
Mae archifau'n ffynhonnell hynod o ddiddorol ar gyfer haneswyr lleol, gan ddarparu’r 'deunydd craidd' ar gyfer pob math o ymchwil i hanes lleol.

Ydych chi ar fin dechrau ymchwilio i hanes ardal?
Ydych chi am astudio mwy o ffynonellau hanes lleol?
Cyn i chi ymweld â'r archifdy
Bydd gwneud rhywfaint o ddarllen cefndirol gan ddefnyddio ffynonellau cyhoeddedig, neu geisio darganfod a oes unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu ei gyhoeddi am yr ardal mae gennych ddiddordeb ynddi eisoes, yn aml o gymorth os ydych ar fin dechrau ymchwilio i hanes ardal leol. Y llyfrgell yw'r lle gorau i ddod o hyd i lyfrau a chyhoeddiadau ar hanes lleol, er bod archifdai hefyd yn aml yn cadw casgliadau cyfeiriol bach a fydd yn cynnwys rhai gweithiau ar hanes lleol. Gellir gweld gwybodaeth ddefnyddiol iawn am lyfrgelloedd ar llyfrgell.cymru.org.
Ac ymlaen at eich ymchwil yn yr archifau...
Ceisiwch ddechrau gyda'r ffynonellau defnyddiol canlynol, sydd ar gadw mewn sawl archifdy:
1. Mapiau
Gall mapiau ddangos llun clir iawn o'r newidiadau sydd wedi digwydd dros amser mewn ardal yn syth.


Mae'r mapiau hyn yn dangos y newidiadau dramatig a ddigwyddodd yn Senghenydd, ger Caerffili, rhwng 1872 a 1900 - mae'r pwll glo yn rhoi syniad o pam y digwyddodd hyn.
Bydd mapiau hanesyddol yn dangos ffermydd, pyllau mwyngloddio, chwareli, a safleoedd diwydiannol sydd efallai wedi diflannu erbyn heddiw, yn ogystal â hen ffyrdd neu lwybrau sydd wedi eu disodli. Maent yn cofnodi enwau ffermydd ac enwau ardaloedd lleol nad sy'n cael eu defnyddio bellach, ac yn dangos ffiniau plwyfi ac ardaloedd eraill.
Dyma rai o'r mapiau mwyaf defnyddiol:

