Archivau Cymru Eich mynediad i hanes



Rydych chi yma: Hafan / Defnyddio Archifau / Sut mae defnyddio archifau

Sut mae defnyddio archifau

Catalogau archif ar silff

Nid yw'r archifau fel llyfrgelloedd...

fedrwch chi ddim pori'r silffoedd er mwyn dod o hyd i'r archifau rydych am eu defnyddio.

Mae archifau'n unigryw, ac ni ellir cael rhai newydd os y'u collir neu os y'u difrodir. Felly, fe'u cedwir mewn ystafelloedd diogel o dan yr amgylchiadau cywir.

Byddwch yn defnyddio'r archifau mewn ystafell ddarllen neu, fel y'i gelwir yn aml, mewn ystafell chwilio. Pan fyddwch yn gofyn am eitem, bydd staff yn dod ag ef allan atoch er mwyn i chi ei ddefnyddio yn yr ystafell chwilio. Bydd yn cael ei roi i ffwrdd yn saff ar ôl i chi orffen gydag ef nes y bydd ei angen eto.

Dod o hyd i'r archifau rydych eu hangen


Gallwch chwilio am archifau a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich ymchwil chi naill ai ar ar-lein neu yn ystorfa'r archifdy ei hun.

Bydd y rhan fwyaf o'r archifau sydd ar gadw yn yr ystorfa wedi eu rhestru'n fanwl mewn catalogau. Mae'r rhain fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gefndir yr archif - pwy greodd yr archif a pham - ac yn disgrifio pob eitem unigol sy'n rhan ohoni.


Darllenwr yn defnyddio cardiau mynegai
Defnyddio cardiau mynegai - mae'r rhain yn aml o gymorth mawr, yn enwedig os nad oes catalogau electronig ar gael

Mae catalogau ar gael ar-lein hefyd. Gallwch ddod o hyd i ddisgrifiadau bras o'r casgliadau o archifau sydd yn ystorfeydd Cymru ar y wefan hon. Ni fyddwch yn dod o hyd i gatalogau manwl gyda rhestri o eitemau unigol, ond byddwch yn dod o hyd i ddigon o wybodaeth er mwyn medru penderfynu a yw'n werth ymweld ag ystorfa benodol neu gysylltu â'r ystorfa honno.

Mae gan rai archifdai gatalogau manwl llawn ar eu gwefannau eu hunain hefyd.

Yn wahanol i lyfrau mewn llyfrgell, bydd yn gymorth cofio, wrth ddefnyddio'r catalogau, na threfnir archifau yn ôl pwnc. Fe'u trefnir yn ôl 'creawdwr' - cedwir yr holl gofnodion a grëwyd gan un unigolyn neu sefydliad gyda'i gilydd, fel archif yr unigolyn neu'r sefydliad hwnnw. Gall un archif gynnwys deunyddiau sy'n ymwneud ag ystod o bynciau ac, ar y llaw arall, efallai y gwelwch bod deunyddiau sy'n ymwneud ag un pwnc arbennig wedi eu lledu ar draws nifer o wahanol archifau.

Bydd staff ar gael i'ch helpu o hyd - gofynnwch am gymorth os na fedrwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, neu os nad ydych yn gwybod sut i ddefnyddio'r catalogau.

Llun o gornel dogfen, yn dangos y cyfeirnod
Enghraifft o gyfeirnod ar ddogfen













Gofyn am gael gweld yr eitemau


Bydd gan bob eitem yn y catalogau, neu bob grŵp o eitemau, gyfeirnod neu god. Bydd angen i chi wneud nodyn o'r cyfeirnod hwn er mwyn gofyn am yr eitemau rydych am eu gweld.

Llun o gyfrol fawr yn gorffwys ar gynhalydd llyfrau sbwng
Cynhalydd llyfrau'n cael ei ddefnyddio yn Archifdy Morgannwg

Mae archifau yno i bawb - cadwch nhw'n ddiogel


Mae defnyddio archifau'n brofiad gwych - mae pob eitem yn werthfawr ac yn unigryw; yn gysylltiad uniongyrchol â'r gorffennol. 

Mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn para heb niwed er mwyn i bobl eraill eu defnyddio, felly mae gan y rhan fwyaf o archifdai reolau yn eu hystafelloedd chwilio, fel y rheolau canlynol:

  • Sicrhewch bod eich dwylo'n lân
  • Defnyddiwch bensiliau yn unig
  • Dim bwyta nac yfed (dim hyd yn oed felysion neu ddŵr)
  • Byddwch yn ofalus wrth drin y dogfennau - defnyddiwch y pwysau a'r cynhalwyr llyfrau a ddarperir os oes angen
  • Gadewch eich bagiau a'ch cotiau y tu allan i'r ystafell chwilio - mae gan y rhan fwyaf o archifdai gypyrddau clo.

Bydd staff yn barod i'ch helpu a rhoi cyngor ar y ffordd orau i drin y dogfennau bob tro.