn y Gymraeg.
  • Barnwyd troseddau difrifol yng Nghymru yn y Sesiynau Mawr tan 1838 - roedd y rhain gyfystyr â Llysoedd y Brawdlys yn Lloegr. Mae cofnodion y Sesiynau Mawr ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Estynnwyd System Llysoedd y Brawdlys i Gymru ar ôl 1838.