Mae archifdai fel arfer yn dal mapiau o fathau eraill hefyd ar gyfer amryw o ddyddiadau. Mae'n debyg y bydd mwy o fapiau ar gael ar gyfer ardaloedd dinesig nag sydd ar gael ar gyfer ardaloedd gwledig, ac mae'n debyg y byddant yn dyddio ymhellach yn ôl.
2. Cyfeirlyfrau
Gall cyfeirlyfrau masnach a chyfeirlyfrau strydoedd fod yn fodd o gael cipolwg sydyn ar ardal a'i hanes. Fe'u cyhoeddwyd yn bennaf o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg tan ganol yr ugeinfed ganrif, ac mae sawl math gwahanol ar gael - mae rhai, ar gyfer trefi mawr, yn rhoi gwybodaeth fanwl o bob stryd yn ei thro tra bod eraill yn cynnwys gwybodaeth fwy cyfyngedig. Fe'u cynhyrchwyd er mwyn i drigolion ac ymwelwyr eu defnyddio - yn debyg i'r 'Yellow Pages' cyfoes. Gwybodaeth gyffredinol am drefi a phentrefi'r ardaloedd roeddynt yn eu gwasanaethau sydd yn y rhan fwyaf ohonynt, gyda rhestri o'r masnachwyr a'r prif drigolion. Mae'r dudalen hon, o gyfeiriadur o 1859, yn dangos yr wybodaeth a roddwyd ar gyfer pentref Llanfair yn Sir Drefaldwyn.
3. Y Cyfrifiad
Cynhaliwyd y cyfrifiad cyntaf ym 1801, ac maent wedi cael eu cynnal bob deng mlynedd ers hynny, ac eithrio 1941. Cynhyrchwyd cyfrolau o ystadegau ar ôl pob cyfrifiad, gan gofnodi nifer y bobl a oedd yn byw ym mhob ardal leol a chan roi gwybodaeth fanwl am y boblogaeth, megis nifer a maint y tai, dosraniad yr oedrannau, cyflogaeth a phatrymau ymfudo. Gall y ffigurau ddarparu haneswyr lleol â gwybodaeth gefndirol ddiddorol iawn. Mae'r cyfrolau o ystadegau ar gael ar gyfer pob blwyddyn gyfrifiad yn y Llyfrgell Genedlaethol; gellir dod o hyd i nifer gyfyngedig o'r cyfrolau ar gyfer rhai blynyddoedd mewn archifdai lleol.
Yn ogystal â'r cyfrolau o ystadegau, mae cofnodion y cyfrifiadau - y llyfrau gwreiddiol a lenwyd gan rifwyr y cyfrifiad - hefyd yn ffynhonnell werthfawr iawn ar gyfer haneswyr lleol. Maent ar gael ar gyfer Prydain gyfan o 1841 tan 1901, ac maent yn cynnwys enwau pob aelod o bob teulu ym mhob ardal, gan gynnwys manylion am eu hoedrannau, eu galwedigaethau a ble y'u ganwyd. Mae'r cofnodion yn ffynhonnell hanfodol i haneswyr teulu, wrth gwrs, ond maent o ddiddordeb mawr i haneswyr lleol hefyd, sy'n medru darganfod patrymau gwaith, patrymau ymfudo a pherthnasau teuluol ar gyfer ardal fechan iawn trwyddynt. Mae cofnodion cyfrifiadau Cymru gyfan ar gael ar ficrofiche yn y Llyfrgell Genedlaethol, neu mae gan nifer o archifdai'r awdurdodau lleol gofnodion eu hardaloedd eu hunain. Gellir dod o hyd i'r cofnodion ar sawl gwefan y gellir tanysgrifio iddynt hefyd; mae'r rhan fwyaf o archifdai Cymru'n cynnig mynediad am ddim at gofnodion y cyfrifiadau ar-lein trwy rifyn llyfrgelloedd gwefan Ancestry. Bydd cyfrifiad 1911 ar gael bob yn gam, un ardal ar y tro, yn ystod 2009, ond ni fydd modd cael mynediad ato trwy wefan Ancestry; gallwch gael mwy o wybodaeth yma.
1. Dod o hyd i gofnodion perthnasol – rhai syniadau
Mae archifau’n dal ystod anferth o ddeunyddiau hynod o ddiddorol a fydd o ddiddordeb posibl i haneswyr lleol – felly beth yw’r ffordd orau o ddod o hyd i’r cofnodion sy’n berthnasol i’ch ymchwil penodol chi?
Dechreuwch trwy ddefnyddio’r holl gatalogau a mynegeion sydd ar gael i’r eithaf, boed hynny ar-lein neu yn yr archifdai eu hunain. Mae rhai catalogau a mynegeion yn gynhwysfawr ac yn fanwl iawn, gan restru’r holl eitemau unigol sy’n rhan o archif. Efallai mai dim ond cyfran o’r deunydd sydd ar gadw a ddisgrifir mewn rhai archifau, tra bod eraill yn darparu catalog sy’n rhoi gwybodaeth ar y ‘lefel uchaf’ yn unig – bydd yn disgrifio’r archifau neu’r casgliadau yn eu cyfanrwydd, ond ni fydd yn rhoi gwybodaeth am y cyfresi neu’r eitemau unigol o’u mewn. Catalog o’r math hwn yw’r catalog sydd ar y wefan hon – dim ond disgrifiadau ar lefel yr archif gyfan, neu ar lefel y casgliad, sydd yma.
Byddwch yn medru chwilio am dermau chwilio penodol iawn gyda chatalogau electronig manwl a chyda cardiau mynegai cynhwysfawr – efallai byddwch yn medru chwilio am enw ardal fechan iawn rydych yn ymchwilio iddi. Efallai na fydd chwiliadau am dermau penodol iawn yn llwyddiannus wrth ddefnyddio catalogau electronig llai manwl, neu wrth ddefnyddio mynegeion rhannol – ond nid yw hyn yn golygu nad oes unrhyw gofnodion perthnasol ar gadw yno; efallai nad ydynt wedi eu cofnodi yn y catalog neu wedi eu mynegeio, dyna’i gyd. Efallai y bydd yn rhaid i chi feddwl ‘o amgylch’ eich pwnc – defnyddiwch dermau chwilio ehangach, neu ceisiwch feddwl pa sefydliad neu unigolyn fyddai wedi creu cofnodion perthnasol, yna edrychwch ar gatalogau manwl cofnodion y sefydliadau neu’r unigolion hyn, sydd fel arfer ar gael ar bapur yn ystafell chwilio’r archifdy.
Mae’n ddefnyddiol dod o hyd i’r canlynol am yr ardal rydych yn ymchwilio iddi, er mwyn eich cynorthwyo gyda hyn:
Bydd hyn yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i ddeunyddiau - er enghraifft, efallai y bydd cofnodion sy’n ymwneud â’r ffyrdd yn archif y cyngor sir, a chyn hyn, yn archif awdurdod y priffyrdd; efallai y bydd dogfennau sy’n ymwneud ag elusen leol ymysg cofnodion y plwyf; efallai y bydd gweithredoedd teitl tir yn yr ardal ymysg cofnodion ystâd â thir; neu efallai y bydd deunyddiau sy’n ymwneud â diwydiant lleol yn rhan o archif busnes.
Cofiwch ofyn am gymorth os nad ydych yn gwybod ble i ddechrau, neu os ydych yn cael anawsterau wrth ddefnyddio’r catalogau neu’r mynegeion. Mae gan staff archifdai wybodaeth fanwl o’r cofnodion sy’n rhan o’r archif, a byddant yn falch medru eich cynghori.
2. Rhai enghreifftiau o archifau ar gyfer hanes lleol
Gall bron unrhyw beth sy’n rhan o ystorfa archif fod yn ddefnyddiol i hanesydd lleol. Dyma rai enghreifftiau.
Cofnodion Sesiynau Chwarter
Roedd gan lysoedd y sesiynau chwarter, a gynhaliwyd pedair gwaith y flwyddyn ym mhob sir, ddwy swyddogaeth: ymdrin â gweinyddiaeth y sir, a gweinyddu cyfiawnder ym mhob achos oni bai am yr achosion mwyaf difrifol.

