Croeso i Archifau Cymru. Bydd ein catalog ar-lein yn eich galluogi i gael gwybodaeth am dros 7,000 casgliad o gofnodion hanesyddol yn naliadau 21 o archifdai ar draws Cymru, a hynny mewn un chwiliad. Mae’r archifau hyn ar agor i’r cyhoedd a gallwch ddefnyddio’r safle hwn i gynllunio’ch ymweliad a chael mwy o wybodaeth. Mae Archifau Cymru’n ffurfio rhan o Rwydwaith Archifau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
Sut mae catalog Archifau Cymru'n gweithio?
Mae Archifau Cymru'n defnyddio canllawiau chwilio cyfredol y 21 o ystorfeydd sy'n aelodau (rhestrau o gynnwys pob casgliad) er mwyn creu disgrifiad electronig safonol o natur, maint, math ac ystod y cofnodion. Gellir chwilio'r rhain, wedyn, trwy'r wefan.
Pwy sy'n ariannu'r prosiect?
Ariannwyd y prosiect gwreiddiol, a redwyd rhwng 2003-2005, gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gydag arian cyfatebol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a'r cyrff eraill sy'n ffurfio Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Ail-lansiwyd y safle o dan enw Archifau Cymru yn 2009, ar ôl ailwampiad a oruchwyliwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac a ariannwyd gan CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru.
Pwy sy'n cynnal y safle?
Mae'r wefan yn cael ei chynnal gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Dyluniwyd y system er mwyn caniatáu partneriaid i barhau i ychwanegu cofnodion at y wefan.
Pa ddogfennau a gynhwyswyd?
Gofynnwyd i bob ystorfa ddewis ei chasgliadau pwysicaf o ddogfennau. Mae'r rhain yn cynnwys papurau corfforaethol ac archifau busnesau, papurau a dyddiaduron llenorion, artistiaid a gwleidyddion blaenllaw, neu unigolion eraill (sy'n fyw neu sydd wedi marw), archifau ystadau, archifau cynghorau, archifau academaidd ac archifau eglwysi. Mae'r cofnodion i'w cael ar sawl ffurf: llawysgrifau, deunyddiau print, ffotograffau, mapiau a lluniau. Ni fydd y data'n cynnwys deunyddiau nad sydd wedi eu catalogio.
A fedra' i weld y dogfennau ar-lein?
Na fedrwch, yn anffodus. Mae Archifau Cymru'n darparu gwybodaeth am leoliad a natur y ffynonellau, yn ogystal â manylion am sut i gael mynediad at yr ystorfeydd. Mae'n ymddwyn fel mynegai at y ffynonellau yn hytrach na ffynhonnell yn ei hun.
Dyma enghreifftiau o wefannau sy'n dangos delweddau digidol o rai o'r dogfennau gwreiddiol sydd ar gael yng ngwahanol archifau Cymru:
Sut fedra' i chwilio am ddeunyddiau?
Mae'r wefan yn cynnig sawl opsiwn ar gyfer chwilio, gan gynnwys chwiliadau testun syml, chwiliadau pellach gyda meysydd penodol, chwiliadau thematig gan ddefnyddio pynciau, enwau personol neu enwau corfforaethol, a chwiliadau daearyddol.
A fedra' i chwilio am ddogfen unigol?
Na fedrwch. Mae Archifau Cymru'n darparu gwybodaeth ar lefel y casgliad (gan ddisgrifio grŵp o ddogfennau yn hytrach nag eitemau unigol).
Mae gwefannau sy'n eich caniatáu i chwilio ar lefelau eraill yn cynnwys y canlynol:
A yw'r wefan yn ddwyieithog?
Ydy. Mae'r tudalennau gwe a'r cyfleusterau chwilio yn hollol ddwyieithog. Crëwyd y data gwaelodol trwy gyfrwng y Saesneg, felly ni fydd canlyniadau'r chwiliadau'n ddwyieithog.
Eisiau darganfod mwy..?
Hofffech fwy o wybodaeth am adnoddau hanes teulu a hanes lleol a gwasanaethau eraill ar gael yn eich llyfrgell chi? Ewch i llyfrgell.cymru.org