Mae archifau'n wych. Maent yn ein cysylltu'n uniongyrchol â'r bobl fu'n byw yn y gorffennol.
Byddwch yn dod o hyd i bob math o ddeunyddiau hynod o ddiddorol mewn archifau, beth bynnag yw'ch diddordeb. Darganfyddwch gyffro defnyddio cofnodion a grëwyd gan genedlaethau'r gorffennol drostoch eich hun.

Gall mapiau fynd â ni yn ôl i'r gorffennol mewn chwinciad. Mae'r map hwn yn dyddio yn ôl i 1776, pan lluniodd A. Bowdler gyfres o gynlluniau yn dangos holl dai Owen Holland o Blas Isa, Conwy, ar ei gais. Dyma un o'r cynlluniau, sy'n dangos y tai roedd Owen Holland yn berchen arnynt yn nhref Conwy.

Mae'r Cofrestr Ffeloniaid hwn yn rhestru pawb a gyhuddwyd o droseddau difrifol ac a anfonwyd i garchar Caerfyrddin yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ar gadw yng Ngwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin (cyfeirnod ACC 4916).
Pam na chwiliwch drwy'r delweddau digidol o archifau sydd ar gael ar-lein ar sawl gwefan, er mwyn cael rhagflas. Neu, ewch i weld Beth sy'n Digwydd - cymerwch gip ar yr arddangsofeydd a'r digwyddiadau cyfredol.
Yna dechreuwch ar eich taith eich hun i edrych ar gofnodion mewn archifdai ar draws y wlad.
Ond cofiwch nad oes gan bob archifdy arddangosfeydd. Mae'n syniad da meddwl am faes neu bwnc i'w ymchwilio os ydych yn bwriadu ymweld ag archifdy nad sydd ag arddangosfa, neu sydd ond â nifer fechan o ddogfennau allan i'w gweld. Beth am bori trwy'r catalog ar y wefan hon er mwyn gweld pa fath o archifau sydd ar gadw? Dim ond crynodeb o'r catalogau sydd yma, ond mae'n rhoi syniad o'r casgliadau sydd ar gadw yn yr holl archifdai ar draws Cymru.