Rhan o ddogfen a elwir yn 'ddatganiad' yw hwn, lle gosodai'r rheithwyr achosion gerbron yr ynad heddwch. Deliwyd â'r datganiad arbennig hwn yn sesiynau chwarter Sir Gaernarfon ym mis Awst 1652; mae'r adran hon yn tynnu sylw'r ynadon at y ffaith bod pont godi yng Nghaernarfon wedi pydru, a bod rhai ohonynt (y rheithwyr) wedi bod i edrych ar bydew neu dwll rhwng Croes Beblig a Phont y Saint 'and doe find it in full repayre and lately well rectified'. Gellir gweld y ddogfen wreiddiol yn Archifdy Caernarfon.
Cofnodion ystadau â thir
Mae cofnodion ystadau â thir yn hynod o werthfawr i haneswyr lleol. Gallant gynnwys gweithredoedd teitl, gwybodaeth am rent (rhestri o'r rhent sy'n ddyledus), cofnodion am waith adeiladu a gwaith adnewyddu, cyfrifon, dyddiaduron a llawer mwy. Mae hwn yn rhan o wybodaeth am rhenti ystâd Margam, ac mae'n dangos enwau'r tenantiaid a'r swm sy'n ddyledus. Mae ar gadw yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Cofnodion diwydiannau lleol
Gall cofnodion diwydiannau lleol eich cynorthwyo wrth adeiladu darlun o ddatblygiad yr ardal. Dyma ran o dudalen o ddyddlyfr Cwmni Haearn Glynebwy, 1796. Mae'r gwreiddiol ar gadw yn Archifdy Gwent.

Dyddiaduron a chofnodion teithiau
Gall dyddiaduron a chofnodion teithiau ddatgelu gwybodaeth ddiddorol. Ceir golwg hynod o ddifyr o'r Cymry ac o gefn gwlad Cymru, fel y'u gwelwyd trwy lygaid ymwelydd cynnar, yn nyddiadur Thomas Martyn o Lundain o'i daith trwy dde Cymru ym 1801. Yn y cofnod hwn, mae Martyn yn sôn am fynd am dro o Aberystwyth i Lanbadarn. (Gellir gweld y gwreiddiol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru).

3. Cofnodion lleol mewn mannau eraill
Efallai na fydd rhai o'r cofnodion sy'n ymwneud ag ardal arbennig ar gadw yn yr archifdy lleol mwyaf amlwg, neu efallai y byddant ar gadw mewn archifdy y tu allan i Gymru. Efallai y bydd cofnodion ystadau, yn enwedig, ar gadw yn rhywle arall - roedd gan deuluoedd â thir dai a ddaeth i mewn i'r teulu trwy briodas neu drwy ei etifeddu mewn sawl rhan o Gymru a Lloegr yn aml. Fel arfer, bydd archif y teulu, gan gynnwys cofnodion sy'n ymwneud ag eiddo mewn nifer o wahanol ardaloedd, ar gadw gyda'i gilydd mewn un lle. Yn yr un modd, efallai bydd busnes mwy o faint o'r tu allan i'r ardal yn meddiannu busnes lleol, a rhoddir y cofnodion ar gyfer y ddau ar gadw yn yr archifdy sy'n 'lleol' i'r fenter fwy yn y pendraw. Bydd defnyddio'r holl gatalogau sydd ar gael ar-lein yn eich cynorthwyo wrth chwilio am gofnodion o'r fath (gweler restr yma).
Gellir dod o hyd i gofnodion y bydd haneswyr lleol yn eu gweld yn ddefnyddiol yn yr Archifau Gwladol, hefyd. Maent hwy'n dal cofnodion sy'n ymwneud â'r llywodraeth ac â gweinyddiaeth ganolog Cymru a Lloegr.