Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Defnyddio Archifau / Ble Fedra' i ddod o hyd i Archifau?

Ble Fedra' i ddod o hyd i Archifau?

Cedwir archifau mewn ystorfeydd cofnodion - ond mae hwn yn derm technegol, braidd, a bydd llawer o bobl yn defnyddio'r gair 'archifau' i ddynodi'r lle ble cedwir archifau, yn ogystal ag ar gyfer yr archifau eu hunain. Mae yna nifer o wahanol fathau o archifau yng Nghymru: 

Maent ar agor i bawb ac yn croesawu ymwelwyr.

 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Sefydliadau Cenedlaethol sy'n dal archifau

Mae dau sefydliad cenedlaethol yn dal casgliadau o archifau sy'n ymwneud â Chymru gyfan.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n dal casgliadau mawr o archifau pwysig yn ogystal â llyfrau print. Mae'r casgliadau hyn yn cynnwys archifau nifer o ystadau mawr, archifau'r Eglwys yng Nghymru (ac eithrio cofrestri plwyf), archifau nifer o enwadau Anghydffurfiol ac archifau sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, masnachol, amaethyddol, addysgiadol a phroffesiynol. Mae hefyd yn dal archifau unigolion a theuluoedd sydd wedi cymryd rhan bwysig yng Nghymru.

Ewch i weld mwy am yr hyn sydd ar gadw yno.

 

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru’n dal gwybodaeth helaeth iawn am dir ac adeiladau Cymru yn ei archif, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Ewch i weld mwy am yr hyn sydd ar gadw yno.

 

Archifau Awdurdodau Lleol

Gelwir y rhain yn 'Archifdai', yn 'Wasanaeth Archifau' neu, yn syml, yn 'Archifau'. Nid oes unrhyw wahaniaeth rhyngddynt - enwau gwahanol ar gyfer yr un peth ydynt. Maent yn dal cofnodion yr ardal a wasanaethir gan yr awdurdod lleol maent yn rhan ohoni, neu'r awdurdodau lleol maent yn rhan ohonynt, felly mae'n debyg y bydd angen i chi ddechrau yn archifdy'r awdurdod lleol os ydych yn chwilio am archifau sy'n ymwneud ag ardal arbennig.

Mae'r rhan fwyaf o archifdai'r awdurdodau lleol yn dal y canlynol:

  • cofnodion yr awdurdod ei hun a chofnodion ei holl ragflaenwyr (er enghraifft, cynghorau sir a sesiynau chwarter), a chofnodion ystod o gyrff swyddogol lleol.
  • cofnodion sefydliadau eraill megis byrddau gwarcheidwaid ac ysgolion.
  • cofnodion a adneuwyd gan unigolion, gan deuluoedd a chan sefydliadau o bob math - o ystadau â thir, cyfreithwyr a busnesau i gymdeithasau lleol, grwpiau cymdeithasol a phobl leol blaenllaw.
  • cofrestri plwyf a chofrestri anghydffurfwyr ar gyfer eu hardal hwy.

Ddim yn siŵr pa archifdy sy'n gwasanaethu'r ardal mae gennych ddiddordeb ynddi?

Ewch i weld manylion cryno am beth sydd gan bob archifdy.

Prifysgolion sy'n dal archifau

Mae sawl un o brifysgolion Cymru'n dal archifau, sy'n amrywio o ran eu natur a'u maint, yn eu llyfrgelloedd. Mae rhai o'r archifau'n gysylltiedig â  diddordebau ymchwil academaidd penodol, tra bod eraill o ddiddordeb lleol cyffredinol - mae prifysgolion Bangor ac Abertawe, yn arbennig, yn dal rhai archifau sy'n debyg iawn i'r rheiny y dowch o hyd iddynt yn archifdai'r awdurdodau lleol.

Gall unrhyw un ddefnyddio'r archifau hyn, ond efallai y bydd yr amodau ar gyfer cael mynediad atynt ychydig yn wahanol i'r ystorfeydd hynny sydd ond yn gwasanaethu'r cyhoedd, gan mai gwasanaethu defnyddwyr mewnol - yn staff ac yn fyfyrwyr - yw prif ganolbwynt y llyfrgelloedd. 

Ewch i weld mwy am archifau prifysgolion.

 

Sefydliadau eraill sy'n cadw archifau

Mae rhai sefydliadau eraill, megis cymdeithasau hynafiaethol a chymdeithasau hanes lleol, yn ogystal â rhai amgueddfeydd a llyfrgelloedd lleol, yn dal  casgliadau bychain o archifau. Dim ond un sefydliad o'r fath sydd â'i gatalog ar y wefan hon ar hyn o bryd, sef Cymdeithas Hynafiaethol Castell-nedd.

Cynllunio'ch ymweliad