
Mae archifau'n dal cyfoeth o wybodaeth ar gyfer ymchwilwyr academaidd ac ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, ac yn enwedig ar gyfer y rheiny sy'n gwneud gwaith ymchwil hanesyddol. Maent yn darparu'r hanesydd â deunyddiau o ffynonellau gwreiddiol; mae yna nifer o gofnodion o werth mawr nad sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer ymchwil academaidd erioed, tra bod ffynonellau eraill yn cynnig potensial mawr ar gyfer eu hail-ddehongli.

Yn wahanol i ddeunyddiau mewn llyfrgell, ni chaiff archifau eu trefnu yn ôl pynciau. Fe'u trefnir yn ôl 'creawdwr' - cedwir yr holl gofnodion a grëir gan unigolyn neu gan sefydliad gyda'i gilydd, fel archif yr unigolyn neu'r sefydliad hwnnw. Bydd archif corff cyhoeddus (cyngor lleol, er enghraifft) yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud ag ystod o bynciau, fel y bydd archif busnes, archif ystâd â thir neu archif unigolyn pwysig y rhoddwyd ei bapurau personol yn ystorfa'r archifdy. Os ydych yn ymchwilio i weithgareddau'r cyngor neu'r busnes, yr ystâd â thir neu'r unigolyn pwysig, mae'n debyg y bydd angen i chi chwilio trwy holl gofnodion yr archifau penodol hyn. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwch am ddod o hyd i gofnodion ar bwnc arbennig. Bydd hyn yn golygu defnyddio cofnodion o sawl archif gwahanol - er enghraifft, os ydych yn ymchwilio i ddatblygiad gwasanaethau iechyd cyhoeddus, mae'n bosibl y bydd angen i chi edrych ar rai cofnodion o archif cyngor lleol, rhai cofnodion o archif unigolyn a oedd yn gysylltiedig â diwygio iechyd cyhoeddus, a chofnodion eraill o sawl archif unigol gwahanol.

Mae yna sawl ffordd o ddod o hyd i archifau sy'n berthnasol i'ch ymchwil:
Efallai y bydd angen i chi edrych ar gofnodion y llywodraeth ganolog ar gyfer rhai pynciau ymchwil. Mae cofnodion Cymru ar gadw yn yr Archifau Gwladol yn Kew, Llundain, yn yr un modd â rhai Lloegr - nid oes 'archifdy cyhoeddus' ar wahân i Gymru, gyda chofnodion y llywodraeth ganolog sy'n ymwneud â'r wlad hon.
