
Roedd Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, John Griffiths yn Archifau Morgannwg heddiw i longyfarch enillwyr y gystadleuaeth ‘Adroddwch Eich Stori’.
Gofynnwyd i ddefnyddwyr archifau Cymru gyflwyno stori am eu profiadau a phethau roedden nhw wedi’u darganfod wrth ddefnyddio’r gwasanaeth. Daeth cyfanswm o 76 o geisiadau i law o bob rhan o Gymru. Dewiswyd 21 o enillwyr a phob un yn ennill £100. (mwy)
Mae Archifau Cymru yn falch o gyhoeddi’r straeon buddugol a gafodd eu dewis fel rhan o ymgyrch ddiweddar ‘Adroddwch Eich Stori’.
Gofynnwyd i ddefnyddwyr archifau Cymru anfon stori am eu profiadau a’u darganfyddiadau ar ôl defnyddio’r gwasanaeth. Daeth cyfanswm o 77 o geisiadau i law o bob rhan o Gymru a dewiswyd 22 o straeon buddugol a fydd yn ennill £100 yr un. (mwy)
Ydych chi wedi darganfod mai eich tŷ chi oedd siop y pentref ers talwm? Neu newydd ddod o hyd i hen fodryb a gafodd fywyd diddorol dros ben? Efallai eich bod wedi cyfrannu hen ffotograffau o bwys lleol ar ôl dod ar eu traws wrth glirio’r atig? Neu efallai fod yr ymchwil a’r arweiniad gawsoch chi gan staff yn eich gwasanaeth archifau wedi helpu gyda’ch astudiaethau?
Beth bynnag yw eich stori chi, mae’r gwasanaethau archifau yng Nghymru yn awyddus i glywed gennych! (mwy)