Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Defnyddio Archifau / Beth yw Archifau? / Enghreifftiau o rai archifau

Enghreifftiau o rai archifau

Cyfrolau o gofnodion cynghorau

Archif awdurdod lleol


Gall archif awdurdod lleol gynnwys cofnodion y cyngor a'i holl bwyllgorau; adroddiadau a wnaed ar gyfer y cyngor a'r pwyllgorau; cyfrifon manwl; cofnodion adrannau unigol - ystod enfawr o gofnodion sy'n adlewyrchu pob agwedd o waith y cyngor, gan gynnwys cynllunio, cynnal priffyrdd, addysg, gofal am yr henoed a gofal am blant, a llawer mwy. Bydd yr archif yn ei chyfanrwydd yn dweud hanes y cyngor wrthym, ond efallai y bydd eitemau unigol o'i mewn yn berthnasol i waith ymchwil ac ymholiadau o bob math.

 

 

 

Rhan o fap ystad

Archif teulu â thir


Efallai y bydd archif teulu â thir yn cynnwys cannoedd o weithredoedd teitl ar gyfer y tir roeddent yn berchen arno; gwybodaeth am rent (rhestri o'r rhent a oedd yn ddyledus a'r rhent a dalwyd); mapiau a chynlluniau; cofnod o adeiladau, o waith adeiladu ac o dirlunio; a chofnodion personol - er enghraifft llythyron, dyddiaduron, tystysgrifau teuluol, ewyllysiau a lluniau. Yn ei chyfanrwydd, bydd yr archif yn dangos hanes y teulu a'u diddordebau ar draws sawl cenhedlaeth; efallai y bydd eitemau unigol neu gyfresi o eitemau sy'n rhan o'r archif yn hynod o bwysig i'r rheiny sy'n astudio hanes lleol, hanes busnesau, hanes gerddi neu hanes adeiladau, neu hanes teulu.

 

Cyfriflyfrau busnesau ar silff

Archif busnes


Efallai y bydd archif busnes yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gofnodion y bwrdd, cyfrifon, cofnodion cynhyrchu, cofnod o'r staff, cofnod o'u gwaith marchnata, gweithredoedd teitl unrhyw adeiladau roeddent yn berchen arnynt, a lluniau. Bydd yr archif yn ei chyfanrwydd yn ffynhonnell hanfodol i unrhyw un sy'n ymchwilio i'r busnes ei hun, ond efallai y bydd deunydd o fewn yr archif yn darparu haneswyr lleol, haneswyr tai a haneswyr teulu â llawer o wybodaeth, tra bydd cofnodion cynhyrchu o ddiddordeb mawr i'r rheiny sydd â diddordebau ymchwil arbenigol - a bydd cofnodion o waith marchnata a lluniau yn rhoi cipolwg hynod o ddiddorol o'r gorffennol i'r rheiny sydd â diddordeb cyffredinol mewn hanes.

Archif bersonol


Efallai y bydd archif bersonol yn cynnwys cofnodion roedd yr unigolyn ei hun yn gweld eu bod yn bwysig iddo ef neu iddi hi. Cedwir y rhan fwyaf o archifau personol gan y bobl a'u crëwyd, neu gan eu teuluoedd, ond efallai y gwelir bod rhai - yn enwedig archifau unigolion cyhoeddus - yn hynod o arwyddocaol, felly fe'u rhoddir yng ngofal ystorfa archifdy. Bydd archif o'r fath yn cynnwys nifer o bethau gwahanol - er enghraifft dyddiaduron, llythyron, lluniau, nodiadau ymchwil a drafftiau o waith ysgrifenedig. Bydd yr archif yn ei chyfanrwydd yn anhepgorol er mwyn deall mwy am yr unigolyn a'i creodd, ond efallai y bydd eitemau unigol o'i mewn yn berthnasol i feysydd ymchwil eraill. Mae'n werth nodi mai dim ond cofnodion a grëwyd gan yr unigolyn ei hun, neu a dderbyniwyd neu a gasglwyd ganddo ef neu ganddi hi, fydd yn yr archif; efallai y gellir dod o hyd i lawer o wybodaeth berthnasol bellach mewn mannau eraill - er enghraifft, bydd llythyron a ysgrifennwyd gan yr unigolyn fel arfer yn aros gyda'r person a'u cafodd.

Archie Cochrane